Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 

At sylw'r rhai yr ymgynghorir â hwy

Bae Caerdydd / Cardiff Bay
Caerdydd / Cardiff
CF99 1NA

3 Hydref 2003

Pwyllgor y Diwylliant, Y Gymraeg a Chwaraeon - Adolygiad Polisi: Cyfraniad y Celfyddydau a Chwaraeon at Adfywio Cymunedol

Gwahoddiad i Gyfrannu

Bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon yn cynnal adolygiad polisi ar Cyfraniad y celfyddydau a chwaraeon at adfywio cymunedol. Bydd yr adolygiad yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd.

Fe'ch gwahoddir i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Pwyllgor. Dyma gylch gorchwyl yr adolygiad:

Adolygu ac ystyried:

  • y cysylltiadau rhwng y polisïau ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon ac adfywio cymunedol;
  • sut y gall prosiectau lleol ym meysydd y celfyddydau a chwaraeon gyfrannu at adfywio cymunedol;
  • y dulliau cefnogi ar gyfer prosiectau ym meysydd y celfyddydau a chwaraeon sy’n ymwneud ag adfywio cymunedol;
  • yr arferion gorau o ran prosiectau ym meysydd y celfyddydau a chwaraeon sy’n ymwneud ag adfywio cymunedol.

Byddai'n help pe bai'ch sylwadau'n ymdrin â'r pedwar prif faes yn y cylch gorchwyl.

Dylai sylwadau cael ei anfon naill ai yn electronig neu trwy'r post i'r cyfeiriad isod erbyn dydd Gwener 5 Rhagfyr.

Os gwyddoch am gyrff neu unigolion a hoffai gyfrannu at yr adolygiad, bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn falch iawn o gael gwybod sut i gysylltu â hwy. Mae copi o'r llythyr hwn a rhestr o'r unigolion a'r cyrff sy'n cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar wefan y Pwyllgor: www.cymru.gov.uk

Yn gywir

Rosemary Butler A.M
Cadeirydd y Pwyllgor

Anfonwch eich sylwadau at:

Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon,
Gwasanaethau'r Pwyllgorau ac Ymchwil yr Aelodau,
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd llawr,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Bae Caerdydd,
Caerdydd
CF99 1NA

E-bost: culture.committee@wales.gsi.gov.uk

Cyhoeddi

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n bwriadu cyhoeddi’r cyfraniadau a dderbynnir. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr awdur gyda’r cyfraniad, gan fod hynny’n rhoi hygrededd i’r ymgynghoriad. Os nad ydych am gael eich enwi, a fyddech cystal â nodi hynny yn eich ymateb.