Y Pwyllgor Menter, Arloesi a Rhwydweithiau

Roedd cylch gwaith y Pwyllgor yn un eang ac yn adlewyrchu portffolio'r Gweinidog dros Menter, Arloesi a Rhwydweithiau. Roedd y portffolio hwn yn ymwneud ag
  • arloesi a menter;
  • polisi diwydiannol a chymorth busnes;
  • mewnfuddsoddi;
  • hyrwyddo cwmnïau cynhenid a datblygu rhanbarthol;
  • trafnidiaeth;
  • ynni;
  • twristiaeth;
  • cyfrifoldeb strategol am gydgysylltu TGCh; a'r
  • Cronfeydd Strwythurol.
Prif swyddogaethau’r pwyllgorau pwnc, fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog rhif 9, oedd: datblygu polisi; craffu ar Weinidogion a chyrff a noddir gan y Cynulliad; a chraffu ar ddeddfwriaeth. Roedd y Pwyllgor hefyd yn rhoi cyngor ar ddyrannu cyllidebau. Cyn i deitlau’r Gweinidogion gael eu newid ar 1 Ebrill 2006, teitl y Pwyllgor Menter, Arloesi a Rhwydweithiau oedd y Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth.

Partneriaid a Help