Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 

Y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Roedd cylch gwaith eang y Pwyllgor yn seiliedig ar bortffolio Gweinidog y Cynulliad dros Addysg a Dysgu Gydol Oes. Ymhlith pethau eraill, roedd y portffolio yn ymwneud ag:

  • ysgolion;
  • addysg bellach;
  • addysg uwch;
  • datblygu sgiliau;
  • y gwasanaeth ieuenctid; a'r
  • gwasanaeth gyrfaoedd.  

Dyma oedd brif swyddogaethau’r pwyllgorau pwnc, fel y'u nodir yn y rheolau sefydlog 9 : datblygu polisi; archwilio gwaith Gweinidogion a Chyrff a Noddir gan y Cynulliad a chyrff cyhoeddus perthnasol eraill; ac archwilio deddfwriaeth. Roedd y Pwyllgorau hefyd yn rhoi cyngor ar ddyrannu cyllidebau.

Cyn i deitlau'r Gweinidogion gael eu newid ar 1 Ebrill 2006, teitl y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau oedd y Pwyllgor Addysg Dysgu Gydol Oes.