LEG(2) 14-06
Y Pwyllgor Deddfau
| Dyddiad: | 9 Mai 2006 |
| Amser: | 9.30 -10.30 |
| Lleoliad: | Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd |
| Teitl: | Craffu Technegol ar Ddeddfwriaeth yn San Steffan |
Craffu Technegol ar Ddeddfwriaeth yn San Steffan
Mae’r nodyn yma yn grynodeb byr iawn ar graffu technegol ar ddeddfwriaeth a materion perthynol yn San Steffan. Mae’r gwaith craffu sydd wedi’i drafod yn gynharach yn adolygiad y Pwyllgor Deddfau wedi ymdrin ag amrediad eang o faterion. Yn San Steffan, mae cyfanswm yr Aelodau yn y ddau Dy yn caniatáu i’r gwaith gael ei rannu rhwng nifer fawr o Bwyllgorau (mae rhagor o fanylion am rai o’r Pwyllgorau wedi’u rhoi os yw’r wybodaeth ar gael ar wefan y Senedd ar ffurf ddefnyddiol) - Cyd-bwyllgorauY Cyd-bwyllgor ar Hawliau DynolCylch gwaith: Y Pwyllgor sy’n gyfrifol am ystyried materion hawliau dynol yn y DU. Er hynny, nid yw’r Pwyllgor yn cael ymchwilio i achosion unigol.Aelodau o Gymru: Neb.Y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau StatudolCylch gwaith: Y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol sy’n gyfrifol am graffu ar yr offerynnau statudol sy’n cael eu gwneud drwy arfer y pwerau sydd wedi’u rhoi gan Ddeddf Seneddol.Aelodau o Gymru: Y Farwnes Gale.Pwyllgorau Ty’r CyffredinY Pwyllgor Craffu EwropeaiddCylch gwaith: Y Pwyllgor sy’n asesu pwysigrwydd cyfreithiol a/neu wleidyddol pob dogfen o’r UE, sy’n penderfynu pa ddogfennau o’r UE sy’n cael eu trafod, sy’n monitro gweithgareddau Gweinidogion y DU yn y Cyngor, ac sy’n cadw llygad ar ddatblygiadau yng nghyfraith, gweithdrefnau a sefydliadau’r UE.Aelodau o Gymru - Wayne David AS a Nia Griffith AS.Y Pwyllgor Diwygio RheoleiddioCylch gwaith: Mae’r Pwyllgor Diwygio Rheoleiddio (olynydd y Pwyllgor Dadreoleiddio) yn craffu ar gynigion y Llywodraeth ar gyfer gorchmynion diwygio rheoleiddio o dan Ddeddf Diwygio Rheoliadau 2001.Aelodau o Gymru: NebY Pwyllgor Dethol ar Offerynnau StatudolCylch gwaith: Y Pwyllgor Dethol ar Offerynnau Statudol sy’n gyfrifol am graffu ar yr holl offerynnau statudol sy’n cael eu cyflwyno gerbron Ty’r Cyffredin yn unig. Mae ei waith yn cyd-fynd yn agos â gwaith y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol.Aelodau o Gymru: Neb.Pwyllgorau Ty’r ArglwyddiY Pwyllgor CyfansoddiadolCylch gwaith: Mae’r Pwyllgor wedi’i benodi i edrych ar oblygiadau cyfansoddiadol pob mesur cyhoeddus sy’n dod gerbron y Ty ac i gadw llygad ar sut mae’r cyfansoddiad yn gweithio. Mae gan y Pwyllgor swyddogaeth graffu wrth edrych ar fesurau cyhoeddus i chwilio am faterion o arwyddocâd cyfansoddiadol, a swyddogaeth ymchwilio wrth gynnal ymchwiliadau i faterion cyfansoddiadol ehangach.Aelodau o Gymru: Yr Arglwydd Rowlands.Pwyllgor Dethol yr Undeb EwropeaiddCylch gwaith: Cylch gorchwyl y Pwyllgor yw ystyried dogfennau’r Undeb Ewropeaidd a materion eraill sy’n ymwneud â’r UE.Aelodau o Gymru: Neb.Pwyllgor Dethol Ty’r Arglwyddi ar Bwerau Datganoledig a Diwygio Rheoleiddio Cylch gwaith: Mae’r Pwyllgor ar Bwerau Datganoledig a Diwygio Rheoleiddio yn cael ei benodi gan Dy’r Arglwyddi ym mhob sesiwn a’i gylch gorchwyl yw cyflwyno adroddiadau ar a yw darpariaethau unrhyw fesur yn dirprwyo pwer i ddeddfu mewn modd amhriodol, neu a ydyn nhw’n dod ag arfer y pwer i ddeddfu o dan lefel amhriodol o graffu seneddol; cyflwyno adroddiadau ar ddogfennau a gorchmynion drafft sy’n cael eu cyflwyno gerbron y Senedd o dan Ddeddf Diwygio Rheoleiddio 2001; a chyflawni, mewn perthynas â dogfennau a gorchmynion a darpariaethau eilaidd o’r fath sy’n cael eu cyflwyno o dan y Ddeddf, y swyddogaethau sy’n cael eu cyflawni mewn perthynas ag offerynnau eraill gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol.Aelodau o Gymru: Neb.Pwyllgor Dethol Ty’r Arglwyddi ar Ragoriaethau Offerynnau StatudolCylch gwaith: Cafodd y Pwyllgor ei benodi am y tro cyntaf ar 17 Rhagfyr 2003 i edrych ar ragoriaethau unrhyw offeryn statudol sy’n dod o dan naill ai'r weithdrefn gadarnhaol neu’r weithdrefn negyddol. Mae’r Pwyllgor yn tynnu unrhyw offeryn sydd wedi’i gyflwyno yn ystod yr wythnos flaenorol at "sylw arbennig y Ty" os yw’r Pwyllgor o’r farn y gallai fod:a) yn bwysig yn wleidyddol neu’n gyfreithiol am ei fod yn codi materion o bolisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Ty;b) yn amhriodol oherwydd newid yn yr amgylchiadau ers i’r rhiant-ddeddf gael ei phasio;
c) yn rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith mewn ffordd amhriodol; neu
d) yn cyrraedd ei amcanion polisi mewn ffordd amherffaith.Aelodau o Gymru: Y Farwnes Morgan o Drefelin.Er bod hyn yn tanlinellu hyd a lled y gwaith craffu a allai gael ei wneud gan fwy na 1350 o aelodau, nid yw’n fawr o help i’r Pwyllgor wrth iddo bwyso a mesur sut y gallai gwaith craffu gael ei wneud gan Gynulliad o 60 yn unig o aelodau.Gwyn Griffiths Mai 2006
Cynghorydd Cyfreithiol APS
