Ymchwiliad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig i’r Diwydiannau Gwin, Cwrw a Seidr yng Nghymru: Cylch Gorchwyl
Pwrpas
1. Mae’r papur hwn yn gwahodd yr Aelodau i ystyried y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad craffu yr is-bwyllgor i’r diwydiannau gwin, cwrw a seidr yng Nghymru.
Cefndir
2.Ystyriodd y Pwyllgor bapur cwmpasu ar yr opsiynau ar gyfer cynnal ymchwiliadau yn y dyfodol yn ei gyfarfod ar 1 Hydref, a chytunodd i ystyried y diwydiannau, gwin, cwrw a seidr yng Nghymru fel pwnc ar gyfer ymchwiliad craffu.
Cynhwysir ymchwiliad i’r pwnc yn Rhaglen Waith yr Is-bwyllgor ar gyfer 2010 a gyhoeddwyd ar 30 Tachwedd.
Mae gwybodaeth gefndir ar y diwydiannau gwin, cwrw a seidr yng Nghymru i’w gweld yn Atodiad A, a rhestr arfaethedig o ymgyngoreion yn Atodiad B.
3. Cynigir y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr ymchwiliad:
Asesu sefyllfa bresennol y diwydiannau gwin, cwrw a seidr yng Nghymru yn cynnwys eu cyfraniad economaidd, a’r posibilrwydd ar gyfer eu datblygu a’u hymestyn yn y dyfodol.
Cynnig argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac unrhyw gyrff perthnasol eraill.
Bydd yr ymchwiliad yn ystyried:
Cyfraniad y diwydiannau gwin, cwrw a seidr i’r diwydiant amaeth, bwyd a thwristiaeth yng Nghymru;
Y cyfleoedd sy’n bodoli i ddatblygu’r diwydiannau gwin, cwrw a seidr yng Nghymru ac ar gyfer gwneud y gorau o’r cyfraniad economaidd a wnânt;
Y cyfleoedd a ddarperir gan y diwydiannau gwin, cwrw a seidr ar gyfer arallgyfeirio o ran y defnydd o gnydau a’r defnydd o gynhwysion sylfaenol a gynhyrchir yn lleol.
Y rhwystrau i ddatblygu a wynebir gan y diwydiannau gwin, cwrw a seidr a sut y mae modd goresgyn y rhwystrau hyn;
Yr amodau cynllunio sy’n ofynnol i hwyluso datblygiad;
Y cyfleoedd sy’n bodoli ar gyfer hyrwyddo gwin, cwrw a seidr o Gymru fel cynnyrch safonol, yng Nghymru a thu hwnt;
Y cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i gefnogi sefydlu ac ehangu busnesau yn y sector, yn cynnwys cymorth o ran ymchwil a datblygu.
Holi a fyddai modd i Lywodraeth Cymru wneud rhagor i gefnogi datblygiad y diwydiannau gwin, cwrw a seidr yng Nghymru ac i wneud y gorau o’u cyfraniad i economi Cymru.
Argymhelliad
4. Gwahoddir yr Aelodau i gytuno ar y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad i’r Diwydiannau Cwrw, Gwin a Seidr.
