Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwyllgor y Ty

Dirprwyodd y Cynulliad ei gyfrifoldeb dros faterion sy'n gysylltiedig â gwasanaethau'r Aelodau i Bwyllgor y Ty gan gynnwys:

  • y gwasanaethau, y cyfleusterau a'r adeiladau;
  • lwfansau'r Aelodau; a
  • materion eraill sy'n gysylltiedig â chynnal gwaith y Cynulliad.

Hwn oedd yr unig bwyllgor y bu i’r Cynulliad ddirprwyo pwerau gweithredol iddo.

Mae Rheol Sefydlog 18 y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi manylion llawn cylch gwaith y Pwyllgor.

Côd ar Gyfer Aelodau o Bwyllgor y Ty (link)

Roedd aelodaeth y Pwyllgor, cyn belled ag y bo'n bosibl, yn adlewyrchu'r cydbwysedd o ran grwpiau gwleidyddol yn y Cynulliad.