Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yr Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig

Ymchwiliad i’r diwydiannau gwin, cwrw a seidr

Annwyl gyfaill,

Mae’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn bwriadu cynnal ymchwiliad i’r diwydiannau gwin, cwrw a seidr yng Nghymru.

Nod yr ymchwiliad yw asesu sefyllfa bresennol y diwydiannau gwin, cwrw a seidr yng Nghymru, gan gynnwys eu cyfraniad economaidd a’r potensial i’w datblygu a’u hehangu yn y dyfodol. Ar ôl cwblhau’r ymchwiliad, bydd y Pwyllgor yn cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru ac unrhyw gyrff perthnasol eraill.

Mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed sylwadau cynifer o bobl â phosibl sydd â diddordeb yn y maes, a hoffai’ch gwahodd i gyflwyno ymateb ysgrifenedig i’r cwestiynau a geir yn yr atodiad sydd ynghlwm. Mae croeso i chi ateb yr holl gwestiynau, neu’r rhai sy’n berthnasol i’ch profiad chi’n unig.

Bydd y Pwyllgor yn defnyddio’r dystiolaeth ysgrifenedig, ynghyd â’r dystiolaeth lafar a gyflwynir mewn nifer o gyfarfodydd sydd i’w cynnal yn nechrau 2010, i graffu ar waith Llywodraeth Cymru yn y maes a chyflwyno argymhellion iddi. Bydd y cyfarfodydd yn rhai cyhoeddus, a byddant hefyd i’w gweld ar Senedd TV drwy fynd i’n gwefan. Bydd trawsgrifiad gair-am-air o bob cyfarfod hefyd yn cael ei lunio.

Gan ein bod yn awyddus i glywed barn cynifer o bobl a sefydliadau â phosibl, a fyddech cystal ag anfon y llythyr hwn ymlaen at unrhyw un a fyddai’n hoffi ymateb? Gellir gweld copi electronig o’r llythyr ymgynghori ar ein gwefan:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third1/bus-committees-third-rd-home.htm

Rydym yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dylech gyflwyno’ch tystiolaeth yn electronig, os yw hynny’n bosibl.  

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gyflwyno unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig erbyn dydd Gwener, 12 Chwefror 2010, a hynny drwy ei hanfon at Aled Elwyn Jones, Clerc y Pwyllgor:

ruraldev.comm@wales.gsi.gov.uk

Dylid anfon copïau caled i’r cyfeiriad uchod.

Alun Davies AC
Cadeirydd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig

Y cwestiynau ymgynghori ar gyfer yr ymchwiliad i’r diwydiannau gwin, cwrw a seidr:

  • Pa gyfraniad y mae’r diwydiannau gwin, cwrw a seidr yn ei wneud at y sectorau amaeth, bwyd a thwristiaeth yn economi Cymru a pha gyfleoedd sydd ar gael i ddatblygu hyn ymhellach?
  • Pa rwystrau y mae’r diwydiannau gwin, cwrw a seidr yn eu hwynebu a sut y gellir eu goresgyn?
  • Faint o ddefnydd a wneir gan y diwydiannau gwin, cwrw a seidr o gynhwysion sylfaenol a gynhyrchir yn lleol, a pha gyfleoedd sydd ar gael o fewn y diwydiannau hyn yng Nghymru i arallgyfeirio cnydau?
  • A yw’r system gynllunio yn hwyluso neu’n rhwystro datblygu, a pha newidiadau y dylid eu gwneud i’r system?
  • Pa mor effeithiol yw’r gwaith presennol i hyrwyddo gwin, cwrw a seidr o Gymru fel cynnyrch o safon yng Nghymru a thu hwnt?
  • A oes digon o gefnogaeth ar hyn o bryd i gynorthwyo pobl i ddechrau neu ehangu busnesau yn y sector hwn - gan gynnwys cymorth ar gyfer ymchwil a datblygu - ac a yw’r cymorth hwn yn effeithiol?
  • Pa gamau pellach y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddatblygu’r diwydiannau gwin, cwrw a seidr yng Nghymru?

Sylwer:

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad/bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.