Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Roedd cylch gwaith y Pwyllgor yn seiliedig ar bortffolio Gweinidog y Cynulliad dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd yn ymwneud â llywodraeth leol a datblygu dull strategol o gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus.

Nid oedd yn ymwneud â chyfrifoldebau'r Gweinidog mewn perthynas ag arian y Cynulliad, neu faterion polisi neu ariannol a oedd yn perthyn i bortffolio arall.

Prif swyddogaethau’r pwyllgorau pwnc, fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog rhif 9, oedd: datblygu polisi; craffu ar Weinidogion a chyrff a noddir gan y Cynulliad; a chraffu ar ddeddfwriaeth. Roedd y Pwyllgor hefyd yn rhoi cyngor ar ddyrannu cyllidebau.