Y Pwyllgor Cynaliadwyedd
Ymchwiliad i fioamrywiaeth yng Nghymru
Cylch Gorchwyl
Mae Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i fioamrywiaeth yng Nghymru.
Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:
Mae Cymru wedi methu â chyrraedd ei thargedau bioamrywiaeth ei hun a rhai’r UE ar gyfer 2010.
Nod yr ymchwiliad yw annog trafodaeth gyhoeddus ynghylch y targedau drwy fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn yr atebion i’r cwestiwn:
Pam na lwyddodd Cymru i gyrraedd targedau 2010 ar gyfer rhoi terfyn ar golli bioamrywiaeth a pha newidiadau mewn dulliau gweithredu sydd angen eu gwneud i sicrhau mwy o gynnydd yn y dyfodol?
Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y meysydd a ganlyn:
Pa ddulliau cyflenwi a ddefnyddiwyd i geisio cyrraedd targedau 2010?
Pam na lwyddodd y rhain?
A yw’r dull presennol o fynd i’r afael â lliniaru newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo yng Nghymru wedi’i integreiddio’n ddigonol â’r polisïau ar gyfer bioamrywiaeth?
Pa enghreifftiau o arfer da sydd i’w cael mewn mannau eraill yn y DU ac yn rhyngwladol y gall Cymru ddysgu ohonynt?
Beth yw goblygiadau’r targedau rhyngwladol sy’n ymddangos ar gyfer 2020 a thu hwnt?
Hoffai’r Pwyllgor alw am dystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer yr ymchwiliad hwn sy’n amlinellu barn eich sefydliadau ynghylch y cwestiynau uchod.
