Cynulliad Cenedlaethol Cymru

SC(3) CR-R9

Y Pwyllgor Cynaliadwyedd

Leihau allyriadau carbon yng Nghymru: Lleihau allyriadau carbon yn y sector preswyl

Ymateb gan yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cydweithio o dan faner Cymdeithas Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol Cymru (CAPCC)

Annwyl Mr Bates

Ynglyn â’r Ymchwiliad Lleihau Carbon

Mae’r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol (APCau) yng Nghymru – sy’n cydweithio fel Cymdeithas Awdurdodau Parc Cenedlaethol Cymru (CAPCC) – yn ddiolchgar am y cyfle hwn i roi sylwadau ar Leihau Carbon yng Nghymru - lleihau carbon preswyl.

Cefndir

CAPCC yw corff corfforaethol y tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru ac mae’n bodoli mewn ymateb i’r dargyfeiriad gwleidyddol a pholisi a ddaeth yn sgil setliad datganoli 1999.

Mae gan y Parciau Cenedlaethol ddau bwrpas statudol yn y Ddeddf Amgylchedd 1995:-

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol.
  • Hybu cyfleoedd y cyhoedd i ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Parc.

Wrth gyflawni’r pwrpasau hyn, mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddyletswydd:-

  • I geisio meithrin lles economaidd a chymdeithasol y cymunedau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol. Y 3 Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru

Cydnabyddir nodweddion arbennig y 3 Parc Cenedlaethol ac maent yn cael eu hedmygu gan breswylwyr lleol a defnyddwyr allanol fel ei gilydd, ac mae  Awdurdodau Parc Cenedlaethol wedi derbyn cydnabyddiaeth uchel fel arweinwyr rheoli’r dirwedd. Mae’n iawn cydnabod fod newid hinsawdd yn her sylweddol i’r rheiny sy’n gweithio yn y sector tirwedd a ddiogelir, ac rydym yn gobeithio defnyddio ein profiad er budd eich Pwyllgor.

1 A yw’r targed o 3% o leihad blynyddol arfaethedig erbyn 2011 ‘mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig’ yn ddigonol i alluogi Cymru wneud cyfraniad llawn tuag at gwrdd â thargedau DU-eang? Os nad yw, pa dargedau a ddylid eu rhoi yn eu lle?

Cymerwn yn ganiataol y bydd y lleihad yn cael ei osod yn erbyn y flwyddyn sail 1990, pan roedd gollyngiadau Cymru yn 13.4 Miliwn tunnell o Garbon (MtC) Potensial cynhesu byd-eang www.countryside.wales.gov.uk/fe/fileupload_getfile.asp?filePathPrefix=391&fileLanguage=e.pdf. O gofio targed lleihad y DU o 20% erbyn 2010, mae angen i ni gyrraedd lefel gollyngiadau Cymru o 10.7 MtC GWP erbyn 2010, a 5.36 MtC GWP erbyn 2050.

Y ffigwr ar gyfer 2003(1) yw oddeutu 12.3 MtC GWP(2) Strategaeth Amgylcheddol Cymru, t.23. Ni allwn ddod o hyd i ffigwr 2007, ond os cymerwn yn ganiataol fod hwn hefyd yn 12.3, yna rydym yn cyfrifo y byddai 3% o leihad blwyddyn ar flwyddyn hyd yn oed o’r amser presennol yn dod â ni at y targed o 20% tua 2012 (hwyr), ac at y targed o 60% erbyn tua 2035 (o flaen amser).

Ar y sail hon, mae’r targed dan sylw’n annigonol; mae angen 5% blwyddyn ar flwyddyn (b.a.f.) o nawr tan 2010 er mwyn cwrdd â tharged 2010, er ar raddfa ddilynol is: byddai 3% b.a.f. o 2010 yn arwain at gyflawni’r targed o 32% posib y Mesur Newid Hinsawdd erbyn 2020.

Mae’r Mesur Newid Hinsawdd yn cynnig cyllidebau carbon 15-mlynedd; efallai fod gweithio gyda’r rhain yn ogystal ag uwchben y llinell duedd yn rhoi ffordd ymarferol ymlaen, o gofio (a) fod lleihad gollyngiadau yn fwy tebygol o symud ymlaen fesul cam, h.y. gyda chyfnodau o gynnydd cyflym a chyfnodau ble mae llai o newid, a bod (b) angen lleihad mwy sylweddol yn gynnar, os ydym am gyflawni lleihad o 20% o sail 1990 erbyn 2010.

Buasem yn ychwanegu fod “brig olew a nwy” yn gosod arnom hyd yn oed fwy o frys, petai angen hynny, i leihau carbon – mater a drafodir fel arfer yn nhermau newid hinsawdd.

2 A ddylai’r targed lleihad gollyngiadau gael ei seilio ar ddefnydd ynteu cynhyrchiant Cymru, neu’r ddau (hy. a ddylai gymryd i ystyriaeth y CO2 a gynhyrchir yng Nghymru (cynhyrchiant), ynteu’r gollyngiadau CO2 mae preswylwyr Cymru yn gyfrifol amdanynt, waeth beth fo’r ffynhonnell (defnydd))?

Dylai targedau fod yn berthnasol i ddefnydd a chynhyrchiant (o dan y diffiniad a roddir yn y cwestiwn, bydd defnydd yn cynnwys peth cynhyrchiant). Ein rheswm dros hyn yw bod y ddwy yn elfennau o ôl-troed economaidd Cymru a bod gollyngiadau carbon yn fater byd-eang.

Tra dylai partneriaid ganolbwyntio ar ble y gellir gwneud enillion cyflym, rydym angen ar yr un pryd rhoi mesurau yn eu lle ar gyfer lleihad tymor hirach ar draws yr holl sectorau.

3 Pa heriadau neilltuol mae Cymru’n wynebu wrth leihau gollyngiadau CO2 o gartrefi, a sut gellir goresgyn yr heriadau hyn?

Mae rhai heriadau’n gysylltiedig â lleihad cartrefi, yn y drefn fras y doir ar eu traws:

  • Ni all/yw deiliaid tai yn gweld budd lleihad ynni/mae ganddynt flaenoriaethau eraill
  • Anwybodaeth o dechnoleg neu ddrwg dybiaeth o dechnolegau newydd
  • Amser/cost/ymdrech caniatâd cynllunio
  • Amser/ymdrech cael mynediad at grantiau
  • Diffyg gosodwyr achrededig
  • Amrywiaeth eang mewn amcan brisiau
  • Cost/amser/ymdrech gosod
  • Costau gwasanaethu ac argaeledd peirianwyr cynnal a chadw cymwys

Rhai atebion i’r problemau yw:

  • Parhau i addysgu pob cynulleidfa, a safonau gorfodol e.e. BREEAM mewn adeiladau newydd a rhai wedi eu gwella. Gall yr holl negeseuon ‘gwyrdd’ fod yn ategol ac adeiladu ar ei gilydd – e.e. mae ailgylchu yn boblogaidd ac mae arbed ynni yn ffurf arall ar ymwybyddiaeth gwastraff – beth am adeiladu ar y ffordd o feddwl werdd gynyddol a chael budd ohoni.
  • Ailgysylltu pobl gyda’i defnydd o ynni (a gwastraff) trwy RE cymuned/domestig wedi ei raddio a’i osod yn briodol – ei wneud yn norm. Gall tyrbinau allbwn uwch olygu nad oes raid eu gosod bellach mewn llefydd mor amlwg (lle mae llawer o wynt)
  • Cynghorwyr ariannol annibynnol i gynorthwyo deiliaid tai i wneud y penderfyniadau iawn
  • Gwneud grantiau ar gyfer micro gynhyrchiant yn hawdd cael atynt yng Nghymru. Cyflunio gyda Rhaglen Adeiladau Carbon Isel y DTI.
  • Cyllido canolog rhaglenni graddfa fawr effeithiolrwydd/RE cymunedol/ graddfa ddomestig

Fodd bynnag, hyd yn oed os goresgynnir problemau, mae yna’r ffenomenon o gartrefi yn cael cyfarpar ychwanegol sy’n defnyddio ynni, neu’n eu rhedeg am amser hirach ayb. am yr union reswm eu bod yn costio llai i’w rhedeg - h.y. mae’r defnydd ynni net yn aros run fath. Efallai y byddai galluogi deiliaid tai i werthu eu swrplws i’r grid yn gymorth i leihau hyn, neu efallai na fyddai, ac mae goblygiadau i’r llywodraeth yn nhermau trethi trydan/ tanwydd a chymhelliant arall i leihau  defnydd.

4 I ba raddau mae LlCC wedi bod yn llwyddiannus mewn defnyddio’r pwerau sydd ar gael iddi er mwyn lleihau gollyngiadau CO2 cartrefi?

Mae LlCC wedi darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth ar y mater a thrwy fesurau wedi eu targedu fel y Cynllun Effeithiolrwydd Ynni Cartrefi a chefnogi gwefannau Cymru’n Arbed Ynni a Thargedu Effeithiolrwydd Ynni yng Nghymru. Bydd y Cynllun Gweithredu Micro gynhyrchu, o fewn cyd-destun esblygol Map Llwybr Ynni Cymru, yn gymorth i ategu’r mesurau effeithiolrwydd hynny, yn ogystal â chodi proffil adnewyddadwyon graddfa fechan a lleihau dibyniaeth ar ynni canoledig, wedi ei seilio am danwydd ffosil.

Mae LlCC wedi ceisio creu fframwaith cymhelliant gydag awdurdodau lleol i’w cael i roi ar waith fesul cam gynlluniau mesurau arbed ynni graddfa eang. Mae’r Cytundebau Polisi, ac yn enwedig 7b, wedi ceisio gosod targedau, yr oedd gwobr ariannol i’w chael ar eu diwedd. Fodd bynnag, nid oedd cosb gyfatebol am beidio cyflawni’r targedau. Mae HECA wedi bod lawn mor aneffeithiol gyda chyflawni lleihad o 30% dros ddeng mlynedd (gweler Adroddiad Comisiwn Archwilio Cymru i HECA).

Darparwyd cyngor i ddeiliaid tai trwy gyfrwng y rhaglen Canolfan Gynghori Effeithiolrwydd Ynni'r Ymddiriedolaeth Effeithiolrwydd Ynni - yn cael ei gyllido’n uniongyrchol gan DEFRA, ac felly ddim yn destun i ymyrraeth gan LCC.  Felly ni ellir priodoli’r llwyddiannau hyn i LCC.

Mae rhaglen ymwybyddiaeth Newid Hinsawdd newydd nawr, ond hyd at y pwynt hwn, nid oedd LlCC wedi gwneud llawer i amlygu’r materion (yn yr un ffordd ag y mae wedi gwneud gyda lleihad gwastraff ac ailgylchu, er enghraifft).

Mae newid hinsawdd a lleihau carbon wedi ymddangos mewn nifer o strategaethau ac ymgynghoriadau, ond yr oedd bob amser ddiffyg cyswllt rhwng strategaeth a gweithredu. Yn ddiweddar, mae’r Cynllun Gweithredu Micro gynhyrchu wedi ymrwymo i gefnogi Rhwydwaith Ynni Cynaliadwy yng Nghymru i ddarparu cyngor ac arweinyddiaeth i gartrefi a chymunedau, mae ganddo dargedau uchelgeisiol ar gyfer gosodiad micro gynhyrchiant, ond efallai mai dyma’r ymdrech orau a wnaethpwyd gan LCC hyd yn hyn.

Gellid dadlau’n fod LlCC wedi cefnogi prosiectau’n anuniongyrchol trwy ei mecanweithiau cyllido - SDF, CCGC ayb. Ond nid yw hyn yn rhan o gynllun cydlynol ac mae’n dibynnu’r fawr ar effeithiolrwydd y prosiectau sydd wedi eu cyllido.

5 A all targedu amgen o adnoddau ariannol LlCC arwain at fwy o leihad mewn gollyngiadau o gartrefi nag sy’n cael ei gyflawni ar hyn o bryd? Os felly, ble allai adnoddau ychwanegol arwain at yr effaith fwyaf? (Darperwch fanylion i gefnogi’ch tystiolaeth, os gwelwch yn dda.)

Mae nifer o gynlluniau mesurau effeithiolrwydd ynni o gwmpas. Mae’r rhan fwyaf yn cael eu rhedeg gan y cyfleustodau o dan eu hymrwymiadau EEC. Mae hyn yn darparu mesurau disgownt i’r sector medru-talu a mesurau am ddim i grwpiau blaenoriaeth. Y mesurau hyn, fodd bynnag, yw’r rhai mwyaf cyffredin a chost effeithiol, insiwleiddio wal geudod ac insiwleiddio llofftydd. Mae rhai cynghorau yn rhedeg eu cynlluniau eu hunain. e.e. mae Powys yn rhedeg cynllun CO2i a Sir y Fflint gyda’r cynllun FlintsUlate, sy’n rhoi grantiau ychwanegol i ddeiliaid tai. Mae LlCC yn cyllido cynllun HEES sy’n ymwneud mwy â lleddfu tlodi tanwydd nag arbed ynni – weithiau gall un ategu a gwella’r llall.

Mae ymchwil wedi ei wneud ar y nifer a lleoliad o dai waliau soled ac oddi ar nwy (<http://www.energyefficiencywales.org.uk/>) Mae’n dangos fod nifer sylweddol o eiddo anodd ei drin sy’n disgyn tu allan i’r holl gynlluniau cyffredin. Mae’r fath gartrefi angen mesurau fel cladio mewnol neu allanol, paneli insiwleiddio wedi eu gosod mewn codiadau to, yn gyffredinol mesurau mwy technoleg-uwch a drutach nag mae rheolwyr cynlluniau eisiau eu hariannu. Er mwyn cael effaith ar y stoc dai presennol, yn sicr yn y Gymru wledig, gellir gwneud arian ar gael ar gyfer y mesurau hyn.

Gallai safonau newydd ar gyfer adeiladau newydd wneud effaith fawr, barhaol, er bod y gyfran o’r stoc dai sy’n newydd yn ddibwys ar y funud. Ond byddai gorfodi safonau uwch mewn adeiladau a datblygiadau newydd yn ddechreuad. Mae ymrwymiad i geisio datganoli rheoliadau adeiladu, ond dylai hyn gyd-fynd â’r dull gorfodaeth. Mae materion cynllunio wedi eu trafod mewn man arall.

Gyda micro gynhyrchiant, fel rydym eisoes wedi nodi, gall pobl wneud cysylltiad mwy amlwg rhwng cyflenwad ynni a’r angen i leihau’r galw. Byddai croeso i Raglen Adeiladau Carbon Isel Cymru. Byddai hyn yn cynorthwyo estyniad o’r farchnad ynni adnewyddadwy ar raddfa fach. Yn ychwanegol, byddai angen cael ariannu cyfatebol mewn cynllun achrededig a chynllun hyfforddi er mwyn sicrhau marchnad gadarn ac un o ansawdd. Ni fuasem eisiau estyniad mewn galw i greu gwactod a fyddai’n cael ei lenwi gan ‘gowbois’ neu gwmnïau rheibus.

Y brif her i hyn oll yw mai go fychan yw’r arbediad, hyd yn oed pe defnyddid yr holl safleoedd micro gynhyrchiant posib. Ond mae’n cyflawni pwrpas diddyfnu’r boblogaeth oddi ar ei dibyniaeth ar danwydd ffosil, sy’n allweddol am nifer o resymau. Nid lleiaf, materion cynaladwyedd cyffredinol, a rhagolygon Brig Olew ac argyfwng ynni ac economaidd dilynol.

6 Pa enghraifft o’r gweinyddiaethau eraill (datganoledig, DU, a thramor) ble mae dulliau eraill wedi cael eu defnyddio i gyflawni lleihad mewn gollyngiadau CO2 cartrefi, y gellid eu mabwysiadu yng Nghymru o dan bwerau presennol?

Cwotâu ynni y gellir eu masnachu (3) http://en.wikipedia.org/wiki/Personal_carbon_trading (TEQs -a fyddai’n ymwneud â’r holl wariannau carbon domestig (e.e. yn cynnwys hedfan) nid dim ond gollyngiadau cartrefi) – byddai system fel hon (yn debyg i system cerdyn credyd) werth ei hystyried oherwydd efallai na fydd y dull addysgol/ gwirfoddol yn cael yr effaith ddymunol o fewn yr amserlen ddewisol. Mae gan TEQs y fantais o allu rhoi cap ar wariant carbon casgliadol cartrefi, a byddai’n gyson â’r EU ETS a chynigion yn y Mesur Newid Hinsawdd.

7 Yng nghyd-destun Llywodraeth Cymru 2006, pa ffyrdd pellach o leihau gollyngiadau CO2 o gartrefi y gellir eu cyflawni’n unig trwy gyflwyno cymhwysedd deddfwriaethol pellach i GCC?

Byddai’r system ddylunio a chynllunio yn sicrhau fod unrhyw adeiladau/stadau/datblygiadau newydd gyda chanran leiafsymiol o ynni oddi wrth ffynonellau amgen o ynni.

Defnyddio Cynllun Gofodol Cymru i sefydlu rhwydweithiau ynni dosranedig - efallai wedi ei seilio yn y lle cyntaf ar ‘Drefi Trawsnewidiol’, ble byddai cefnogaeth gyhoeddus ac eiriolwr/wyr eisoes yn bodoli.

8 Os oes targedau gollyngiadau CO2 penodol i’w gosod i Gymru, a ddylai’r targedau hynny gael eu hisrannu i ddosraniad fesul sector? Os felly, pa gyfran o’r cyfanswm ddylai lleihad gan gartrefi ei gynnwys?

Dylid dosrannu cyfrannau trwy ystyried y gollyngiadau cyffredinol ac enillion posib. Efallai y byddai’n decach gosod targedau fesul sector ar lefel y DU. Bydd sectorau gyda gwahanol sgôp ar gyfer lleihad prydlon (o’i gymharu â 3/5/10 mlynedd).

Rydym yn ystyried fod y sector cartrefi yn un ble y gellir gwneud enillion cyflym; mae’n un o’r pedair sector gyfrannol fwyaf yng Nghymru http://www.airquality.co.uk/archive/reports/cat07/0709180907_DA_GHGI_report_2005.pdf a bydd enillion bychan ym mhob cartref yn crynhoi. Nid ydym yn medru awgrymu beth y dylai’r fath ddyraniad o leihad fod. Dylai unrhyw fesurau a weithredir wrth gwrs ddiogelu’r rhai bregus e.e. y tanwydd tlawd, ac yn wir gellid targedu’r mesurau (gan fod ariannu wedi bod drwy’r HEES) i wneud y bregus ymhlith y rhai cyntaf i dderbyn buddiannau.

Unwaith eto, diolch i chi am y cyfle i wneud sylwadau. Mae ymateb CAPCC i’r Papur Gwyn yn ymdrech gydlynol rhwng yr holl Awdurdodau Parc Cenedlaethol yng Nghymru(4).  Os ydych angen gwybodaeth bellach yng nghyswllt unrhyw un o’r atebion uchod, teimlwch yn rhydd i gysylltu â mi yn y lle cyntaf, os gwelwch yn dda,

Yn ddiffuant,

Greg Pycroft
Swyddog Polisi Cymru

Cymdeithas Awdurdodau Parc Cenedlaethol Cymru

(1) www.countryside.wales.gov.uk/fe/fileupload_getfile.asp?filePathPrefix=391&fileLanguage=e.pdf
(2) Strategaeth Amgylcheddol Cymru, t.23
(3) http://en.wikipedia.org/wiki/Personal_carbon_trading
(4) http://www.airquality.co.uk/archive/reports/cat07/0709180907_DA_GHGI_report_2005.pdf