Y Pwyllgor ar y Rheolau Sefydlog
Roedd Atodlen 11 Mesur Llywodraeth Cymru yn darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnig rheolau sefydlog a fydd yn berthnasol i drafodion y Cynulliad ar ôl etholiad 2007.
Wedi i’r Cynulliad gytuno ar y cynigion, fe'u hanfonwyd at Ysgrifennydd Gwladol Cymru a wnaeth y rheolau sefydlog newydd yn ffurfiol.
Felly, sefydlodd Cynulliad Cenedlaethol bwyllgor cynghorol o dan Reol Sefydlog 8.1 i argymell rheolau sefydlog ar gyfer y Cynulliad ar ei newydd wedd.
Cylch gorchwyl y Pwyllgor oedd:
- Gwneud pob ymdrech i argymell rheolau sefydlog newydd a fydd yn sicrhau cymeradwyaeth mwyafrif o ddau draean yn y cyfarfod llawn;
- Paratoi adroddiad a fydd yn amlinellu rheolau sefydlog newydd arfaethedig i'w hystyried yn y cyfarfod llawn.
Nod y Pwyllgor oedd cyflwyno adroddiad ar 31 Ionawr 2007 neu cyn hynny. Daeth y Pwyllgor i ben ar 1 Mawrth 2007.