Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Cynaliadwyedd

Hafan Llifogydd

Cytunodd y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar 29 Ionawr 2009 i gynnal ymchwiliad i lifogydd yng Nghymru. Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl isod yn ei gyfarfod ar 19 Mawrth 2009.

Cylch gorchwyl

I edrych ar effeithiau llifogydd ar unigolion, cymunedau a busnesau yng Nghymru a’r mecanweithiau sy’n bodoli cyn, yn ystod ac yn dilyn achos o lifogydd i’w helpu.

I wneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac unrhyw gyrff addas eraill.

Bydd yr ymchwiliad yn cwmpasu:

  • ·graddau presennol y llifogydd a’r risg o lifogydd yng Nghymru a’r bygythiadau posibl o lifogydd yn y dyfodol gan ddefnyddio amrywiaeth o sefyllfaoedd newid yn yr hinsawdd;
  • ·effeithiau’r achosion diweddar o lifogydd ar unigolion a chymunedau a’u safbwyntiau ynghylch risgiau'r bygythiad o lifogydd a’r ymateb iddo;
  • ·effeithiolrwydd Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15 (Datblygu a Pherygl o Lifogydd);
  • ·ymateb y diwydiant yswiriant i eiddo a thir y mae risg y byddant yn wynebu perygl o lifogydd a chyfnodau o lifogydd;
  • ·yr ymateb i achosion o lifogydd, gan ganolbwyntio ar rolau a chyfrifoldebau yn ystod ac yn dilyn yr achosion hynny;
  • ·effeithiolrwydd Cynlluniau Gweithredu Strategaeth Amgylcheddol 2006-2008 a chamau gweithredu i atal llifogydd 2008-2011.

Tystiolaeth

Fideo - Llifogydd ym Mhontypridd

Llifogydd ym Y Tyllgoed, Caerdydd

Profiadau o Iifogydd o Amgylch Cymru

Adroddiad Lifogydd yng Nghymru (PDF, 2781KB)