Y Pwyllgor Cynaliadwyedd
Ymchwiliad i bolisïau Cynllunio yng Nghymru
Mae Pwyllgor Cynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i bolisïau Cynllunio yng Nghymru.
Cylch gorchwyl
Edrych ar ba mor llwyddiannus y mae polisïau cynllunio defnydd tir, yn lleol ac yn genedlaethol, wrth gyflawni prif amcanion polisi Llywodraeth Cymru e.e. newid hinsawdd, tai fforddiadwy, adfywio/datblygu economaidd.
Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y meysydd pwnc canlynol:
Y defnydd o bolisïau a chanllawiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrth ddatblygu cynlluniau datblygu lleol – byddai hyn yn cynnwys Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith e.e.
pa mor hawdd/anodd yw hi i ddehongli’r polisïau a’r canllawiau lefel uwch i mewn i bolisïau ar lefel leol;
sut y mae’r broses o lunio cynlluniau datblygu lleol yn adweithio i bolisïau a chanllawiau newydd;
pa arweiniad y mae polisi/canllawiau yn eu rhoi ar gymodi mathau o ddefnydd tir sy’n cystadlu, fel ynni adnewyddadwy ac ansawdd tirwedd, tai fforddiadwy a meini prawf cynllunio/pryderon cymdeithasol, newid hinsawdd a thwf economaidd;
Y defnydd o bolisïau Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a chynllun datblygu lleol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio e.e.
pa bwysoliad (os o gwbl) y dylid ei roi i bolisïau sy’n cystadlu pan benderfynir ar geisiadau cynllunio;
pa bwysoliad y dylid ei roi i safbwyntiau’r cyhoedd os byddant yn groes i bolisïau lleol a chenedlaethol;
Sut y mae swyddogion cynllunio yn cynghori pwyllgorau cynllunio.
