Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Roedd cylchwaith eang iawn gan y Pwyllgor, wedi'i seilio ar bortffolio y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, a oedd yn cynnwys:
- yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy;
- cynllunio gwlad a thref;
- materion cefn gwlad a chadwraeth; ac
- amaethyddiaeth a datblygu gwledig, yn cynnwys coedwigaeth a chynhyrchu bwyd.
Prif swyddogaethau’r pwyllgorau pwnc, fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog rhif 9, oedd: datblygu polisi; craffu ar Weinidogion a chyrff a noddir gan y Cynulliad; a chraffu ar ddeddfwriaeth. Roedd y Pwyllgor hefyd yn rhoi cyngor ar ddyrannu cyllidebau.
Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio
Roedd aelodau’r pwyllgor yn eistedd ar Banel Penderfyniadau Cynllunio y Cynulliad.