BGW2 EV4

Elin Jones AC/AM
Plaid Cymru Ceredigion

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Llywydd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Caerdydd
CF99 1NA29ain Gorffennaf 2005 Ein Cyf: CPA/118/6Annwyl DafyddRwy’n ysgrifennu yn dilyn sefydlu Pwyllgor o’r Cynulliad i ystyried y Papur Gwyn. Byddwn yn hoffi cael y cyfle i gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor ar un agwedd benodol o’r Papur Gwyn - sef deddfwriaeth ar yr iaith Gymraeg.Cefais gyfle i gyflwyno’r union bwynt rwyf am roi sylw iddo yn ystod dadl araith y Frenhines yn y Cynulliad. Rwy’n amgáu copi o fy nghyfraniad ar y diwrnod hynny. Ni atebwyd fy sylwadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol.Rwyf o’r farn taw’r Cynulliad Cenedlaethol yw’r man priodol i ddeddfu ar y Gymraeg. Mae’r Papur Gwyn, drwy gyflwyno Gorchmynion Cyfrin Gyngor yn rhoi cyfle i hyn ddigwydd. Gellid cymeradwyo Gorchymyn Cyfrin Gyngor yn San Steffan yn rhoi’r hawl deddfu i’r Cynulliad ar yr iaith Gymraeg. Byddai’r Cynulliad wedyn yn rhydd i drafod a chymeradwyo Mesurau ar y Gymraeg ar unrhyw adeg. Gan fod y Gymraeg yn berthnasol i Gymru’n unig ni fyddai hyn tu hwnt i ysbryd Papur Gwyn.Ond mae un cymal yn y Papur Gwyn yn golygu na fedr hyn ddigwydd. Yng nghymal 3.18 dywedir: "Byddai’r pwer yn cael ei fframio i sicrhau na allay unrhyw Orchymyn rhoi pwerau i’r Cynulliad dros y meysydd cyfan a neu unrhyw feysydd a restrir yn atodlen 2 Deddf Llywodraeth Cymru".Mae’r iaith Gymraeg yn faes polisi sy’n cael ei restru o dan atodlen 2. Byddwn felly yn hoffi’r cyfle i gyflwyno’r ddadl y dylid eithrio'r Gymraeg o fwrid y cymal uchod. Gellid gwneud dadl wrth gwrs y dylid dileu cymal 3.18 yn gyfan gwbwl - ond gall eraill gyflwyno’r ddadl honno.Mae fy nadl i yn berthnasol o’r Gymraeg yn unig ac i roi statws arbennig i’n dull o ddeddfu a’r iaith Gymraeg o fewn fframwaith y Ddeddf maes o law. Gwneir yr achos yma yng nghyd-destun bwriad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i ychwanegu at rymoedd deddfwriaeth y Cynulliad a thrwy fframwaith Gorchymyn Cyfrin Gyngor y dylid rhoi hyblygrwydd llwyr i’r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu ar faes y Gymraeg.Gobeithio y bydd modd i mi gyflwyno fy nhystiolaeth yn llafar, er rwy’n ymwybodol fod eich amser yn brin.Yn gywirElin Jones, AC

Ty Goronwy, 32 Heol y Wîg/Pier Street, Aberystwyth, Ceredigion. SY23 2LN

Ffôn/Tel: 01970 624516 elin.jones@cymru.gov.uk

Hefyd/Also: Chancery Lane, Aberteifi/Cardigan, Ceredigion. SA43 1HD

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help