Pwyllgor ar y Papur Gwyn - Trefn Lywodraethu Well i Gymru
Cyhoeddwyd y Papur Gwyn ar ddyfodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trefn Lywodraethu Well i Gymru) ar 15 Mehefin 2005. Mae'n cynnig newidiadau i strwythur y Cynulliad, ei bwerau deddfwriaethol a'i drefniadau etholiadol.
Daw'r cyfnod ymgynghori ar y Papur Gwyn i ben ar 16 Medi 2005. Fel rhan o'i ymateb i'r ymgynghoriad, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi sefydlu Pwyllgor arbennig i gasglu tystiolaeth gan bobl flaenllaw yn y byd gwleidyddol a chyfansoddiadol yng Nghymru. Bydd y Pwyllgor yn adrodd yn ôl wrth y Cynulliad cyn cyflwyno'i adroddiad i Lywodraeth y DU.
Dyma gylch gorchwyl y Pwyllgor:
- Ystyried y cynigion a nodwyd yn y Papur Gwyn i’r graddau eu bod yn berthnasol i strwythur newydd arfaethedig y Cynulliad a’i bwerau deddfwriaethol arfaethedig;
- Cymryd tystiolaeth gan sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb uniongyrchol yn strwythur newydd arfaethedig y Cynulliad a’i bwerau deddfwriaethol arfaethedig.
I gael rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor, gan gynnwys agendâu, papurau a chofnodion, defnyddiwch y dolennau cyswllt ar ochr chwith y dudalen hon.