Y Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
Adolygiad Polisi: Anweithgarwch Economaidd
Cylch gorchwyl
Ystyried:
- lefelau uchel anweithgarwch economaidd Cymru a'r ffactorau sy'n waelodol iddynt;
- y polisïau i godi lefelau'r gweithgareddau economaidd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ac asiantaethau eraill yn ymgymryd â hwy. a gwneud argymhellion ar gyfer datblygu polisi yn y maes hwn.
Bydd y Pwyllgor yn ymgynghori’n eang â chyrff ac unigolion perthnasol. Mae croeso i unrhyw sydd â diddordeb yn yr adolygiad gyflwyno sylwadau i’r Pwyllgor yn economic.comm@wales.gsi.gov.uk. Yn ogystal ag ymgynghori’n ysgrifenedig, bydd y Pwyllgor yn gwahodd cyrff ac unigolion i gyflwyno’u sylwadau’n bersonol, er mwyn caniatáu holi a thrafod mwy manwl ar y materion sy’n codi.
Adroddiad Terfynol
Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor ar 11 Ebrill. Cynhelir dadl ar yr Adolygiad Polisi yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Ebrill.
Dogfennau Allweddol
Dyma’r dogfennau allweddol.