Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal
Adolygu Polisi 'Prif-ffrydio Cydraddoldeb' (Mehefin 2003 - Gorffennaf 2004)
Ym mis Mehefin 2003 penderfynodd Pwyllgor Cyfle Cyfartal Cynulliad Cenedlaethol Cymru adolygu dulliau o brif-ffrydio cydraddoldeb yng ngwaith y Cynulliad.
Cylch gorchwyl yr adolygiad oedd:
"Ystyried sut y gellir prif ffrydio cydraddoldeb yng ngwaith y Cynulliad a Llywodraeth y Cynulliad."
Mae’r Pwyllgor wedi mabwysiadu’r diffiniad isod o brif ffrydio fel man cychwyn:
Mae 'prif ffrydio’ cydraddoldeb yn ymwneud ag integreiddio egwyddorion, strategaethau ac arferion cyfle cyfartal yng ngwaith bob dydd y Cynulliad a chyrff cyhoeddus eraill. Mae’n golygu y dylid ystyried materion cydraddoldeb o’r cychwyn cyntaf, a hynny fel rhan annatod o’r gwaith o lunio polisi a darparu gwasanaethau. Dylai’r nod o sicrhau cydraddoldeb fod yn sylfaen i bob agwedd ar waith pob unigolyn sy’n gweithio mewn sefydliad.
Yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru, mae’n ofynnol i’r Cynulliad "wneud trefniadau priodol i sicrhau y rhoddir ystyriaeth ddyledus i'r egwyddor o gyfle cyfartal i bawb wrth gyflawni ei swyddogaethau". Mae gofyn iddo hefyd baratoi adroddiad bob blwyddyn i nodi pa mor effeithiol yw’r trefniadau hyn.
Nod yr adolygiad yw llunio camau ymarferol i helpu’r Cynulliad i wireddu’i ddyletswydd o dan y Ddeddf ac i sicrhau bod materion cyfle cyfartal yn rhan annatod o’r gwaith o lunio polisi a darparu gwasanaethau yng Nghymru.
Ar 17 Mawrth 2005, trafododd y Pwyllgor yr ymatebion a gafwyd i’w adroddiad ac yn Hydref 2005 bydd yn adolygu’r cynnydd a wnaed wrth weithredu’r argymhelliad a dderbyniwyd.
Dogfennau Allweddol
Dyma’r dogfennau allweddol.