Datganiad i’r Wasg
Pwyllgor yn ymgynghori ar bolisi gwyddoniaeth yng Nghymru
Mae Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ymgynghoriad fel rhan o'i adolygiad o bolisi gwyddoniaeth yng Nghymru.
Yn ystod ei adolygiad, bydd y Pwyllgor yn ystyried polisi gwyddoniaeth a fydd yn sylfaen fwy effeithiol i'r gwaith o greu economi sy'n seiliedig ar wybodaeth. Yn benodol, bydd yn cael cipolwg ar yr holl waith ymchwil a datblygu a wneir yng Nghymru yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat; yn ystyried ffyrdd o'i gryfhau a'i wneud yn fwy effeithiol; ac yn pwyso a mesur blaenoriaethau tebygol o ran ymwybyddiaeth o wyddoniaeth, darparu sgiliau, rhagoriaeth mewn addysg uwch, trosglwyddo technoleg ac arloesi. Bydd y Pwyllgor yn argymell ffyrdd o ddatblygu polisïau yn y maes hwn.
Mae'r Pwyllgor wedi ysgrifennu at fusnesau ac at sefydliadau statudol a gwirfoddol ym mhob rhan o Gymru yn gofyn am eu sylwadau. Pan fydd y Pwyllgor wedi cael cyfle i ystyried yr ymatebion hyn, bydd yn gwahodd unigolion a sefydliadau i roi tystiolaeth lafar.
Dywedodd Christine Gwyther AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Mae nifer o esiamplau rhagorol ar draws Cymru o addysg wyddonol, arloesi a throsglwyddo technoleg. Er hynny, nid ydym yn perfformio cystal mewn meysydd pwysig eraill. Rydym am gael darlun clir o'n cryfderau, ynghyd â'r meysydd y mae angen i ni eu gwella. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth a thechnoleg i gyfrannu at yr ymgynghoriad. Bydd yr ymatebion yn rhan o'n tystiolaeth a byddwn yn eu cynnwys yn ein hadolygiad. Mae'n briodol ein bod yn cynnal yr adolygiad hwn yn awr. Rwy'n credu y bydd ein gwaith dros y deuddeg mis nesaf yn sylfaen gadarn ar gyfer creu strategaeth wyddoniaeth i Gymru yn yr unfed ganrif ar hugain."