Adolygiad Polisi: Cyfraniad y Celfyddydau a Chwaraeon at Adfywio Cymunedol
Cylch gorchwyl
Adolygu:
- y cysylltiadau rhwng y polisïau ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon ac adfywio cymunedol;
- sut y gall prosiectau lleol ym meysydd y celfyddydau a chwaraeon gyfrannu at adfywio cymunedol;
- y dulliau cefnogi ar gyfer prosiectau ym meysydd y celfyddydau a chwaraeon sy’n ymwneud ag adfywio cymunedol;
- yr arferion gorau o ran prosiectau ym meysydd y celfyddydau a chwaraeon sy’n ymwneud ag adfywio cymunedol.
Bydd y Pwyllgor yn ymgynghori’n eang gyda sefydliadau ac unigolion perthnasol. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr adolygiad hwn gyflwyno’i safbwynt i’r Pwyllgor. Yn ogystal â chynnal ymgynghoriad ysgrifenedig, bydd y Pwyllgor yn gwahodd sefydliadau ac unigolion i gyflwyno’u safbwyntiau yn bersonol, er mwyn caniatáu cwestiynu manylach a thrafodaeth fanylach o’r materion sy’n codi.
Dogfennau Allweddol
Dyma'r dogfennau allweddol.