Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 

Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon

Mae cylch gwaith y pwyllgor wedi'i seilio ar bortffolio'r Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon. Mae portffolio'r Gweinidog yn cynnwys: y celfyddydau, amgueddfeydd, henebion a llyfrgelloedd, ieithoedd Cymru, y cyfryngau a darlledu, chwaraeon a hamdden a materion loteri.

Mae'r portffolio hefyd yn cynnwys gorolwg o 5 corff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad (CCNC) a nifer o gyrff cyhoeddus eraill yn ogystal â Cadw.

CCNC

  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Bwrdd yr Iaith Gymraeg
  • Cyngor Chwaraeon Cymru

CCNC gweithredol

  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Cyrff eraill

  • Cyngor Llyfrau Cymru
  • Cadw - gwnaed gwasanaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yn un o is-adrannau Llywodraeth y Cynulliad ym mis Gorffennaf 2005.
  • CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru - a sefydlwyd fel is-adran newydd yn Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 1 Ebrill 2004. Mae’n cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu amgueddfeydd lleol, a gwasanaethau archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru

Dau CCNC cynghorol

  • Y Bwrdd Henebion
  • Y Cyngor Adeiladau Hanesyddol

Prif swyddogaethau’r pwyllgorau pwnc, fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog rhif 9, yw: datblygu polisi; craffu ar Weinidogion a chyrff a noddir gan y Cynulliad; a chraffu ar ddeddfwriaeth. Maent hefyd yn rhoi cyngor ar ddyrannu cyllidebau.

Gellir cael gwybodaeth am y pwyllgor, gan gynnwys agendâu, papurau a chofnodion, drwy ddefnyddio'r botymau cyswllt ar ochr chwith y dudalen hon.