Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd

Roedd Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd yn cynnwys ardaloedd Alun, Glannau Dyfrdwy, Caernarfon, Dyffryn Clwyd, Gorllewin Clwyd, De Clwyd, Conwy, Delyn, Wrecsam ac Ynys Môn.

Swyddogaeth y pwyllgor rhanbarth oedd rhoi cyngor i'r Cynulliad ar:

  • faterion oedd yn effeithio ar y rhanbarth;
  • effaith polisïau'r Cynulliad yn y rhanbarth;
  • gwaith cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau.

Mae Rheol Sefydlog 10 y Cynulliad Cenedlaethol yn darparu manylion llawn o gylch gwaith y pwyllgor.