Y Pwyllgor Cynaliadwyedd
SC(3)-19-09 (p1): 22 Hydref 2009
Adroddiad ar y Gyllideb
Cefndir
1. Mae'r Pwyllgor wedi ystyried y cynlluniau gwariant ar gyfer blaenoriaethau cynaliadwyedd Llywodraeth Cynulliad Cymru fel y’u nodir yn Dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2010/11 a’r dogfennau cysylltiedig.
2. Craffodd y Pwyllgor ar Dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2010/11 ar 14 Hydref 2009, pan glywodd dystiolaeth gan Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Mathew Quinn, Cyfarwyddwr Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai; a Sian Way, Uwch-reolwr Cyllid Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.
3. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad a manylion pellach ar y materion canlynol yn ystod y cyfarfod:
- Nifer a gwerth y ceisiadau a wnaed gan y Gweinidog ar gyfer y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol (SCIF)
- Ariannu’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (HEES); yn benodol, y dulliau ar gyfer adnabod y rhai sy’n dioddef o dlodi tanwydd a’r dyraniad o fuddsoddi cyfalaf.
- Y graddau y gall y Gweinidog ddylanwadu ar ddyraniadau cyllidebau Gweinidogion eraill er mwyn cyflawni amcanion cyffredinol datblygu cynaliadwy.
- Y defnydd o gyllid cyfalaf a roddir i awdurdodau lleol allan o gyllideb Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.
- Y defnydd o gronfeydd cydgyfeirio ar gyfer gweithredu gofynion y Mesur Seneddol ynghylch Rheoli Llifogydd a Dwr.
- Cyfrifoldebau’r Gweinidog o dan y Strategaeth Swyddi Gwyrdd.
- Goblygiadau cyllidebol yn deillio o ddatganoli Rheoliadau Adeiladu.
- Arbedion effeithlonrwydd yn y sector gwastraff.
4. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am y materion a ganlyn:
Manylion am y prosiectau sy'n cael eu hariannu trwy SCIF.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus yn gofyn am wybodaeth ynghylch sut y mae SCIF yn gweithredu.
5. Yn dilyn y sesiwn, mynegodd y Pwyllgor bryder am y materion a ganlyn:
- Y defnydd a wneir gan awdurdodau lleol o’r £18 miliwn o gyllideb cyfalaf Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai. Er i’r Gweinidog ddweud y rhoddir yr arian i awdurdodau lleol er mwyn cyflawni amcanion cynaliadwyedd ac amgylcheddol, mae’r Pwyllgor yn pryderu, gan nad yw’r arian wedi ei neilltuo, ei bod yn anodd dweud sut y mae'r arian yn cael ei wario gan awdurdodau lleol.
- Dibyniaeth cyllideb y Gweinidog ar geisiadau SCIF ac arian o’r Undeb Ewropeaidd. Er bod y Pwyllgor yn croesawu’r ceisiadau sylweddol a wnaed gan y Gweinidog, mae’n pryderu ynghylch beth fyddai'n digwydd i'r cynlluniau arfaethedig yr oedd disgwyl eu hariannu petai’r ceisiadau’n aflwyddiannus. Mae’r Pwyllgor yn pryderu’n arbennig ynghylch y ddibyniaeth ar Gronfeydd Cydgyfeirio Ewropeaidd ar gyfer gweithredu’r Mesur Seneddol arfaethedig ynghylch Rheoli Llifogydd a Dwr ac effaith dod â Chyllid Cydgyfeirio i ben yn 2013.
- Y costau sy'n gysylltiedig â datganoli Rheoliadau Adeiladu yn 2011. Yn ystod ymddangosiad y Cwnsler Cyffredinol gerbron y Pwyllgor Cyllid ar 12 Hydref, soniodd am swm o £10 miliwn fel y gost o ddatganoli Rheoliadau Adeiladu i Weinidogion y Cynulliad, ond dywedodd mai swm a roddwyd tua tair blynedd yn ôl oedd hwn. Dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn ystod ei sesiwn dystiolaeth i'r Pwyllgor Cynaliadwyedd na fyddai unrhyw gostau ychwanegol ynghlwm â hyn cyn 2011-2012.
Argymhellion
Argymhelliad 1: Bod y Gweinidog yn nodi amcanion allweddol o’i phortffolio ei hun y gallai Llywodraeth Leol eu cyflawni gan yr arian a ddyrennir i awdurdodau lleol gan Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, a’i bod yn monitro’r camau a wneir ganddynt mewn perthynas â’r amcanion hyn.
Argymhelliad 2: Bod y Gweinidog, yn ogystal â’r cam uchod, yn gweithio gyda'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol i sicrhau bod amcanion cynaliadwyedd ac amgylcheddol yn cael eu cyflawni gan raglenni gwariant cyfalaf awdurdodau lleol.
Argymhelliad 3: Bod y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn darparu gwybodaeth glir i'r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Tai am sut y mae’r swm o £18 miliwn sy'n cael ei chymryd o’i chyllideb cyfalaf hi’n cael ei gyfrifo.
Argymhelliad 4: Bod y weinyddiaeth bresennol yn gweithio i sicrhau y bydd digon o gyllid cyfalaf i weithredu amodau Mesur Seneddol arfaethedig Rheoli Llifogydd a Dwr pan ddaw’r Cronfeydd Cydgyfeirio i ben yn 2013.
Argymhelliad 5: Bod y gwir gostau sy'n gysylltiedig â datganoli Rheoliadau Adeiladu yn cael eu cyfrifo a'r amserlen ar gyfer y costau hynny’n cael ei nodi’n glir
