Y Pwyllgor Cynaliadwyedd

Ymchwiliad i Leihau Allyriadau Carbon yng Nghymru: Rol y System Gynllunio o Ran Lleihau Allyriadau Carbon

Mae Pwyllgor Cynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i Leihau Allyriadau Carbon yng Nghymru.

Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad yw:

Craffu ar gynnydd Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran cyfrannu at dargedau lleihau allyriadau carbon y DU a’i chynigion ar gyfer bodloni’r targed o leihau allyriadau carbon yng Nghymru 3% a nodir yn y ddogfen Cymru’n Un.

Mae’r ymchwiliad wedi’i rannu i’r meysydd pwnc canlynol:

  • Lleihau allyriadau carbon yn y sector preswyl
  • Lleihau allyriadau carbon yn y sector trafnidiaeth
  • Lleihau allyriadau carbon yn y sector diwydiant ac mewn cyrff cyhoeddus
  • Lleihau allyriadau carbon yn y sector cynhyrchu trydan (yn cynnwys ynni adnewyddadwy)
  • Rheoli’r defnydd o dir gwledig a lleihau allyriadau carbon
  • Rôl y system gynllunio o ran lleihau allyriadau carbon

Cynhelir ymgynghoriad ysgrifenedig ar ddechrau pob maes pwnc ac mae’r pum ymgynghoriad cyntaf bellach wedi cau.

Mae’r pwyllgor yn awr yn galw am dystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer ei chweched maes pwnc, rôl y system gynllunio o ran lleihau allyriadau carbon,, ac yn gofyn i chi amlinellu barn eich sefydliad ar y cwestiynau yn yr holiadur amgaeedig.

Buaswn yn ddiolchgar pe gallech gyflwyno unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig erbyn

Dydd Gwener 23 Ionawr 2009.

 Os yn bosibl, cyflwynwch y fersiwn electronig ar ffurf MS Word neu Rich Text, drwy anfon e-bost at Virginia Hawkins, Clerc y Pwyllgor, yn pwyllgor_cynaliadwyedd@Wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg.  Dylid anfon disgiau neu ymatebion ar bapur i’r cyfeiriad uchod.

Mae rhagor o wybodaeth am ymchwiliad y pwyllgor i leihau allyriadau carbon i’w chael ar dudalennau’r pwyllgor ar y we yn:

h

ttp://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third-assem/bus-committees-third-sc-home.htm

Cwestiynau ysgrifenedig ar gyfer yr ymchwiliad i leihau allyriadau carbon: y system cynllunio defnydd tir

Cwestiynau

O’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod camau blaenorol ymchwiliad y pwyllgor i leihau allyriadau carbon yng Nghymru, mae’r system cynllunio defnydd tir wedi ymddangos fel rhwystr mawr i’r cynnydd o ran bodloni targedau Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer lleihau allyriadau carbon. Mae’r materion a godwyd yn cynnwys yr amser a gymerir i gwblhau’r broses gynllunio, anghysondeb o ran gwneud penderfyniadau a diffyg canllawiau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer awdurdodau cynllunio. Roedd llawer o’r tystion am weld y broses gynllunio yn gweithredu fel catalydd ar gyfer lleihau allyriadau carbon yng Nghymru.

  • Pa gamau penodol y credwch y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru eu cymryd i sicrhau bod y system cynllunio defnydd tir yng Nghymru’n annog mwy o gynnydd tuag at fodloni’r targedau i leihau allyriadau carbon?
  • Pa gamau penodol y credwch y dylai’r awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru eu cymryd i sicrhau bod y system cynllunio defnydd tir yng Nghymru’n annog mwy o gynnydd tuag at fodloni’r targedau i leihau allyriadau carbon?
Rhowch atebion mor fanwl ag sy’n bosibl i gwestiynau 1 a 2. Argymhelliad 1 adroddiad cyntaf y pwyllgor ar leihau allyriadau carbon preswyl yng Nghymru oedd: "Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Ddatganiad Polisi Cynllunio Interim gan y Gweinidog, ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau o fwy na 5 annedd a phob datblygiad masnachol gynhyrchu o leiaf 10 y cant o’u gofynion ynni drwy ynni adnewyddadwy ar y safle neu o ffynonellau lleol sydd wedi’u datganoli.” Argymhelliad 2 oedd: "Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Ddatganiad Polisi Cynllunio Interim gan y Gweinidog, ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau o lai na 5 annedd leihau’r allyriadau CO2 a ragwelir 25 y cant o leiaf, ar sail y rheoliadau adeiladu cyfredol, drwy wneud gwelliannau i berfformiad ynni'r adeiladau, a/neu drwy gyflenwad gwresogi, oeri ac ynni effeithlon.” Argymhelliad 7 oedd: "Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adolygu Polisi Cynllunio Cymru a’r canllawiau cysylltiol er mwyn cryfhau’r gofynion ar i awdurdodau lleol gynnwys polisïau sy’n anelu’n benodol at leihau allyriadau carbon yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol.” Ym mis Gorffennaf 2008, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad bapur ymgynghori, Ymgynghoriad Pellach ynghylch Cynllunio ar gyfer Newid Hinsawdd1 yn gofyn am sylwadau ynghylch polisi cynllunio posibl a fyddai’n cynnwys y meysydd a ganlyn: -
  • defnyddio safonau adeiladu cynaliadwy i hyrwyddo cynaliadwyedd adeiladau yng Nghymru;
  • cynnwys ffynonellau ynni carbon isel ac adnewyddadwy lleol mewn datblygiadau newydd  er mwyn lleihau allyriadau carbon, a;
  • gallu awdurdodau cynllunio lleol i bennu safonau uwch yn y meysydd uchod ar gyfer safleoedd strategol.
  • Beth yw eich barn ynghylch cynigion diwygiedig Llywodraeth y Cynulliad ar gynllunio ar gyfer newid hinsawdd? Yn benodol, a ydynt yn mynd ddigon pell o ran gweithredu argymhellion blaenorol y pwyllgor?
Argymhelliad 8 adroddiad cyntaf y pwyllgor ar leihau allyriadau carbon preswyl yng Nghymru oedd: "Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adolygu’r broses ymgeisio o ran gosod a defnyddio technolegau carbon isel mewn adeiladau preswyl gyda golwg ar symleiddio a chyflymu’r broses.” Ymgynghorodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y flwyddyn ddiwethaf ar welliant i’r rheoliadau datblygu a ganiateir ar gyfer eiddo domestig fel na fyddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer microgynhyrchu, oni bai bod prawf bod maint y cynigion neu’r math o gynigion wedi cael effaith y tu hwnt i’r eiddo dan sylw. Fodd bynnag, ni weithredwyd y newid hwn hyd yn hyn.
  • Pa newidiadau i’r system gynllunio sydd eu hangen i sicrhau y caiff technolegau carbon isel eu cyflwyno’n helaethach mewn eiddo preswyl yng Nghymru?
Mae’r pwyllgor wedi clywed tystiolaeth na ddylid annog defnyddio tir at ddiben masnachol, gwerthu neu chwaraeon y tu allan i drefi, lle nad oes digon o drafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen integreiddio gwell rhwng y defnydd o dir a thrafnidiaeth ar lefel ranbarthol a lleol. Argymhelliad 7 ail adroddiad y pwyllgor ar leihau allyriadau carbon trafnidiaeth yng Nghymru oedd: "Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygu ei chanllawiau cynllunio statudol ar gyfer awdurdodau lleol ar frys er mwyn sicrhau na chaniateir cynigion datblygu lle nad yw’n bosibl darparu trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol.” Cyhoeddwyd Cymru’n Un: Cysylltu’r Genedl2, strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth y Cynulliad, ym mis Ebrill 2008. Mae’n nodi pum amcan allweddol:
  • lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a ffactorau eraill sy’n effeithio ar yr amgylchedd;
  • gwella trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau gwell integreiddio rhwng y moddau;
  • gwella cysylltiadau a hygyrchedd rhwng aneddiadau a safleoedd allweddol ledled Cymru ynghyd â chysylltiadau ledled Cymru gyfan sydd o bwys strategol;
  • gwella’r cysylltiadau rhyngwladol; a
  • gwella diogelwch a diogeledd.
  • Beth sydd angen ei wneud i sicrhau cydgysylltu gwell rhwng cynllunio defnydd tir a chynllunio trafnidiaeth?
  • A yw strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cymru’n Un: Cysylltu’r Genedl, yn rhoi digon o bwyslais ar y mater hwn?  
O dan y drefn gynllunio bresennol, awdurdodau cynllunio lleol sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch prosiectau ynni ar y tir o hyd at 50 megawat yng Nghymru, tra bod yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni yn gwneud penderfyniadau ar brosiectau sydd dros 50 megawat. Yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gwneud penderfyniadau ar bob prosiect ar y môr sydd dros 1 megawat, er y gallai Gweinidogion Cymru chwarae rôl o ryw fath yn y broses gymeradwyo. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datgan ei bod yn credu y dylid datganoli’r cyfrifoldeb am ganiatadau ynni ar raddfa fawr. Byddai’r Mesur Cynllunio, sydd gerbron senedd y DU ar hyn o bryd, yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb am brosiectau ynni ar y tir sydd dros 50 megawat (a phrosiectau ar y môr sydd dros 100 megawat) yng Nghymru o’r Ysgrifennydd Gwladol i’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith arfaethedig. Byddai’r Mesur Morol hefyd yn cyflwyno newidiadau i’r gyfundrefn ganiatâd ar gyfer prosiectau ar y môr.
  • Beth yw eich barn am y cyfundrefnau cynllunio presennol ac arfaethedig ar gyfer ystyried prosiectau ynni ar raddfa fawr yng Nghymru?
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi ei bwriad i adolygu Nodyn Cyngor Technegol 8 (Cynllunio ac Ynni Adnewyddadwy) yn 2009 a bydd yn codi’r targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy.
  • Pa newidiadau i Nodyn Cyngor Technegol 8 (Cynllunio ac Ynni Adnewyddadwy) yr hoffech eu gweld?

Dalier sylw

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor.  O ganlyniad, gall eich ymateb ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth atodol i adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth y mae’n ystyried sy’n wybodaeth bersonol.

Pe digwydd cais am wybodaeth a gyflwynir o dan ddeddfwriaeth y DG, efallai y bydd yn angenrheidiol datgelu’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu. Gall hyn gynnwys gwybodaeth sydd wedi’i thynnu allan gan y Cynulliad Cenedlaethol rhag ei chyhoeddi.                                 

Os ydych chi’n darparu unrhyw wybodaeth, ar wahân i wybodaeth bersonol, yr ydych chi’n teimlo nad yw’n addas ei datgelu’n gyhoeddus, dylech chi nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi, a rhoi rhesymau i gefnogi hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

1 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Ymgynghoriad Pellach ynghylch Cynllunio ar gyfer Newid Hinsawdd, Gorffennaf 2008

2 Llywodraeth Cynulliad Cymru, C

ymru’n Un: Cysylltu’r Genedl

, Ebrill 2008

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help