Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 

Y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Adolygiad Polisi Angherion Addusgol Arbennig - Rhan 2 - Asesiadau Fframwaith Statudol

Cylch Gorchwyl

Bydd y Pwyllgor yn:

Ymchwilio i weld i ba raddau y mae'r awdurdodau addysg lleol yn rhoi ystyriaeth i ofynion Cod Ymarfer AAA Cymru o ran asesiadau a datganiadau;

Ymchwilio i oblygiadau'r gwahaniaeth rhwng plant a phobl ifanc ag AAA sydd â datganiad a'r rheini nad oes ganddynt ddatganiad;

Ymchwilio i'r ffordd y mae'r awdurdodau addysg lleol yn cymell ysgolion i adolygu eu polisïau a'u harferion i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc ag AAA yn elwa ar addysg gynhwysol;

Ymchwilio i'r ffordd y mae awdurdodau addysg lleol ac ysgolion yn rhoi sicrwydd i rieni bod anghenion eu plant yn cael eu bodloni;

Nodi arferion gorau o ran gwaith amlasiantaeth i asesu AAA;

Ystyried a yw'r fframwaith asesu cyfredol yn defnyddio sgiliau ac adnoddau yn y ffordd orau bosibl, boed y rheini'n rhai dynol neu ariannol;

Ymchwilio i'r cyngor a'r cymorth a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg ynghylch asesiadau a datganiadau;

Gwneud argymhellion i Weinidog y Cynulliad ynghylch ffyrdd o wella'r trefniadau cyfredol ar gyfer asesu AAA.

Dogfennau Allweddol

Dogfen

Dyddiad y bu’r Pwyllgor yn ei ystyried

Prif Adroddiad Mai 2006