Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Adolygiad Polisi: Y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl: Safon 2 - Cyfranogiad Defnyddwyr a Gofalwyr
Llythyr
Ymgynghori
Eich cyf . Your ref
Ein cyf . Our ref HSS Pol Rev 2 04-MH
23
Gorffennaf 2004
Annwyl Gyfaill,
Adolygiad Polisi: Y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl: Safon 2 - Cyfranogiad Defnyddwyr a Gofalwyr
Mae
Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cynnal adolygiad o agweddau ar Safon 2 y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl o ran cyfranogiad defnyddwyr a gofalwyr.
Ysgrifennaf
i’ch gwahodd i gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor.
Dyma gylch gorchwyl yr adolygiad:
Adolygu
Camau Allweddol 4 a 7 yn Safon 2 y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, fel y maent yn gymwys i oedolion o oed gweithio y mae’r FfGC yn berthnasol iddynt, a hefyd fel y mae’r egwyddorion yn gymwys i’r henoed
ac i blant a’r glasoed, ac yn arbennig felly:
- adolygu’r
gofynion cyfredol a’r canllawiau ar gyfer cynnwys defnyddwyr a gofalwyr wrth ddatblygu cynlluniau gofal unigol; ac
- adolygu’r
trefniadau cyfredol o ran cyfranogiad defnyddwyr a gofalwyr wrth gynllunio, dylunio, cyflwyno, monitro a gwerthuso gwasanaethau iechyd meddwl.
Bydd
y Pwyllgor yn ymgynghori â defnyddwyr a gofalwyr yn ogystal â darparwyr a chomisiynwyr gwasanaethau yn ystod yr adolygiad hwn.
Hoffai’r
pwyllgor yn arbennig gael tystiolaeth ar y canlynol:
- Beth yw ystyr cyfranogi’n 'llawn’
ac yn 'wirioneddol’ i chi/i’ch corff?
- Beth sy’n rhwystro defnyddwyr
a gofalwyr rhag cyfranogi’n llawn ac yn wirioneddol o ran
- datblygu cynlluniau gofal unigol; a
- cynllunio,
dylunio, cyflwyno, monitro a gwerthuso gwasanaethau iechyd meddwl?
- Sut y gellir goresgyn y rhwystrau hyn a phwy fydd yn gwneud hynny?
- Beth
fydd rôl:
- y Bwrdd Iechyd Lleol;
- Ymddiriedolaeth y GIG;
- y Tîm
Gofal Sylfaenol;
- y sector gwirfoddol;
- yr awdurdod lleol; a
- defnyddiwr
y gwasanaeth/y gofalwr?
- Nodwch enghreifftiau o arfer da o ran annog defnyddwyr a gofalwyr i gyfranogi’n llawn ac yn wirioneddol ym mhob agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl.
- 6.
Byddai’n dda gan y Pwyllgor hefyd gael tystiolaeth ynghylch a yw pobl â phroblemau iechyd meddwl yn teimlo bod stigma arnynt, ac os ydynt, beth ddylid ei wneud i gael gwared ar hynny.
Os
hoffech gyflwyno tystiolaeth dylech ei hanfon, drwy e-bost neu ar ddisg os gallwch, neu fel arall ar gopi papur, at Claire Morris, Dirprwy Glerc y Pwyllgor, Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgorau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Bae Caerdydd CF99 1NA. Y cyfeiriad e-bost yw health-soc-serv.comm@wales.gsi.gov.uk. Gofynnir i chi roi’r teitl Policy Review 2-04-MH ar yr e-bost.
Dylid
anfon cyflwyniadau er mwyn iddynt gyrraedd erbyn dydd Gwener 22 Hydref 2004. Caiff pob cyflwyniad ei gydnabod. Efallai na fydd modd ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwnnw.
Wrth
lunio eich cyflwyniad, cofiwch y pwyntiau a ganlyn:
- Dylai eich ymateb fod mor gryno â phosib. Defnyddiwch y rhifau uchod yn gyfeirnodau yn eich ymateb.
- Mae’n
arfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyhoeddi ymatebion i ymgyngoriadau cyhoeddus ac fe allai Aelodau’r Cynulliad hefyd weld a thrafod yr ymatebion yng nghyfarfodydd y Pwyllgor. Os nad ydych am i ni gyhoeddi’ch ymateb neu’ch enw
mae’n bwysig eich bod yn dweud hynny ar ddiwedd eich cyflwyniad
- Nodwch
a ydych yn ymateb ar ran sefydliad, neu fel unigolyn.
- Nodwch a fyddech yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor.
Bydd
y Pwyllgor yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad ysgrifenedig yn ystod yr hydref.
Os bydd
gennych unrhyw ymholiadau mae croeso i chi gysylltu â mi ar 029 2089 8149 neu â Claire Morris, y Dirprwy Glerc (ffôn 029 2089 8148).
Jane
Westlake
Clerc y Pwyllgor
Community Health Councils - Chief Officer
Local Authorities - Chief Executive
Local
Authorities - Directors of Social Services
Local Authorities - Directors of Housing
Local Health Boards - Chief Executive
Local Health Boards - Medical Director
Local Health
Boards - Nurse Director
NHS Trusts - Chief Executive
NHS Trusts - Medical Director
NHS Trusts - Nurse Director
1 to 1
3 CDS Three Counties Deaf Support
4
Winds User Led Association
Abertillery Mental Health Self Support Group
Aberystwyth Action Group for Mental Health
Adult Mental Health NSF Implementation Advisory Group
Age
Concern
All Wales CAMHS Senior Nurses Forum
Alzheimer's Society Wales
Anheddau Outdoors
Arts Care
Arts Disability Wales
ASBAH yng Nghymru/ASBAH
in Wales
Asian Cultural Association
Asian Womens Group
Association of Directors of Social Services
Association of Muslim Professionals
Association of Swimming
Therapy - Wales
Atsain - Music Therapy Trust Wales
Awetu
AWFPC
Bangladesh Welfare Association
Bangladeshi Women's Group
Barnados Cymru
Black
Environment Network
Black Voluntary Sector Network Wales
Blackwood and District Alzheimer Carers Group
Blue Heather
Brain Injury Service
Brecknock Access
Group
Brecknock Carers Centre Association
Brecon and District Contact Association
Bridgend Obsessive Compulsive Disorder Group
British Medical Association - General Practitioner
Committee Wales
British Psychological Society (Wales)
Bro Taf Mental Health Voluntary Sector Network
Brynithel Mental Health Self Support Group
Cardiff Carers Network (Mental
Health)
Cardiff Chinese Community Services Association
Cardiff Patients Council
Care and Repair Cymru
Care Cymru
Carers Wales
Centre
for Mental Health Service Development
Ceredigion Advocacy Network
Ceredigion Mental Health Forum
Changing Attitudes Project
Children in Wales
Children's
Commissioner for Wales
Churches' Counselling Service in Wales
Clinical Child Psychologists in Wales
College of Occupational Therapists
Connect 141:121
Contact
a Family
Crossroads
Cruise Cymru
Cymdeithas Alzheimer
Cymdeithas Tai Clwyd
Cynon Mental Health Resource Centre
Cynon Valley Mental
Health Drop-in
Cynon Valley Mental Health Support Association
Cyswllt Deaf Children's Society
DAFFODILS
Daisy
Dan-y-Deri Mental Health Resource Centre
Deeside
Day Care Association
Delyn Community Cares Trust
Depression Alliance Cymru
Dolen
Eating Disorders Support Group
Eating Disorders Wales
Eich
Dewis Chi
Forge Centre, Port Talbot
Flintshire Mental Health Advocacy Service
Flintshire Primary Care Service for Children
Growing Space
Gwent Befriending
and Advocacy Project
Gwydir Day Centre Llanrwst
Hafal
Health and Social Care Network
Health Commission Wales
Help us to Survive
Home
and Community Care Services Ltd
Home-Start Wales
Innovate Trust
Leonard Cheshire Foundation
Llanarth Court Hospital
Llanhilleth Mens Stress Group
Lynx
Workshops
M H Carers Support Group
Manic Depression Fellowship
Manic Depression Support Group
Mental Health Advocacy in Carmarthen
Mental Health Advocacy
in Pembrokeshire
Mental Health Advocacy Scheme
Mental Health Carers Support Group
Mental Health Drop In
Mental Health Forum
Mental Health Forum Swansea
Mental
Health Matters (Bridgend CB)
Mental Health Users Forum
Mewn Cymru
MHRIC
Mid and West Wales M E Group
Mid Glamorgan County Blind Welfare Association
Mind
Cymru
Minority Ethnic Womens Network (MEWN)
Montgomery Community Care Project Limited
Montgomery Welfare Committee
Morgannwg League Friends of the Mentally Ill
Multicultural
Crossroads Caring for Carers
Multicultural Youth Centre
NCH Cymru
Newport Mind Advocacy
North Wales Advocacy and Advice Association
Pembrokeshire Care Society
Pembrokeshire
Deaf Children's Society
Pembrokeshire FRAME Limited
Pembrokeshire Hearing Voices Group
Pendulum Group
Penley Rainbow Centre
People and Work Unit
People
in Partnership
Permanent Waves Women's Arts Association
Person to Person Citizen Advocacy
Pontrhydrun MDF Friendship Group
Pontypool Schizophrenia Fellowship
Powys
Advocacy Service & EMI Pilot Project
Powys Advocacy Service (Montgomeryshire)
Powys Patients Council
Reflections
Reflections User Group
Rhondda
Cynon Taff Health and Social Care Network
Royal College of General Practitioners
Royal College of Nursing (Wales)
Royal College of Paediatrics and Child Health (Wales)
Royal
College of Psychiatrists in Wales
Samaritans
Schizophrenia Association of Great Britain
South Glamorgan Mental Handicap Arts Resource
South Monmouthshire Mental Health Project
South
Wales Mental Health Advocacy
Sunrise Colwyn Bay
Sunrise Llandudno
Swansea Valley and District Home Care Co-op Swansea Women's Resource & Training Centre
Tenby Resource
Initiative
The League of Friends of Pen-y-Fal Hospital
Toc H - North Wales
Unllais
US Network
VAMT Health and Social Care Network Forum
Voices
from Care
Welsh Local Government Association
West Glamorgan Lay Advocacy
West Glamorgan Sport for Mental Handicapped
Wordsworth Independent Advocacy Service
Wrexham
Advance
Wrexham Care Association
Young Minds