Y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Roedd cylch gwaith y Pwyllgor yn seiliedig ar bortffolio'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd y portffolio'n cynnwys:
- iechyd a'r GIG yng Nghymru;
- gwasanaethau cymdeithasol;
- gofal cymdeithasol; a
- diogelwch bwyd.
Prif swyddogaethau’r pwyllgorau pwnc, fel y'u nodir yn
Rheol Sefydlog rhif 9, oedd: datblygu polisi; craffu ar Weinidogion a chyrff a noddir gan y Cynulliad; a chraffu ar ddeddfwriaeth. Roedd y Pwyllgor hefyd yn rhoi cyngor ar ddyrannu cyllidebau.