Adolygiad Polisi: Ysgrifennu cyfrwng Saesneg yng Nghymru
Cylch Gorchwyl
I adolygu
i. cyfraniad llyfrau ac ysgrifennu cyfrwng Saesneg yng Nghymru at ddiwylliant Cymru;
ii. y dulliau o gefnogi llenorion yng Nghymru, gan gynnwys dramodwyr ac awduron sgriptiau;
iii. y dulliau cefnogi ar gyfer cynhyrchu a marchnata ysgrifennu newydd, gan gynnwys cefnogaeth y sector preifat; a
iv. dulliau o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o lenyddiaeth a llenorion cyfrwng Saesneg yng Nghymru.
Bydd y Pwyllgor yn ymgynghori’n eang gyda sefydliadau ac unigolion perthnasol. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr adolygiad hwn gyflwyno’i safbwynt i’r Pwyllgor. Yn ogystal â chynnal ymgynghoriad ysgrifenedig, bydd y Pwyllgor yn gwahodd sefydliadau ac unigolion i gyflwyno’u safbwyntiau yn bersonol, er mwyn caniatáu cwestiynu manylach a thrafodaeth fanylach o’r materion sy’n codi.
Dogfennau Allweddol
Dyma'r dogfennau allweddol.