Adolygiad Polisi: Adolygiad O Bapurau Newydd Saesneg Yng Nghymru
Cylch Gorchwyl
Ni chytunodd y pwyllgor ar gylch gorchwyl ffurfiol. Cytunwyd mai adolygiad byr o rôl Trinity Mirror ym marchnad y cyfryngau yng Nghymru fyddai’r adolygiad hwn. Ceisir tystiolaeth gan reolwyr Trinity Mirror, yr NUJ ac Undebau priodol eraill, a sylwedydd arbenigol ar y cyfryngau yng Nghymru, fel academydd. Cynhelir y sesiwn dystiolaeth gyntaf yn ystod y cyfarfod cyntaf ym mis Ionawr 2006.
Dogfennau Allweddol
Dyma'r dogfennau allweddol.