Adroddiad Cyllideby Pwyllgor Cynaliadwyedd
1. Mae’r pwyllgor wedi trafod ei gynlluniau gwario ar gyfer blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran cynaliadwyedd fel y’u nodir yng Nghynigion y Gyllideb Ddrafft 2009/10 a’r dogfennau cysylltiedig.
2.Bu’r pwyllgor yn craffu ar Gynigion y Gyllideb Ddrafft 2009/10 ar 16 Hydref 2008, pan glywodd dystiolaeth gan Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Claire Bennett, Pennaeth yr Adran Newid yn yr Hinsawdd a Dwr; Philip Nash, Pennaeth Strategaeth Gorfforaethol a Jasper Roberts, Pennaeth yr Uned Gwastraff ac Ansawdd yr Amgylchedd Lleol.
3. Gofynnodd y pwyllgor am eglurhad a rhagor o fanylion ynghylch y pwyntiau a ganlyn yn ystod ei sesiwn graffu gyda’r Gweinidog:
·Lefel y gwariant yr ymrwymwyd iddi yn y gyllideb ddrafft.
·Nifer y ceisiadau am arian o’r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol a wnaed gan y Gweinidog, a’u gwerth.
·Nifer a gwerth y ceisiadau am arian gan yr UE a wnaed gan y Gweinidog
·Yr arian ar gyfer y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (HEES) a’r cynllun HEES newydd. Yn benodol, y dulliau o nodi’r rhai sy’n dioddef tlodi tanwydd a dyrannu buddsoddiadau cyfalaf.
·Cyflwyno a blaenoriaethu amcanion strategaeth yr amgylchedd.
·Cyflwyno ac ariannu cynlluniau i gyflawni’r targed i sicrhau gostyngiad o 3% mewn carbon erbyn 2011 ac esboniad o ran pryd y bydd y rhaglen hon yn dechrau.
·A yw’r gyllideb yn darparu ar gyfer y raddfa chwyddiant?
·Y penderfyniad i gynyddu dim ond gwariant refeniw ar gyfer gwariant ar wastraff.
·Arian ar gyfer draenio dwr wyneb
·Goblygiadau posibl o ran fformiwla Barnett yn dilyn deddfwriaeth San Steffan a’r Mesurau Morol a Chynllunio’n benodol.
·Darpariaethau’r gyllideb ar gyfer y Gorchymyn ynghylch Diogelu’r Amgylchedd a Rheoli Gwastraff.
4. Cytunodd y Gweinidog i roi rhagor o wybodaeth am y pwyntiau a ganlyn:
·Rhestr o brosiectau cyfalaf arfaethedig
·Dadansoddiad o gais SCIF am £46 miliwn ar gyfer HEES
·Nodyn am y buddsoddiad arfaethedig mewn gwastraff
5. Ar ôl y sesiwn, nododd y pwyllgor eu pryderon am y pwyntiau a ganlyn:
·Y ffaith bod cyllideb y Gweinidog yn dibynnu ar geisiadau am arian o’r Gronfa Buddsoddiadau Cyfalaf Strategol neu gan yr Undeb Ewropeaidd. Er bod y pwyllgor yn croesawu’r ceisiadau sylweddol a wnaed gan y Gweinidog, roeddynt yn pryderu am yr hyn a fyddai’n digwydd i’r cynlluniau arfaethedig yr oeddynt i fod i’w hariannu pe na bai’r ceisiadau hyn yn llwyddiannus. Roeddynt yn pryderu’n benodol am y ffaith bod y gyllideb yn dibynnu ar lwyddiant y cais am £46 miliwn i fynd i’r afael â phroblem gynyddol tlodi tanwydd yng Nghymru ac i gyfrannu at darged Cymru’n Un i sicrhau gostyngiad o 3% mewn allyriadau carbon ynghyd â thargedau microgynhyrchu Llywodraeth Cynulliad Cymru.
·Diffyg paratoi o du’r Llywodraeth, yn enwedig Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, sef yr adran arweiniol, yn yr ymdrech i gyrraedd y targed i sicrhau gostyngiad o 3% mewn allyriadau carbon erbyn 2011. Teimlai’r pwyllgor y byddai angen cynyddu’r buddsoddiad yn ystod 2009-10 er mwyn paratoi’n ddigonol i gyrraedd y targed hwn a rhaid sicrhau bod esboniad brys yn cael ei roi o ran pryd y bydd rhaglen y Llywodraeth ar ostyngiad o 3% mewn allyriadau carbon yn dechrau .
·Diffyg buddsoddiad cyfalaf yn HEES. Roedd y pwyllgor yn amau a oedd modd rhoi’r cynllun ar waith, ac oherwydd y bwriad i newid y meini prawf awgrymodd y byddai angen blaenlwytho’r gyllideb i ateb y galw a ragwelir ar ddiwedd rhaglen bresennol HESS a dechrau’r rhaglen newydd.
·Y gostyngiad o £8.1 miliwn yn y cynlluniau drafft ar wario ar wastraff a’r polisi arfaethedig o sicrhau £500 miliwn o’r farchnadfa i roi’r polisi gwastraff ar waith. Roedd y maes hwn yn peri cryn bryder i’r pwyllgor o gofio hinsawdd y farchnad ar hyn o bryd.
·Lefel y buddsoddiad cyfalaf arfaethedig mewn mesurau amddiffyn rhag llifogydd, yn cynnwys y rhai a nodwyd ar gyfer ceisiadau am arian o’r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol a chan yr Undeb Ewropeaidd, a gallu’r adnoddau arfaethedig i ddiwallu’r angen i wella’r mesurau amddiffyn rhag llifogydd. Roedd y pwyllgor yn pryderu am y system gymhleth ar gyfer buddsoddi yn y maes hwn a oedd yn cynnwys y Llywodraeth, Awdurdodau Lleol a chwmnïau dwr gan nad oedd yn glir pwy oedd yn gyfrifol am y gwariant.
Argymhellion
6. Mae’r pwyllgor, gan hynny, yn argymell:
·Bod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn paratoi cynllun manwl, yn nodi o ble y daw’r arian cyfalaf ychwanegol i sicrhau bod modd gweithredu’r prosiectau y bwriedir eu cyflwyno drwy ddefnyddio arian SCIF a’r Undeb Ewropeaidd, os bydd y ceisiadau hynny’n aflwyddiannus.
·Bod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn adolygu’r paratoadau y mae angen ymgymryd â nhw yn ystod 2009-10 i sicrhau gostyngiad o 3% (neu ragor) bob blwyddyn mewn allyriadau carbon o 2011 ymlaen ac yn sicrhau bod digon o arian ar gael yn ei hadran ei hun ac yn adrannau Gweinidogion eraill i sicrhau’r newidiadau priodol.
·Bod y Gweinidog yn adolygu’r gwaith o gyflwyno cynllun newydd HESS ac yn dyrannu arian ychwanegol ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun i sicrhau bod modd ariannu’r holl geisiadau newydd a’r holl geisiadau a wnaed eisoes.
·O gofio bod mwy o risg o lifogydd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, mae’r pwyllgor yn argymell y dylai’r Gweinidog geisio buddsoddi mwy o adnoddau o’i chyllideb ar gyfer gwariant cyfalaf ar fesurau amddiffyn rhag llifogydd.
