Y ffordd y gweithredis y strwythurau rheoli gwleidyddol newydd o fewn Llywodraeth Leol
Llythr yn gwahodd cyflwyno tystiolaeth
Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Local Government and Public Services Committee
Bae Caerdydd / Cardiff Bay
Caerdydd / Cardiff CF99 1NA
18 Gorffennaf 2003
Annwyl Gyfaill
Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i'r ffordd y gweithredir y strwythurau rheoli gwleidyddol newydd o fewn llywodraeth leol yng Nghymru. At y diben hwn byddai'r Pwyllgor yn croesawu cyflwyniadau ysgrifenedig o dystiolaeth oddi wrth bobl sydd â diddordeb.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad ydy:
Ystyried y ffordd y gweithredir y strwythurau rheoli gwleidyddol newydd yng Nghymru a gyflwynwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, eu llwyddiant wrth sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud mewn ffordd fwy agored, effeithlon ac atebol a gwneud argymhellion i annog datblygiad arferion da.
Byddai'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ac enghreifftiau o arferion presennol yn y meysydd canlynol yn arbennig:
·sut mae cyflwyno llywodraeth weithredol wedi effeithio ar atebolrwydd ac ar effeithlonrwydd a natur dryloyw ac agored prosesau gwneud penderfyniadau ym maes llywodraeth leol;
- sut mae pwyllgorau arolygu a chraffu wedi dwyn y weithrediaeth i gyfrif ac wedi cyfrannu at y broses o ddatblygu polisïau;
- sut mae swyddogaeth cynghorwyr 'meinci cefn' wedi newid a datblygu; a
- sut mae'r trefniadau newydd wedi agor y broses gwneud penderfyniadau i'r cyhoedd ac wedi sefydlu atebolrwydd clir am benderfyniadau ym marn pleidleiswyr.
Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried y cyflwyniadau ysgrifenedig y bydd yn eu derbyn, gallai wahodd tystiolaeth bellach ar lafar. Os hoffech gyfrannu, dylid anfon cyflwyniadau ysgrifenedig, yn ddwyieithog os yn bosibl, drwy e-bost at Local-Govn.comm@Wales.gsi.gov.uk neu drwy'r post i'r cyfeiriad uchod erbyn Dydd Gwener 10 Hydref 2003. Mae'r Pwyllgor yn ceisio sicrhau bod yr holl adroddiadau a'r dystiolaeth y mae'n eu derbyn yn cael eu cyhoeddi. Os nad ydych yn dymuno i bobl eraill weld eich sylwadau, gofynnir i chi bwysleisio hyn yn eich cyflwyniad.
Mae'r llythyr hwn wedi'i anfon at bawb sydd yn y rhestr ynghlwm. Mae croeso i chi drosglwyddo'r gwahoddiad hwn i unrhyw un arall a allai fod â diddordeb.
Yn gywir
Adrian Crompton
Clerc Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus