Yr Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig
Rural Development Sub-Committee
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
22 Ionawr 2008
Annwyl Gydweithiwr,
Mae Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad craffu i dlodi ac amddifadedd yng nghefn gwlad Cymru. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw:- Archwilio materion yn ymwneud â thlodi ac amddifaded yng nghefn gwlad Cymru;
- Craffu ar bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru i weld pa mor berthnasol ac effeithiol ydynt yn y maes hwn.
- Plant a phobl ifanc;
- Pobl sy’n economaidd weithgar;
- Pobl sy’n economaidd anweithgar;
- Pobl hŷn.
Ceir sawl diffiniad o dlodi ac amddifadedd. Nodwyd y gwahaniaeth a ganlyn rhwng tlodi ac amddifadedd ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (1) a gyhoeddwyd yn ystod haf 2007:
"Mae tlodi’n golygu bod heb ddigon o arian (neu hanfodion eraill) i’ch cynnal. Mae amddifadedd yn cyfeirio at y problemau sy’n deillio o ddiffyg adnoddau a chyfleoedd yn gyffredinol (nid arian yn unig)”.
Cytunwyd yn gyffredinol bod naw ardal Awdurdod Lleol yng Nghymru sy’n wledig yn bennaf, sef Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod gan Awdurdodau Lleol eraill nodweddion ac ardaloedd gwledig, er enghraifft Sir y Fflint, Bro Morgannwg a Wrecsam. Er bod y diffiniadau hyn o bosibl yn ddefnyddiol, hoffai’r Pwyllgor weld ymatebwyr yn canolbwyntio ar brofiadau pobl ac a yw polisïau gwrthdlodi yn mynd i’r afael ag anghenion ardaloedd gwledig yn hytrach na’n ceisio diffinio 'tlodi’ a 'gwledig’.Ni fydd pob cwestiwn yn berthnasol i bob ymgynghorai; atebwch y cwestiynau hynny sy’n berthnasol yn eich barn chi.
Cyffredinol
1. Beth yw’r problemau y mae ardaloedd gwledig yn eu hwynebu o ran tlodi? Beth yw anghenion penodol ardaloedd gwledig mewn cysylltiad â’r mater hwn? 2. Ai Llywodraeth Cynulliad Cymru neu Awdurdodau Lleol ddylai delio â gweithgarwch gwrthdlodi? Pam? 3.i) Pa fentrau gwrthdlodi (mentrau Llywodraeth Cynulliad Cymru neu fentrau Awdurdodau Lleol) rydych yn ymwybodol ohonynt? 3.ii) A yw’r polisïau gwrthdlodi hyn yn mynd i’r afael ag anghenion ardaloedd gwledig yn ddigonol? 4. Pa fesurau penodol y byddech am weld Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu rhoi ar waith i ddelio â materion sy’n ymwneud â thlodi yng nghefn gwlad Cymru? 5. Pa enghreifftiau o arfer da rydych yn ymwybodol ohonynt yng Nghymru/ rhannau eraill o’r DU/ tramor?Grwpiau poblogaeth
Mae’r cwestiynau isod yn canolbwyntio ar dlodi ac amddifadedd mewn cysylltiad â phlant a phobl ifanc, pobl sy’n economaidd weithgar, pobl sy’n economaidd anweithgar a phobl hŷn.
Ar gyfer pob un o’r grwpiau (neu ba bynnag un sy’n berthnasol i chi), ystyriwch y cwestiynau a ganlyn:
6. I ba raddau y mae’r grwpiau hyn yn byw mewn tlodi yng nghefn gwlad Cymru?
7. Pa faterion yn ymwneud â thlodi y mae’r grwpiau hyn yn cael profiad ohonynt ac sy’n benodol i ardaloedd gwledig? Nodwch unrhyw dystiolaeth neu waith ymchwil perthnasol rydych yn ymwybodol ohoni/ohono.
8. Sut y mae problemau’r pedwar grŵp yn gwahaniaethu ledled Cymru wledig (er enghraifft, rhwng ardaloedd yng Ngorllewin Cymru a Dwyrain Cymru)?
9. Ym mha ffyrdd yr effeithir ar is-grwpiau o fewn y pedwar grŵp gan dlodi gwledig, er enghraifft pobl anabl sy’n economaidd anweithgar neu fenywod hŷn?
10. Beth yw’r ffyrdd mwyaf effeithiol o fynd i’r afael â thlodi i unigolion o’r grwpiau hyn sy’n byw mewn ardaloedd gwledig o Gymru?
11. Sut y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru fynd i’r afael â’r problemau hyn?
Gwahoddir partïon sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor gan ddefnyddio’r cyfeiriad uchod, i gyrraedd erbyn dydd Gwener 7 Mawrth 2008 fan bellaf. Os yw’n bosibl, anfonwch gopi electronig ar ffurf MS Word neu Rich Text, naill ai drwy e-bost i Sustainability.comm@Wales.gsi.gov.uk
neu ar ddisg.Datgelu gwybodaeth
Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. Felly, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu dystiolaeth atodol i adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ddata personol yn ei farn ef.
Os bydd cais am wybodaeth a gyflwynir o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen i ni ddatgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol am ddibenion cyhoeddi.
Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth ar wahân i ddata personol, nad yw’n addas i’w ddatgelu’n gyhoeddus yn eich barn chi, eich cyfrifoldeb chi fydd nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi rheswm dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn pan fydd yn cyhoeddi gwybodaeth neu’n ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Yn gywir
