Y Pwyllgor Cynaliadwyedd
Ymchwiliad y Pwyllgor Cynaliadwyedd i fynediad i ddŵr mewndirol yng Nghymru
Ar 15 Gorffennaf 2009, cytunodd y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer ei ymchwiliad i fynediad i ddŵr mewndirol yng Nghymru.
Astudio’r sefyllfa bresennol o ran mynediad i ddŵr mewndirol yng Nghymru a gwneud argymhellion yn ei chylch.
Mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed safbwyntiau gymaint o bobl â phosibl sydd â diddordeb yn y pwnc ac hoffai eich gwahodd i gyflwyno ymateb ysgrifenedig i’r cwestiynau yn yr atodiad amgaeedig.
Bydd y Pwyllgor yn defnyddio’r dystiolaeth ysgrifenedig, ynghyd â’r dystiolaeth lafar a gesglir mewn nifer o gyfarfodydd y Pwyllgor a gynhelir rhwng mis Medi a mis Rhagfyr eleni, er mwyn craffu ar y mater o fynediad i ddŵr mewndirol a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru yn ei gylch. Cynhelir y gwrandawiadau yn gyhoeddus a byddant hefyd ar gael ar Senedd TV a ellir ei weld ar ein gwefan. Cynhyrchir trawsgrifiad llawn gair-am-air o bob gwrandawiad. Caiff yr holl dystiolaeth ysgrifenedig a ddaw i law ei chyhoeddi ar ein gwefan (yn amodol ar y gwadiad ar ddiwedd yr atodiad amgaeedig).
Gan ein bod yn awyddus i glywed safbwyntiau gan gymaint o bobl a sefydliadau â phosibl, a fyddech cystal ag anfon y llythyr hwn ymlaen at unrhyw un yr ydych chi’n credu a fyddai â diddordeb mewn ymateb iddo. Gellir hefyd weld copi electronig o’r llythyr ymgynghori ar ein gwefan yn:
h
ttp://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third1/bus-committees-third-sc-home.htmRydym yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg a Saesneg. Cyflwynwch eich tystiolaeth ar ffurf electronig os yn bosibl.
Byddwn hyn ddiolchgar petaech yn cyflwyno eich tystiolaeth ysgrifenedig erbyn dydd Gwener 18 Medi 2009 i Virginia Hawkins, Clerc y Pwyllgor:
Sustainability.comm@Wales.gsi.gov.uk
Dylid anfon copïau caled i’r cyfeiriad uchod.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am ymchwiliad y Pwyllgor i fynediad i ddŵr mewndirol ar dudalennau’r Pwyllgor ar y we:
h
ttp://www.assemblywales.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third-assem/bus-committees-third-sc-home.htmMick Bates
Cadeirydd, y Pwyllgor Cynaliadwyedd
Bae Caerdydd / Cardiff Bay
Caerdydd / Cardiff
CF99 1NA
Cwestiynau i’r ymchwiliad i’r mynediad i ddŵr mewndirol
Beth yw natur eich diddordeb yn y pwnc o fynediad i ddŵr mewndirol?
Perchennog tir
Defnyddiwr hamdden:
Pysgota
Defnyddiwr hamdden ar y dŵr (e.e. canŵio, rhwyfo ac ati)
Arall (nodwch)
A ydych yn aelod o sefydliad sy’n gysylltiedig â’ch defnydd o ddŵr?
Os ydych, enwch y sefydliad(au)
Pa ddarn o ddŵr ydych chi’n berchen arno/yn ei ddefnyddio/yn ei reoli?
Hawliau cyfreithiol
A ydych chi’n fodlon bod eich hawliau cyfreithiol yn glir ac wedi ei diffinio’n gywir?
Amlinellwch yn fras eich dealltwriaeth o’ch hawliau cyfreithiol dros y darn o ddŵr rydych chi’n berchen arno/yn ei ddefnyddio/yn ei reoli
A hoffech weld unrhyw newidiadau i’ch hawliau cyfreithiol?
Os hoffech, pa newidiadau yr hoffech eu gweld?
A ydych yn ymwybodol o unrhyw ddeddfwriaeth sy’n bodoli mewn gwledydd eraill y gellid ei defnyddio yn Nghymru?
Trefniadau gwirfoddol
A oes gennych brofiad o drefniadau gwirfoddol ynghylch mynediad i’r dŵr yr ydych chi’n berchen arno/yn ei ddefnyddio/yn ei reoli?
Os oes, amlinellwch yn fras y trefniadau sy’n bodoli a’ch profiad o’r modd y maent yn gweithredu.
A hoffech weld unrhyw newidiadau i’r trefniadau gwirfoddol?
Os hoffech, pa newidiadau yr hoffech eu gweld?
A ydych yn ymwybodol o unrhyw drefniadau gwirfoddol mewn gwledydd eraill y gellid eu defnyddio yng Nghymru?
Amlinellwch yn fyr yr hyn yr ydych chi’n credu yw’r prif faterion mewn perthynas â mynediad i ddŵr mewndirol yng Nghymru a nodwch sut yr hoffech eu gweld yn cael eu hymdrin â hwy.
Sylwer:
Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad/bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.
Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.
