Adolygiad Polisi: Adolygiad o Bêl Droed
Cylch Gorchwyl
Adolygu agweddau ar bêl-droed yng Nghymru er mwyn pennu:
- Cyfeiriad pêl-droed yn y dyfodol a’r blaenoriaethau ar gyfer datblygu pêl-droed yng Nghymru
- Effeithiolrwydd y strwythur presennol sy’n cefnogi pêl-droed yng Nghymru, gan gynnwys:
- a yw’n darparu ar gyfer pawb ac yn cyfrannu at agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru
- y berthynas rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru fel corff llywodraethu ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru fel corff datblygu
- Cyllid ac adnoddau ar gyfer pêl-droed
Bydd y Pwyllgor yn ymgynghori'n eang â chyrff ac unigolion perthnasol. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr adolygiad hwn gyflwyno'i sylwadau i'r Pwyllgor. Yn ogystal ag ymgyhori'n ysgrifenedig, bydd y Pwyllgor yn gwahodd cyrff ac unigolion i gyflwyno'u sylwadau'n bersonol er mwyn medru eu holi'n fanylach a chynnal trafodaeth ar y materion a godir.
Dogfennau Allweddol
Dyma'r dogfennau allweddol.