Mae Trefn Lywodraethu Well i Gymru yn cynnig cynyddu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Yn y cyd-destun hwn, credaf ei bod hi’n amserol i ofyn y cwestiwn: 'pwy ddylai deddfu ar yr iaith Gymraeg?’ Mae’r iaith Gymraeg o ddiddordeb unigryw i Gymru. Mae unrhyw ddeddfwriaeth flaenorol ar yr iaith Gymraeg wedi bod yn benodol, o ran daearyddiaeth, i Gymru ac i wasanaethau yng Nghymru. Felly, mae’n rhesymegol i ddod at gasgliad y dylid, o fewn y ddadl ehangach ar gynyddu pwerau deddfu’r Cynulliad Cenedlaethol, achub y cyfle i sicrhau mai’r Cynulliad Cenedlaethol fydd y corff deddfwriaethol ar holl faterion sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg.
Nid oes gan y papur hwn unrhyw farn ar beth fyddai cynnwys neu pryd y dylid creu deddfwriaeth Cynulliad ar yr iaith Gymraeg - mater i’r Cynulliad yn y dyfodol fydd hynny. Ond efallai ei bod hi’n werth dechrau trwy bwysleisio nad yw’r cynnig hwn yn ymgais drwy’r 'drws cefn’ i ymofyn deddfwriaeth sy’n gorfodi’r sector preifat i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Mewn gwirionedd, mae hyn yn bell iawn o’r gwir. Mae’n amlwg fod yna fwyafrif gwleidyddol mawr yn y Cynulliad, fel yn San Steffan, a fyddai’n gwrthwynebu deddfwriaeth o’r fath. Credaf ei bod hi’n anffodus fod trafodaethau ynglyn â deddfwriaeth a’r iaith Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf wedi ymwneud yn gyfan gwbl ar ddefnydd y Gymraeg gan y sector preifat.
Unig fwriad y Papur hwn yw cynnig achos a modd i’r Cynulliad Cenedlaethol ddod yn gorff priodol i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg, beth bynnag bydd natur y ddeddfwriaeth a ddaw.
Mae’r Papur Gwyn yn nodi yn adran 3.18 "Byddai’r pwer yn cael ei fframio i sicrhau na allai unrhyw orchymyn roi pwerau i’r Cynulliad dros y meysydd cyfan o unrhyw feysydd a restrir yn atodlen 2 Deddf Llywodraeth Cymru". Mae’r iaith Gymraeg wedi’i restri fel un o’r meysydd hynny. Felly yn syth, mae’r Papur Gwyn yn gwahardd y Cynulliad rhag ennill cymhwysedd deddfwriaethol llawn ym maes yr iaith Gymraeg. Mae’r Papur Gwyn yn dweud mai dim ond ar gyfer materion polisi arwahanol o fewn maes yr iaith Gymraeg y gellid llunio Gorchmynion Cyfrin Gyngor. Enghraifft amlwg ar hyn o bryd yw bwriad Llywodraeth y Cynulliad i geisio sylfaen statudol i’r Dyfarnydd.
Fodd bynnag, mae adran 3.18 yn atal llunio un Gorchymyn Cyfrin Gyngor a fyddai’n galluogi’r Cynulliad i greu deddfwriaeth ar bob mater polisi ym maes yr iaith Gymraeg. Mae hyn yn golygu bydd rhaid i’r Cynulliad ceisio Gorchmynion Cyfrin Gyngor pellach pryd bynnag ei fod eisiau creu neu ddiwygio darn o ddeddfwriaeth ym maes yr iaith Gymraeg. Byddai’n fwy effeithlon o lawer i adael i’r Cynulliad creu deddfwriaeth neu fesurau Cynulliad heb yr angen am Orchmynion Cyfrin Gyngor pellach. Gallai deddfwriaeth o’r fath ddiwygio deddfwriaeth gyfredol neu greu deddfwriaeth newydd nad yw’n statudol, fel y cynigir yn adran 3.16 o’r Papur Gwyn. Wrth gwrs, byddai’r holl ddeddfwriaeth yn amodol ar ymgynghoriad ag adrannau San Steffan sy’n gweithredu yng Nghymru fel gyda grwpiau diddordeb eraill.
Os gaiff yr egwyddor ei dderbyn mai’r Cynulliad Cenedlaethol yw’r corff priodol i basio deddfwriaeth ar yr iaith Gymraeg, yna bydd gwneud yr iaith Gymraeg yn eithriad i adran 3.18 yn ffordd o wireddu’r egwyddor hon.
Cynigaf felly y dylai’r iaith Gymraeg cael ei eithrio o adran 3.18, ac ar unrhyw adeg gall y Cynulliad gwneud cais i roi Gorchmynion Cyfrin Gyngor gerbron San Steffan i alluogi’r Cynulliad pasio deddfwriaeth ar faterion polisi ym maes yr iaith Gymraeg. Y Cynulliad Cenedlaethol fydd y sefydliad deddfwriaethol ym maes yr iaith Gymraeg.
Elin Jones
Gorffennaf 2005