Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Yr Adolygiad AAA - Cam 3 - Pontio

Clych Gorchwyl

Yn dilyn y drafodaeth yn y cyfarfod diwethaf, gwahoddir y Pwyllgor i ystyried y cylch gorchwyl drafft isod a chytuno arno: Y Cylch Gorchwyl Drafft: Bydd y Pwyllgor yn:
  • Adolygu'r trefniadau pontio ar gyfer myfyrwyr ôl 16 oed ag anghenion addysgol arbennig o addysg uwchradd i addysg bellach/uwch neu gyfleoedd hyfforddi, gan gynnwys y Rhaglen Sgiliau Byw'n Annibynnol; nodi enghreifftiau o arferion da
  • Pwyso a mesur y cyfle i ddysgwyr ag anghenion cymhleth ym mhob rhan o Gymru, ac yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gael cyflogaeth agored a chyflogaeth warchodol, gan gynnwys y cyfle iddynt gael lleoliadau gwaith
  • Adolygu'r broses o baratoi Cynlluniau Pontio o fywyd ysgol i fywyd oedolyn, fel ag y'i disgrifir yn y Cod Ymarfer ar Anghenion Addysgol Arbennig, ac adolygu effeithiolrwydd trefniadau gwaith amlasiantaeth
  • Ymchwilio i'r ffordd y mae sefydliadau perthnasol yn y sector cyhoeddus (ym maes hyfforddiant, cyflogaeth, gyrfaoedd ac iechyd) yn gweithio mewn partneriaeth neu'n mynd ati ar y cyd i lunio trefniadau pontio, ac ymchwilio i'r ffordd y maent yn cydweithio ag asiantaethau elusennol a gwirfoddol
  • Argymell i Weinidog y Cynulliad ffyrdd o wella'r trefniadau pontio cyfredol.
Dogfennau Allweddol
Business | NAFW
Dogfen Dyddiad y bu’r Pwyllgor yn ei ystryried
Holidur yr Ymgynghoriad  
e Ymgynhoriad  
Dadansoddiad o Ymatebion i'r Ymgynghoriad 7 Rhagfyr 2006
Adolygiad Polisi o Anghenion Addysgol Y chwanegol Rhan 3 - Trosglwyddo Chwefror 2007

Partneriaid a Help