Adolygiad Polisi: Dawns yng Nghymru
Cylch Gorchwyl
Cynnal arolwg o ddawns yng Nghymru er mwyn gweld:
- faint o gyfleoedd sydd ar gael, a faint o bobl sy'n cymryd rhan yn y gwahanol sectorau (gan gynnwys addysg) ac mewn gwahanol agweddau ar ddawns;
- faint o gymorth sydd ar gael i hybu dawns;
- lefel yr arweiniad strategol
- argymhellion ar gyfer y camau y dylai'r Llywodraeth a chyrff allweddol eraill eu cymryd yn y dyfodol.
Bydd y Pwyllgor yn ymgynghori'n eang â chyrff ac unigolion perthnasol. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr adolygiad hwn gyflwyno'i sylwadau i'r Pwyllgor. Yn ogystal ag ymgyhori'n ysgrifenedig, bydd y Pwyllgor yn gwahodd cyrff ac unigolion i gyflwyno'u sylwadau'n bersonol er mwyn medru eu holi'n fanylach a chynnal trafodaeth ar y materion a godir.
Dogfennau Allweddol
Dyma'r dogfennau allweddol.