Un o Bwyllgorau’r Cynulliad i gynnal adolygiad o anweithgarwch economaidd yng Nghymru

Fel rhan o’i adolygiad polisi i ystyried y lefelau uchel o anweithgarwch economaidd a geir yng Nghymru, mae Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ymarfer ymgynghori. Yn ystod yr Adolygiad, bwriedir mynd ati i edrych ar lefelau presennol yr anweithgarwch economaidd yng Nghymru, ac ar y ffactorau sy’n gyfrifol amdanynt. Bydd y Pwyllgor yn ystyried y polisïau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac asiantaethau eraill i wella gweithgarwch economaidd, ac mae’n fwriad ganddo gloi’r adolygiad drwy wneud argymhellion ynghylch datblygu polisi yn y maes hwn. Mae’r Pwyllgor wedi ysgrifennu at fusnesau ac at sefydliadau statudol a gwirfoddol ledled Cymru yn gofyn iddynt leisio barn. Unwaith y bydd wedi ystyried y sylwadau a ddaw i law, mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor yn eu gwahodd i roi tystiolaeth lafar. Yn ôl Christine Gwyther AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Mae’n rhaid anelu at lefelau uwch o weithgarwch economaidd yng Nghymru er mwyn gwella’n perfformiad economaidd. Mae’r Pwyllgor yn awyddus iawn i glywed safbwyntiau pawb sydd â diddordeb, a hoffai glywed barn am y problemau ac am yr hyn y gellir ac y dylid ei wneud i’w datrys."

Partneriaid a Help