Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Y Trefniadau Etholiadol yng Nghymru
Cylch Gorchwyl
Ystyried materion yn ymwneud â threfniadau etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru, ac yn arbennig, cofrestru pleidleiswyr, canran y bobl sy'n pleidleisio, y bobl ifanc sy'n pleidleisio a phleidleisio mewn ieithoedd ac eithrio Saesneg.
Ystyried gwahanol fesurau a ddefnyddir o fewn systemau gwleidyddol eraill ar gyfer gwella'r ganran sy'n pleidleisio, cofrestru pobl ifanc a'u hannog i bleidleisio, ac i ba raddau y gallent gael eu cymhwyso i etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru.
Ystyried a oes unrhyw fesurau ychwanegol yn ofynnol er mwyn sicrhau bod y trefniadau pleidleisio yng Nghymru yn gwbl gynhwysol.
Cyflwyno argymhellion.