Pwyllgor Busnes
Ar 6 Mehefin 2000, i gyd-fynd ag ysbryd agored a chynhwysol y Cynulliad Cenedlaethol, cyhoeddodd y Pwyllgor Busnes y byddai'n cyhoeddi cofnodion ei gyfarfodydd chwe wythnos ar ôl pob cyfarfod.
Bu’r Pwyllgor Busnes yn cyfarfod bob wythnos ar ddydd Mawrth pan oedd y Cynulliad yn cwrdd. Jenny Randerson AC oedd y cadeirydd, a roedd y Trefnydd a Rheolwyr Busnes y tair prif plaid arall hefyd yn mynychu. Roedd y Pwyllgor yn rhoi cyngor ynghylch y ffordd y caiff busnes y Cynulliad ei reoli ac arferion cyffredinol ynghylch gweithdrefnau'r Cynulliad. Mae Rheol Sefydlog 13 y Cynulliad Cenedlaethol yn darparu manylion llawn ynghylch cylch gwaith y Pwyllgor.
Defnyddwyd y termau canlynol ar gyfer y broses arfaethedig o ran eitemau is-ddeddfwriaeth unigol:
- Y weithdrefn estynedig (pwyllgor pwnc a dadl mewn cyfarfod llawn)
- Y weithdrefn safonol (penderfyniad mewn cyfarfod llawn gyda dadl)
- Y weithdrefn gyflymach (penderfyniad mewn cyfarfod llawn heb ddadl)
- Y weithdrefn weithredol (gweithdrefnau penodol wedi'u datgymhwyso drwy gytundeb Cabinet y Cynulliad)