Y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes

Roedd cylch gwaith eang y Pwyllgor yn seiliedig ar bortffolio Gweinidog y Cynulliad dros Addysg a Dysgu Gydol Oes. Ymhlith pethau eraill, roedd y portffolio yn ymwneud ag:
  • Ysgolion;
  • addysg bellach;
  • addysg uwch;
  • datblygu sgiliau;
  • y gwasanaeth ieuenctid; a'r
  • gwasanaeth gyrfaoedd.
Yn unol â’r newid i deitlau’r Gweinidogion, ers 1 Ebrill 2006, yr enw newydd ar y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes oedd y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Prif swyddogaethau’r pwyllgorau pwnc, fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog rhif 9, oedd: datblygu polisi; craffu ar Weinidogion a chyrff a noddir gan y Cynulliad; a chraffu ar ddeddfwriaeth. Roedd y Pwyllgor hefyd yn rhoi cyngor ar ddyrannu cyllidebau.

Partneriaid a Help