Y Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
Roedd cylch gwaith y Pwyllgor yn un eang ac yn adlewyrchu portffolio'r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth. Roedd y portffolio hwn yn ymwneud ag:
- arloesi a menter;
- polisi diwydiannol a chymorth busnes;
- mewnfuddsoddi;
- hyrwyddo cwmnïau cynhenid a datblygu rhanbarthol;
- trafnidiaeth;
- ynni;
- twristiaeth;
- cyfrifoldeb strategol am gydgysylltu TGCh; a'r
- Cronfeydd Strwythurol.
Yn unol â’r newid i deitlau’r Gweinidogion, ers 1 Ebrill 2006, yr enw newydd ar y Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth oedd y Pwyllgor Menter, Arloesi a Rhwydweithiau.
Prif swyddogaethau’r pwyllgorau pwnc, fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog rhif 9, oedd: datblygu polisi; craffu ar Weinidogion a chyrff a noddir gan y Cynulliad; a chraffu ar ddeddfwriaeth. Roedd y Pwyllgor hefyd yn rhoi cyngor ar ddyrannu cyllidebau.