Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwyllgor Rhanbarth Y Gogledd (Gorffennaff 2003 - Mawrth 2005)

Yr ail adroddiad: Tai Fforddiadwy a Chymunedau Cynaliadwy yng Ngogledd Cymru NWR(2)-03 (r 2)

Cyflwyniad

1.1 Un o bedwar pwyllgor rhanbarth y Cynulliad yw Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd. Mae’n cynnwys Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Ynys Môn, Wrecsam a’r rhan o Wynedd sy’n cynnwys hen ddosbarthau Arfon a Dwyfor.

1.2 Rôl y pwyllgorau rhanbarth, fel y’i diffinnir gan Reol Sefydlog 10.2, yw cynghori’r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch materion sy’n effeithio ar y rhanbarthau, effaith polisïau’r Cynulliad yn y rhanbarthau hynny a gwaith y cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau.

1.3 Yn ystod ei gyfarfod, a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2003, ystyriodd y Pwyllgor yr agweddau hynny ar gynllunio sy’n gysylltiedig â darparu tai fforddiadwy a materion yn ymwneud â chymunedau cynaliadwy sy’n efeithio ar y rhanbarth. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r pwyntiau a godwyd.

Tai fforddiadwy a chymunedau cynaliadwy yng Ngogledd Cymru

1.4 Mae Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i agweddau ar gynllunio sy’n gysylltiedig â darparu tai fforddiadwy a materion yn ymwneud â chymunedau cynaliadwy yng nghefn gwlad. Dyma gylch gwaith yr ymchwiliad: ystyried i ba raddau y mae’r polisïau cynllunio cyfredol yn effeithiol wrth gynnal y ddarpariaeth o dai fforddiadwy a chymunedau cynaliadwy yng nghefn gwlad a gwneud argymhellion i ddatblygu polisi yn y maes hwn. Estynnwyd gwahoddiad i bwyllgorau rhanbarth gasglu sylwadau pobl yn eu hardaloedd, er mwyn asesu a oes angen gwahanol atebion mewn gwahanol rannau o Gymru.

Negeseuon allweddol

1.5 Dyma’r prif negeseuon a glywyd yn ystod y cyfarfod:

  • Cymunedau cynaliadwy - yr angen i sicrhau cymunedau cytbwys a pharhad yr iaith yn y cymunedau Cymraeg, drwy integreiddio tai fforddiadwy (preifat a chymdeithasol) a thai a werthir yn ôl gwerth y farchnad. Pwysleisiwyd mai dim ond un ffordd o fynd i’r afael â’r materion hyn oedd yr agwedd gynllunio, mewn partneriaeth â thai a datblygu economaidd;
  • Perchnogaeth - potensial y system gynllunio i gynorthwyo â’r gwaith o ddatblygu marchnad tai fforddiadwy i alluogi’r rheini na fedrant dalu’r prisiau tai presennol i brynu eiddo, a’r posibilrwydd o ddefnyddio’r amodau cynllunio presennol i sicrhau tai fforddiadwy i bobl leol;
  • Rhentu - pryder ynghylch y dirywiad yn stoc y tai cymdeithasol a chymorth i ddarparu adnoddau i ddatblygu marchnad tai rhent fforddiadwy.

Cyflwyniadau

1.6 Clywodd y Pwyllgor gyflwyniadau byr gan y cyrff a ganlyn ar wahanol agweddau ar yr her sy’n ein hwynebu. Mae copïau o’r cyflwyniadau i’w cael yn yr Atodiadau.

  • Cymuned - yn amlinellu sut y gallai’r system gynllunio hybu cynaliadwyedd cymunedau cymysg, lle mae rhan hanfodol i’r iaith Gymraeg (gweler Atodiad 1);
  • Ffederasiwn Cymdeithasau Tai (Cymdeithas Tai Clwyd a Chymdeithas Tai Eryri) - yn amlinellu ffyrdd o fynd i’r afael â’r angen am dai rhent fforddiadwy o ganlyniad i ddirywiad yn stoc dai awdurdodau lleol (gweler Atodiad 2);
  • Sefydliad Tai Siartredig Cymru - yn amlinellu ffyrdd o nodi anghenion tai ac o fynd i’r afael â’r gostyngiad yn nifer y tai cymdeithasol sydd ar gael a hybu’r sector hwnnw (gweler Atodiad 3).

Barn pobl Gogledd Cymru

1.7 Dyma’r pwyntiau penodol a godwyd gan y cyhoedd:

  • Gofynnodd Wyn Roberts, Ysgrifennydd Cyfeillion Llyn, am ddiffiniad o "fforddiadwy" a "chefn gwlad";
  • Dywedodd Cynghorydd Cyngor Tref Llandudno fod angen rhagor o arian ar gyfer Cymdeithasau Tai, e.e. i ddatblygu cynlluniau rhannu perchnogaeth, ac awgrymodd y dylai awdurdodau lleol neilltuo tir ar gyfer tai fforddiadwy;
  • Dywedodd Eifryn Davies, Cyngor Ynys Môn, fod y term "tai fforddiadwy" yn anodd i’w ddiffinio gan ei fod yn amrywio o ardal i ardal, a bod angen i awdurdodau lleol sicrhau bod datblygwyr yn cynnwys tai fforddiadwy mewn datblygiadau newydd;
  • Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Efans, Cyngor Cymuned Bethesda, fod angen dod â gwaith a chyflogau teg i’r ardal. Teimlai hefyd na ddylid dyrannu arian ar gyfer tai cymdeithasol Hawl i Brynu, ond yn hytrach, dylid ei dargedu at gymunedau lleol;
  • Soniodd Gareth Winston, Cyngor Ynys Môn, am yr angen i greu gwaith, ac awgrymodd fod awdurdodau lleol yn rhyddhau eu tir eu hunain ar gyfer tai fforddiadwy;
  • Teimlai Merfyn Jones y dylai tai fforddiadwy fod ar gael i bawb yn y gymuned, ac ni ddylid eu cyfyngu ar sail iaith;
  • Mynegodd Nicky Griffiths, myfyrwraig yng Ngholeg Meirion Dwyfor, bryder am ddirywiad yr iaith Gymraeg mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o bobl ddi-Gymraeg wedi symud o ardaloedd eraill;
  • Awgrymodd Sian Davies, Cyngor Cymuned Cwm Cydnant, y dylid osgoi datblygiadu ar ffiniau aneddiadau, ac ailddatblygu adeiladau gwag neu adfeiliedig yn y trefi a’r pentrefi, e.e. drwy orchmynion prynu gorfodol;
  • Dywedodd Gareth Hobson, pensaer, nad oedd cydraddoldeb cymdeithasol pan all rhai fforddio ail gartrefi er na all eraill fforddio eu cartref cyntaf, ac roedd yn cefnogi gosod cyfyngiadau ar ail gartrefi;
  • Dywedodd Geraint Roberts, Cyngor Dinas Bangor, fod cyflogau yn is yng Ngogledd Cymru nag yn Lloegr, a chan hynny, roedd pobl ifanc yn gadael eu cymunedau i chwilio am waith a oedd yn talu’n well. Awgrymodd y dylid adolygu fformiwla Barnett i unioni anghysonderau economaidd;
  • Pwysleisiodd John Nicholson yr angen i adfywio economïau lleol, a theimlai mai dewis personol oedd yr iaith a siaradai mewnfudwyr i gymunedau Cymraeg;
  • Nododd Alun Griffith, Cyngor y Deillion, Caerdydd, fod llawer o’r rhai a oedd yn symud i ardaloedd newydd yn bensiynwyr ac nad oeddynt yn cyfrannu at dwf economaidd cymunedau lleol;
  • Dywedodd John Charlton, Cyngor Ynys Môn, ei bod yn anodd dylanwadu ar brisiau tai, a’u bod yn dibynnu nid yn unig ar bris tir, ond hefyd ar gost datblygu;
  • Awgrymodd Seimon Glyn, Cymuned, y gellid defnyddio Cytundebau Adran 106 ar rai mathau o dai newydd, i ddatblygu marchnad wahanol ar gyfer tai fforddiadwy i bobl leol;
  • Soniodd y Cynghorydd Eve Butler, Cyngor Dinas Bangor, ei bod yn anodd diffinio "cymuned" a dywedodd fod ail gartrefi a landlordiaid absennol yn creu problemau;
  • Cyfeiriodd y Cynghorydd William Arthur Evans, Cyngor Gwynedd, at y trafferthion sy’n wynebu’r rheini sy’n chwilio am forgeisi ar gyfer eiddo a oedd yn rhwym wrth Gytundebau Adran 106. Awgrymodd fod y Cynulliad yn sefydlu fforwm i ymdrin â’r amrywiaeth o faterion sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd cymunedau lleol;
  • Dywedodd Huw Edwards, Cyngor Sir Caernarfon, ei fod yn gobeithio y byddai’r Cynulliad yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd gan ymchwiliad Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad;
  • Awgrymodd Ivan Plumming, Coleg Meirion Dwyfor, y dylai’r ymchwiliad edrych ar y polisïau a fabwysiadwyd yn Ardal y Llynnoedd, lle roedd problemau tebyg;
  • Pwysleisiodd y Cynghorydd Bob Barton, Cyngor Cymuned Llanarmon-yn-Ial, fod angen datblygu sector tai rhent fforddiadwy, yn ogystal â thai fforddiadwy i’w prynu. Dywedodd y dylid rhoi mwy o gymorth i fewnfudwyr ddysgu Cymraeg;
  • Dywedodd y Cynghorydd Richard Parry Hughes, Arweinydd Cyngor Gwynedd, fod mwy o botensial i awdurdodau lleol ddefnyddio’u tir eu hunain ar gyfer tai fforddiadwy, e.e. drwy ymddiriedolaethau elusennol. Gobeithiai y byddai’r Cynulliad yn ymateb yn gadarnhaol i adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad;
  • Awgrymodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Cyngor Ynys Môn, y dylai awdurdodau lleol drosglwyddo’u stoc dai i gwmnïau a gyfyngwyd gan warant i aros yn y farchnad tai cymdeithasol a fforddiadwy;
  • Dywedodd Dyfed Robert o Ddyffryn Nantlle fod angen cynnwys yr iaith Gymraeg fel ffactor yn y system gynllunio. Roedd yn cefnogi cyfyngu ar y cynllun Hawl i Brynu mewn ardaloedd lle roedd prinder tai fforddiadwy, ac roedd yn amau’r camau ymarferol yr oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â materion tai;
  • Dywedodd Eric Wyn Roberts o Bwllheli fod y cynllun Hawl i Brynu yn cael effaith andwyol ar y sector rhentu. Dylai tai rhent fforddiadwy fod ar gael, yn ogystal â thai fforddiadwy i’w prynu;
  • Nododd Janet Williams o Borthmadog fod prinder tai i blant yng ngofal awdurdod lleol;
  • Mynegodd Meirion Llewellyn o Gaernarfon bryder am gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg, gan i’r cyfrifiad diweddar gofnodi dim ond wyth cymuned yn yr ardal lle’r oedd dros saith deg y cant o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg;
  • Roedd y Cynghorydd Meurig Davies, Meirionydd, yn cefnogi’r cyfyngiadau ar ailwerthu tai cyngor a brynwyd yn unol â’r cynllun Hawl i Brynu;
  • Dywedodd Peter Ogden, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, fod bwlch cynyddol rhwng incwm bobl leol a phrisiau tai, a bod prisiau tai ar waelod y farchnad yn gynyddol anfforddiadwy. Roedd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bolisi o gyfyngu’r tir a ryddheir ar gyfer codi tai newydd i bobl leol sy’n gallu dangos bod angen tai arnynt;
  • Awgrymwyd y dylid anfon neges yn ôl i’r Cynulliad yn gofyn am ddod â’r cynllun gwerthu tai cyngor i ben;
  • Sylwodd nifer o bobl ar absenoldeb Aelodau’r Grp Llafur yn y cyfarfod, a phwysleisiwyd bod angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru fynd i’r afael â’r pwyntiau a godwyd.

Sylwadau ysgrifenedig

1.8 Cyflwynwyd sylwadau ysgrifenedig yn ystod y cyfarfod ac wedyn, ac maent i’w gweld yn yr Atodiadau. Dyma’r prif bwyntiau:

  • Gofynnodd Pam Corry, Mencap Cymru, pa gynlluniau a oedd ar y gweill ar gyfer pobl ag anableddau dysgu nad oeddynt yn gallu fforddio prynu eiddo. Roedd yn pryderu bod llawer o swyddi yn yr ardal yn cael eu hysbysebu yn Gymraeg yn unig yn hytrach na’n ddwyieithog;
  • Roedd y Cynghorydd Rhiannon Efans yn pryderu am brinder cartrefi fforddiadwy i bobl ifanc, y polisi o werthu tai cyngor, a’r diffyg arian ar gyfer y cynllun cymorth i brynu. Sylwodd hefyd ar absenoldeb Aelodau’r Grp Llafur yn y cyfarfod.
  • Dywedodd Merfyn Jones y dylid darparu cyfleusterau ar gyfer pobl awtistig yn y Gogledd a’r De, ac y dylai tenantiaid tai cymdeithasol a phensiynwyr gael cymorth i dalu eu biliau rhent.
  • Pwysleisiodd John Nicholson nad oedd prinder tai fforddiadwy’n unigryw i Ogledd Cymru, ac roedd angen mynd i’r afael â’r broblem drwy wella’r economi leol, nid drwy’r system gynllunio’n unig. Roedd yn pryderu am bolisïau dwyieithog gwasanaethau cyhoeddus Gwynedd ac agwedd y rheini nad oeddynt yn siarad Cymraeg, ac ymatebodd i rai o’r pwyntiau a wnaed gan Cymuned yn y cyfarfod;
  • Dywedodd S. Ratcliffe, Achub y Plant, yng nghyswllt cymunedau cynaliadwy, nad oedd llawer o bobl a anwyd, a fagwyd ac a oedd yn gweithio yng Ngogledd Cymru yn siarad Cymraeg. Teimlai fod gan bobl yr hawl i ddewis ym mha iaith yr oeddynt yn cyfathrebu ac ni ddylid eu gorfodi i siarad Cymraeg, ac y dylai’r Cynulliad hybu dealltwriaeth a chydraddoldeb, yn hytrach na pharhau i greu rhaniad rhwng cymunedau Cymraeg a chymunedau Seisnig.
  • Roedd Chris Ruane AS yn pryderu am nifer y tai amlfeddiannaeth yng nghymunedau glan môr Gogledd Cymru. Nid oedd gan y rhan fwyaf ohonynt unrhyw ran yn y diwydiant twristiaid erbyn hyn ac roeddynt yn eiddo i landlordiaid absennol nad oedd ganddynt unrhyw ddiddordeb yn y dref na’r gymuned; eu hunig ddiddordeb oedd gwneud arian.

Y camau nesaf

1.9 Mae’r adroddiad hwn yn rhan o ymchwiliad Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad. Bydd copïau hefyd ar gael i’r Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, ac i’r Gweinidogion perthnasol.

Janet Ryder AC
Cadeirydd y Pwyllgor

Mae copi o’r adroddiad hwn ar gael ar wefan y Cynulliad www.wales.gov.uk Os hoffech gopi caled, ebostiwch NWales.regcomm@wales.gsi.gov.uk neu cysylltwch â Silvia Ricondo ar 029 2089 8018.

Atodiadau

Cyflwyniadau

Cymuned (Atodiad 1)

Ffederasiwn Cymdeithas Tai Cymru (Cymdeithas Tai Eryri a Chymdeithas Tai Clwyd) (Atodiad 2)

Sefydliad Tai Rhestredig Cymru (Atodiad 3)

Sylwadau ysgrifenedig (copïau caled yn unig)

Pam Corry, Mencap Cymru (Atodiad 4)

Y Cynghorydd Rhiannon Efans (Atodiad 5)

Merfyn Jones (Atodiad 6)

John Nicholson (Atodiad 7)

S Ratcliffe, Achub y Plant (Atodiad 8)

Chris Ruane AS (Atodiad 9)

Atodiad 1a

Cyflwyniad Llafar Cymuned

Fe gofiwch chi fod ein cyflwyniad ysgrifenedig wedi datgan ein barn ni fod cynnal yr amgylchedd ieithyddol yn rhan annatod o ddatblygu cynaliadwy — a’n barn nad ydi parhad marchnad rydd ddilyffethair yn y maes tai yng Nghymru yn gydnaws â pharhad yr iaith Gymraeg, nac â sefydlogrwydd cymdeithas yn gyffredinol.

Fe gofiwch chi hefyd i ni awgrymu y dylid ystwytho darpariaethau’r ddogfen Polisi Cynllunio Cymru mewn nifer o ffyrdd, er mwyn hwyluso creu marchnad dai gymunedol, a fyddai ar wahân i’r farchnad rydd. Ac fe gofiwch i mi awgrymu bod yna dueddiadau yn y maes cynllunio yng Nghymru, ar hyn o bryd, tuag at gefnu ar yr egwyddor, sy’n cael ei datgan yn Polisi Cynllunio Cymru, y dylai datblygiadau tai fod yn ddatblygiadau deiliadaeth gymysg. Y canlyniad ydi fod yna berygl y bydd pobl ar lefelau incwm is yn cael eu getoeiddio oddi mewn i’w cymunedau.

Mi ddylai’r perygl o dyndra cymdeithasol, mewn sefyllfa o’r fath, fod yn amlwg. Dydi cymuned fechan lle mae ’na wahaniad llwyr o ran lleoliad rhwng pobol gefnog a phobol sydd ar incwm is, gyda chyfleoedd llai mewn bywyd, ddim yn debygol o fod yn gymuned iach.

Hefyd, rhaid cofio bod y sefyllfa bresennol — fel y mae ymchwil cymdeithasegol wedi dangos — yn un lle mae ’na duedd eisoes, yn y cymunedau Cymraeg, i siaradwyr Cymraeg lenwi swyddi is eu cyflog a’u statws, ac i’r swyddi gwell, yn enwedig yn y sector preifat, gael eu llenwi gan bobl ddi-Gymraeg o’r tu allan i’r gymuned.

Y canlyniad ydi bod cyfran gymharol uchel o dai fforddiadwy mewn cymunedau Cymraeg yn debygol o fod yn gartrefi i Gymry Cymraeg. O alltudio tai fforddiadwy i ystadau ar wahân, y canlyniad fyddai dwysáu’r duedd i Gymreictod gael ei gysylltu — ym meddyliau pobl ddi-Gymraeg a phobl Gymraeg fel ei gilydd — efo tlodi a chyfleoedd cyfyngedig. Mi fuasai mudiad Cymuned yn gwaredu’n chwyrn at unrhyw dueddiadau o’r fath.

Rheswm arall pam y mae hi’n hanfodol glynu wrth yr egwyddor o sicrhau bod pob datblygiad tai newydd yn ddatblygiad deiliadaeth gymysg ydi mai dyna’r ffordd orau o sicrhau bod mewnfudwyr yn dod i gysylltiad dyddiol efo’r iaith Gymraeg ac efo pobol Gymraeg. Fel arall, mi fydd pob datblygiad o dai moethus yn geto di-Gymraeg, lle mae mwyafrif y trigolion mewn ymneilltuad parhaus a hunan-fodlon rhag diwylliant cynhenid y gymuned y maen nhw wedi dod i fyw ynddi hi.

Ni all unrhyw gymuned Gymraeg barhau’n gynaliadwy, mewn termau ieithyddol, dan amgylchiadau o’r fath. Ac os am wireddu dymuniad Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel y mae hwnnw wedi ei ddatgan yn y ddogfen Iaith Pawb, o weld cynnydd cyson yn nifer a chanran y bobl sy’n siarad Cymraeg, a sicrhau cydbwysedd yng nghyfansoddiad cymdeithasol ac ieithyddol cymunedau, mae hi’n hanfodol fod Llywodraeth y Cynulliad yn defnyddio holl rym deddfwriaeth a pholisïau cynllunio i sicrhau bod cymunedau gwledig yng Nghymru — yn enwedig cymunedau mwyafrifol Gymraeg — yn datblygu’n gymunedau unedig ac iach.

Atodiad 1b

Pwyllgor Rhanbarth Y Gogledd NWR(2)-02-03(p1)

Dyddiad: Dydd Gwener 3 Hydref 2003
Amser: 10.00am tan 12.30pm
Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli

Cyflwyniad Ysgrifenedig Cymuned i gyfarfod Pwyllgor Rhanbarth Gogledd Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 3 Hydref 2003

Testun : "Tai fforddiadwy a chymunedau cynaliadwy yng Ngogledd Cymru"

Cylch gorchwyl ymchwiliad Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad y Cynulliad : "Ystyried i ba raddau y mae’r polisïau cynllunio cyfredol yn effeithiol wrth gynnal y ddarpariaeth o dai fforddiadwy a chymunedau cynaliadwy yng nghefn gwlad, a gwneud argymhellion ar gyfer datblygu polisi yn y maes hwn"

1. Y Cefndir

Bellach, y mae prisiau tai yng ngwledydd Prydain yn codi bron i 30% y flwyddyn ar gyfartaledd, ac ar gyfradd o bron i 45% y flwyddyn mewn rhai ardaloedd gwledig yng Nghymru.

Yn yr ardaloedd gwledig hyn, nid yw prisiau tai yn adlewyrchiad o anghenion na lefelau incwm y boblogaeth leol, ond yn hytrach o alwadau ar y farchnad o ardaloedd eraill lle mae lefelau incwm, a phrisiau tai, yn uwch, gyda’r canlyniad bod darpar-brynwyr o’r ardaloedd hynny yn gallu talu prisiau sydd y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl leol. Cydnabyddir yn gyffredinol fod hyn yn un o’r ffactorau pwysicaf sy’n arwain at allfudo (naill ai i ardaloedd trefol, neu allan o Gymru’n gyfangwbl) gan deuluoedd ifainc o gefn gwlad.

Ar yr un pryd, y mae pob rheswm dros gredu y bydd dadansoddiadau pellach o ganlyniadau Cyfrifiad 2001 yn dangos bod mwyafrif y mewnfudwyr sy’n cymryd lle’r allfudwyr yn y cymunedau gwledig yn bobl sydd wedi ymddeol neu sydd mewn rhyw fodd arall yn economaidd anweithredol.

2. Cymunedau Cynaliadwy

Diffiniad dogfen Polisi Cynllunio Cymru y Cynulliad o ddatblygu cynaliadwy yw datblygiad sy’n "diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau" (adran 2.1.1).

Fel a nodwyd yn adran 3.4 cyflwyniad Cymuned i Bwyllgor Tai y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2001, "Mae iaith gynhenid unrhyw ardal yn rhan o’r gwead amgylcheddol cain sy’n gwneud pob ardal yn unigryw. Dylai datblygu cynaliadwy anelu at gynnal amgylchedd ieithyddol yn ogystal ag amgylchedd naturiol yr ardal. Yn aml iawn fe fydd yr un ystyriaethau yn berthnasol yn y ddau achos: mae gorddatblygu tai, er enghraifft, yn andwyol i’r amgylchedd ac.i’r iaith Gymraeg" hynny yw, pan fo gorddatblygu yn hybu lefel o fewnfudo sy’n peryglu parhad y Gymraeg fel iaith gymunedol, oherwydd nad yw mwyafrif y mewnfudwyr yn ymgymhathu â’r iaith a’r diwylliant lleol.

Mae gweithrediad marchnad rydd ym maes ailwerthu tai hefyd yn hybu lefelau o fewnfudo sydd yn peryglu safle’r Gymraeg fel iaith gymunedol, am yr un rhesymau.

Dangosodd pob Cyfrifiad yn ystod yr 20fed ganrif, ac yn enwedig ers 1971, ostyngiad serth yn niferoedd y cymunedau lle mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad Cymraeg. Cydnabyddir yn gyffredinol mai cyfuniad o fewnfudo gan bobl ddi-Gymraeg ac allfudo gan bobl Gymraeg sy’n methu â dod o hyd i swyddi addas neu, erbyn heddiw, gartrefi fforddiadwy sydd yn gyfrifol am hyn.

Bellach, y mae gweithrediad marchnad rydd ym maes tai nid yn unig yn peryglu sefyllfa’r Gymraeg mewn cymunedau Cymraeg, ond hefyd yn peryglu gwead cymdeithas yn gyffredinol. Ar hyn o bryd y mae’r argyfwng i’w weld yn fwyaf clir yn Ne-Ddwyrain Lloegr, lle mae amrediad eang o wasanaethau cyhoeddus a phreifat yn cael eu peryglu oherwydd anallu gweithwyr hanfodol yn y gwasanaethau hynny i fforddio prynu cartref yn y rhanbarth.

Fel y gwyddys, cynllun y llywodraeth ganolog ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem hon yw codi 200,000 o dai fforddiadwy ar gyfer teuluoedd sydd ar incwm is. Fodd bynnag, oni bai bod amodau cynllunio’n cael eu gosod ar ail-werthiant y tai hyn, fel bod y prisiau ailwerthu’n cael eu cyfyngu i lefel sydd yn parhau’n fforddiadwy i bobl ar lefelau incwm is, bydd y prisiau ailwerthu’n codi’n gyflym yn ôl pwysau’r farchnad, nes bod y tai hyn, hwythau, allan o gyrraedd yr union math o bobl y crëwyd hwy ar eu cyfer yn y lle cyntaf.

Dim ond mater o amser yw hi cyn i broblemau marchnad lafur cyffelyb i rai De-Ddwyrain Lloegr gyrraedd ardaloedd gwledig ledled Prydain, gan gynnwys rhai Gogledd Cymru. Nid yw cymunedau lle mae gweithrediad y farchnad dai wedi deillio ar gyfran annaturiol o uchel o drigolion oedrannus ac economaidd anweithgar, gan adael cyfran annaturiol o isel o bobl economaidd weithgar i ddarparu’r gwasanaethau y mae’r trigolion hynny’n gynyddol ddibynnol arnynt, yn gynaliadwy yn y tymor hir.

3. Y drefn Gynllunio bresennol

Y mae adran 9.1.2 Polisi Cynllunio Cymru yn datgan fel a ganlyn:

"Dylai awdurdodau cynllunio lleol hyrwyddo amgylcheddau

preswyl cynaliadwy... a gwneud darpariaeth briodol ar gyfer tai fforddiadwy. Dylent roi anogaeth i gymunedau â deiliadaeth gymysg"

Y mae adran 9.2.13 Polisi Cynllunio Cymru yn datgan fel a ganlyn:

"Mae aneddiadau newydd ar safleoedd maes glas yn annhebygol o fod yn briodol yng Nghymru, ac ni ddylid ond eu cynnig lle y byddai datblygiad o’r fath yn cynnig manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol o’u cymharu ag adfywio'r aneddiadau presennol neu eu hehangu fwy fyth."

Y mae adran 9.2.14 Polisi Cynllunio Cymru yn datgan fel a ganlyn:

"Gall safleoedd nad ydynt yn debygol o fod yn angenrheidiol mwyach ar gyfer swyddfeydd neu at ddibenion diwydiannol fod yn lleoliadau priodol ar gyfer tai fforddiadwy (yn ogystal â thai i’r farchnad gyffredinol)."

Y mae adran 9.2.15 Polisi Cynllunio Cymru yn datgan fel a ganlyn:

"Ni ddylid gorfodi cwota unffurf [o dai fforddiadwy] ar ddatblygiadau, heb roi sylw i amodau’r farchnad neu’r safle. Rhaid i bolisïau nodi y bydd yr awdurdod yn ceisio negodi gyda datblygwyr lle y bwriedir cynnwys elfen o dai fforddiadwy mewn datblygiadau arfaethedig."

Y mae adran 9.2.19 Polisi Cynllunio Cymru yn datgan fel a ganlyn:

"Dylai polisïau o’r fath ddatgan yn eglur bod rhyddhau safleoedd bach ar gyfer tai, o fewn pentrefi presennol neu am y ffin â hwy, i ddarparu tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol, na chaent eu neilltuo fel arall yn y CDU, yn eithriad i’r polisïau ar gyfer y ddarpariaeth gyffredinol o dai"

Mae Cymuned yn llwyr gefnogol i’r egwyddor y dylai datblygiadau tai newydd, boed mewn ardaloedd gwledig neu mewn ardaloedd trefol, gynnwys cymysgedd o fathau o ddeiliadaeth (9.1.2), am resymau y byddaf yn ymhelaethu arnynt yn fy nghyflwyniad llafar.

Fodd bynnag, mae effeithiau’r polisïau presennol, a rhai o ddarpariaethau’r ddeddfwriaeth gynllunio, fel a ganlyn:

I bob pwrpas ymarferol, dim ond ar safleoedd 'tir brown’ y mae awdurdod lleol yn debygol o gael caniatáu datblygu tai fforddiadwy (9.2.13, 9.2.14).

Er bod adran 9.2.15 yn annog awdurdodau lleol i "geisio negodi" gyda datblygwyr ynglyn â chynnwys elfen o dai fforddiadwy mewn datblygiad arfaethedig, y mae lle i gredu bod nifer o ddatblygwyr yn ymwrthod â datblygiadau deiliadaeth gymysg, oherwydd ofn y bydd presenoldeb tai fforddiadwy yn gwneud y tai mwy moethus yn llai deniadol i brynwyr, ac yn llai proffidiol o’r herwydd. Y mae arwyddion o duedd i ddatblygwyr geisio dod i drefniannau gydag awdurdodau lleol i ddatblygu tai fforddiadwy ar safleoedd ar wahân.

Effaith amlwg hyn, dros amser, fydd getoeiddio teuluoedd sydd ar lefelau incwm is. Y mae Cymuned yn gwbl wrthwynebus i dueddiad o’r fath, am resymau y byddaf yn ymhelaethu arnynt yn fy nghyflwyniad llafar.

Effaith adran 9.2.19, mae’n debyg, yw’r ffaith i’r Cynulliad wrthod caniatâd i Gyngor Gwynedd (i nodi enghraifft sy’n wybyddus i ni) ddefnyddio lleiniau tir ar gyrion pentrefi ar gyfer datblygu tai fforddiadwy.

Yn ôl a ddeallwn, y mae’n anghyfreithlon i awdurdod wrthod caniatâd i adeiladu tai ar dir sydd wedi ei neilltuo ar gyfer tai yn ei Gynllun Datblygu Unedol, neu i geisio gosod amodau (er enghraifft dan Adran 106 Deddf Cynllunio 1990) ar dai newydd ar dir o’r fath gyda golwg ar gyfyngu ail-werthiant i bobl leol sydd ag angen am dai fforddiadwy. Dim ond ar dir nas bwriadwyd yn wreiddiol ar gyfer datblygu tai y caniateir gwneud hynny.

4. Cynigion Cymuned

i. Dylid sefydlu polisi yng Nghymru o greu marchnad dai gymunedol sydd ar wahân i’r farchnad rydd, trwy greu stoc o dai fforddiadwy sy’n cael ei rheoli, o ran prisiau ac amodau ailwerthu, er budd pobl leol sydd angen tai fforddiadwy.

ii. Dylai’r Cynulliad sefydlu trefn grantiau i awdurdodau lleol ar gyfer prynu tai presennol er mwyn eu tynnu allan o’r farchnad rydd a’u hychwanegu at y stoc dai gymunedol.

iii. Er mwyn datblygu stoc o dai fforddiadwy ym mhob cymuned, dylid llacio rhagdybiaeth Polisi Cynllunio Cymru yn erbyn datblygu tai newydd ar dir glas.

iv. Dylid sefydlu’r egwyddor fod yn rhaid i bob datblygiad tai newydd, mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol fel ei gilydd, fod yn ddatblygiad deiliadaeth gymysg; a dylid diddymu rhagdybiaeth Polisi Cynllunio Cymru yn erbyn pennu cwotâu o dai fforddiadwy sydd i’w cynnwys ym mhob datblygiad tai newydd.

v. Dylid llacio rhagdybiaeth Polisi Cynllunio Cymru yn erbyn rhyddhau safleoedd bychain, oddi mewn i bentrefi neu am y ffin â hwy, ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy.

vi. Dylai’r Cynulliad bwyso ar Lywodraeth San Steffan i ddiwygio’r ddeddfwriaeth Gynllunio fel bod modd gosod amodau ar ddatblygiadau tai newydd ar bob math o safle, gyda’r bwriad o gyfyngu ailwerthiant y tai i bobl leol sydd ag anghenion am dai fforddiadwy.

vii. Dylai’r Cynulliad bwyso ar Lywodraeth San Steffan am ddeddfwriaeth ar gyfer rheoleiddo’r farchnad dai ar draws gwledydd Prydain, yn unol â’r drefn a esbonnir yng nghynigion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfer Deddf Eiddo.

Wyn Hobson

Aelod o Bwyllgor Gwaith Cymuned

Medi 2003

Atodiad 2

Pwyllgor Rhanbarth Y Gogledd NWR(2)-02-03 (p3)

Dyddiad: Dydd Gwener 3 Hydref 2003
Amser: 10.00am tan 12.30pm
Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli

Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Cymru

Tai fforddiadwy a chymunedau cynaliadwy

Crynodeb o bwyntiau allweddol o gyflwyniad y Ffederasiwn i Bwyllgor Rhanbarthol Gogledd Cymru y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Gwener 3 Hydref 2003

Cyflwyniad

Mae Cymdeithasau Tai yn sefydliadau dim-er-elw sy’n cefnogi cymunedau cynaliadwy drwy ddarparu tai fforddiadwy ansawdd uchel a gweithgareddau cefnogaeth ac adfywio cysylltiedig. Mae gan Gymdeithasau Tai enw da am ddatblygu datrysiadau tai blaengar i ateb anghenion pobl Cymru sydd wedi eu hallgau, am ba bynnag reswm, rhag cyfleoedd perchnogaeth-cartref prif ffrwd, gan gynnig cyfuniad cynyddol amrywiol o opsiynau perchnogaeth-cartref cost isel a llety rhent. Caiff holl gartrefi Cymdeithasau Tai eu hadeiladu neu eu hadnewyddu i safonau strwythurol uwch nag sy’n ofynnol gan sectorau tai eraill.

Mae Cymdeithasau Tai yn ategu Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy fenthyciadau sector preifat. Mae ein haelodau yn cyfrannu’n sylweddol at yr economi lleol fel cyflogwyr lleol gyda throsiant ar y cyd yng Nghymru o fwy na £250 miliwn ar wasanaethau tai yn unig, yn ogystal â chyfraniadau economaidd o wasanaethau cefnogaeth, cynlluniau adfywio cymunedol a gweithgareddau eraill.

Gweithgaredd Cymdeithasau Tai

Mae’r cartrefi a ddatblygir ac a reolir gan gymdeithasau tai yn adlewyrchu anghenion amrywiol poblogaeth Cymru ac yn cynnwys tai mawr ar gyfer teuluoedd, fflatiau hunan-gynwysedig ar gyfer pobl sengl, cartrefi cysgodol ar gyfer yr henoed a chartrefi ar gyfer pobl sydd angen cefnogaeth yn y gymuned. Bob blwyddyn mae cymdeithasau, mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, yn mynd ati i ddatblygu mwy o gartrefi i ateb anghenion a dyheadau pobl leol. Yn ôl gweithdrefnau a sefydlwyd, mae awdurdodau lleol fel arfer yn dynodi’r cymunedau ac anghenion hynny lle mae buddsoddiad yn flaenoriaeth ac mae cymdeithasau yn canfod a datblygu safleoedd i ddarparu’r cartrefi hyn.

Yng Ngogledd Cymru yn 2003/3 derbyniodd cymdeithasau £8.9 miliwn mewn grant gan y Cynulliad, 58% o gostau cynlluniau cymeradwy cymdeithasau. Gydag ychwanegiad benthyciadau sector preifat i gymdeithasau, golygai hyn gyfanswm gwariant o £15.3 miliwn ar ddatblygu cartrefi newydd ar draws y rhanbarth.

Mae 9 cymdeithas tai gyda chartrefi yn y Gogledd: Cymdeithas Abbeyfield, Tai Clwyd, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Cymdeithas Tai Eryri, Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf, Cymdeithas Tai Pwylaidd, Cymdeithas Tai Hafan a Chymdeithas Tai Wales & West. Gyda’i gilydd maent yn berchen ar ac yn rheoli dros 9,000 o gartrefi ar draws y rhanbarth gan gynnig amrediad eang o wasanaethau tai cyffredinol ac arbenigol.

Cyfyngiadau

Mae sawl ffactor yn cyfyngu ar ddatblygiad cymdeithasau tai, yn cynnwys:

  • Lefelau isel o gymhorthdal cyhoeddus (nid yw lefelau Grant Tai Cymdeithasol yng Nghymru ond yn gorchuddio 58% o gostau datblygu, o gymharu gyda 68% yn Lloegr a 70% yn yr Alban, sydd yn galw am lefelau uwch o gyllid preifat yng Nghymru na mannau eraill), lefelau Canllawiau Cost Derbyniol afrealistig (sy’n rheoli faint y gall cymdeithasau tai ei wario ar bob cynllun newydd a ddatblygant) a phrisiau tir uchel. Ni fu newid yn y gyllideb Grant Tai Cymdeithasol ers creu’r Cynulliad ac felly mae adnoddau ar gyfer cartrefi newydd cymdeithasau wedi gostwng mewn termau gwirioneddol ers 1999. Dim ond 1,465 o gartrefi newydd a gwblhawyd gan gymdeithasau yn 2002. Mae hyn yn cymharu gyda 2,629 yn 1992.
  • Fawr ddim ymgyfraniad wrth ddatblygu strategaethau cynllunio.
  • Defnydd aneffeithiol o fudd cynllunio a dyfeisiau eraill i sicrhau tai fforddiadwy h.y. safleoedd eithriad.
  • Prinder tir datblygu addas ar gyfer tai fforddiadwy oherwydd cyfyngiadau amgylcheddol, prisiau marchnad uchel, prisiau tir sbeciannol, biwrocratiaeth caniatâd cynllunio a gohiriadau cysylltiedig.
  • Hawl i Brynu/Hawl i Gaffael a gafodd effaith ddifrifol ar argaeledd tai ar rent fforddiadwy yng Nghymru. Ni chaiff dychweliadau ar eiddo a werthir ar gymhorthdal eu cyfateb gan grant ac incwm buddsoddi arall, gan olygu na fedrir sicrhau stoc tai fforddiadwy newydd i gymryd i le. Rhwng 1980 a 2001 gwerthwyd bron 117,000 o gartrefi yng Nghymru dan Hawl i Brynu. Yn y degawd diwethaf, rhwng 1990 a 2001, gwerthwyd 38,811 cartref tra mai dim ond 26,156 o gartrefi a adeiladwyd gan gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol - colled net o dros 12,000 o gartrefi, llawer mewn ardaloedd gwledig a dinasoedd lle bu’r cynnydd mwyaf mewn prisiau tir ac eiddo mewn blynyddoedd diweddar.

Cynigion gweithredu

Mae gan y Cynulliad bwerau a dylanwad sylweddol i effeithio ar ddatblygiad tai fforddiadwy a gweithgareddau adfywio cysylltiedig yng Nghymru. Nid yw’r rhestr ddilynol o bwyntiau gweithredu yn gynhwysfawr mewn unrhyw fodd. Fodd bynnag, credwn y byddai gan y cynigion dilynol effaith sylweddol a chynaliadwy ar raglenni cyfredol a dyfodol ledled Cymru:

  • Adolygiad o’r Grant Tai Cenedlaethol o ran lefel, cylchoedd rhaglen a gweithdrefnau rheolaeth i ddatblygu strategaeth buddsoddiad tai fforddiadwy a realistig, gan adlewyrchu amrywiadau mewn costau tir a llafur ledled Cymru, yn arbennig mewn Parciau Cenedlaethol ac ardaloedd eraill y mae argaeledd tir a chyfyngiadau cynllunio yn effeithio arnynt. Ystyriaeth mesurau i lesteirio bancio tir sbeciannol, yn cynnwys isafswm cyfnodau ar gyfer ailwerthu tir.
  • Cynnydd yn y cyllid ar gyfer y cynllun Cymorth Prynu. Fodd bynnag, er y byddem yn cefnogi mwy o gyllid ar gyfer cynlluniau Cymorth Prynu drwy ddyraniadau cyllideb y Grant Tai Cymdeithasol, ni ddylai hyn fod ar draul buddsoddiad mewn cartrefi ar rent. Mae llawer o bobl yn methu cyrchu cynlluniau perchnogaeth cost isel ac mae angen parhaol i fuddsoddi mewn darparu cartrefi newydd ar rent. Mae’r Cynulliad wrthi’n ystyried adolygiad dechreuol o’r cynllun Cymorth Prynu - byddwn wrth gwrs yn ceisio cyfranogiad llawn gan ein haelodau i sicrhau fod adolygiad llawn o’r fath wedi ei seilio ar wybodaeth lawn.
  • Mwy o anogaeth gan y Cynulliad i ddarbwyllo awdurdodau lleol i ddefnyddio’r pwerau a ddatganolwyd iddynt i gynllunio ar gyfer tai fforddiadwy, yn cynnwys defnydd budd cynllunio ac amodau tai, cytundeban Adran 106 a safleoedd eithriad.
  • Cwotâu tai fforddiadwy ar gyfer pob datblygiad tai newydd, yn cynnwys tai ar rent a rhan-berchnogaeth (e.e. Cynllun Cymorth Prynu) os na all y datblygwyr ddangos nad oes angen tai o’r fath
  • Gofynion y Cynulliad ar awdurdodau lleol i arddangos ymgyfraniad effeithlon a gweithredol Cymdeithasau Tai a sefydliadau tenant mewn strategaethau gofodol, datblygu economaidd, adfywio cymunedol a thai lleol.
  • Gostyngiad sylweddol yn y disgownt sydd ar gael dan yr Hawl i Brynu/Hawl i Gaffael ac yn y tymor hir werthusiad o’i effaith ar gyflenwad o dai fforddiadwy ar gyfer pobl leol
  • Lobïo gan y Cynulliad i gael eithriad o Dreth Enillion Cyfalaf ar gyfer perchnogion tir sy’n darparu tir ar gyfer tai fforddiadwy
  • Cyfyngiadau ar ddynodiad ardaloedd datblygu tai moethus ac annog cymunedau cymysg ym mhob ardal i gynnwys tai fforddiadwy, datblygiadau llai a cartrefi cyntaf.
  • Dileu TAW ar adnewyddu tai gan gymdeithasau. Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol wedi eu heithrio rhag TAW ar adfywio. Fodd bynnag, mewn penderfyniad dadleuol, penderfynodd Cyllid y Wlad nad yw cyrff trosglwyddo stoc anelusennol wedi eu heithrio rhag taliadau TAW ar atgyweiriadau. Bydd y penderfyniad hwn yn golygu cynnydd sylweddol yn y gost o wella cartrefi rhent ledled Cymru. Byddem yn annog y Cynulliad i alw’r Gweinidog perthnasol i gyfrif a cheisio dileu TAW ar adnewyddu pob tai cymdeithasol.
  • Asesiadau anghenion tai mwy helaeth yn cynnwys y gymuned gyfan. Mae’r Ffederasiwn wedi sicrhau cyllid i gefnogi’r Galluogydd Tai Gwledig cyntaf yng Nghymru eleni. Ynghyd â chymdeithasau, awdurdodau lleol, y Cynulliad a nifer o bartneriaid eraill mae’r cynllun peilot yn Ne Powys a Gogledd Sir Fynwy yn anelu i:
    • cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy
    • dynodi a chodi ymwybyddiaeth o anghenion tai gwledig drwy gefnogi a darparu cyngor i gymunedau gwledig, cymdeithasau tai, awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill
    • gydag arolygon anghenion tai ac ymarferiadau mapio i ddynodi ffeithiau tai allweddol
    • dynodi safleoedd addas ar gyfer darpariaeth tai fforddiadwy
    • darparu cyngor i awdurdodau tai a chynllunio ac asiantaethau eraill i helpu i ddatblygu strategaethau a pholisïau mwy cydlynus
    • adeiladu gwell proffiliau o gymunedau gwledig drwy gasglu data a chymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil
    • sicrhau y caiff safleoedd eithriadau gwledig eu defnyddio’n llwyddiannus.

Yn dilyn gwerthusiad cywir, ceisiwn gydnabyddiaeth o’r model a chefnogaeth barhaol gan y Cynulliad i sefydlu rhwydwaith o alluogwyr tai gwledig ledled Cymru.

Y Ffederasiwn

Sefydlwyd Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Cymru yn 1989 ac mae’n bodoli i alluogi cymdeithasau tai i weithio’n effeithlon a ffynnu yng Nghymru drwy:

  • hyrwyddo cymdeithasau tai mewn modd cadarnhaol fel darparwyr ethegol anstatudol, dim-er-elw o dai fforddiadwy, cefnogaeth a gwasanaethau adfywio cymunedol
  • ceisio datblygu fframwaith wleidyddol, rheoleiddiol ac ariannol sy’n cefnogi gweithgareddau cymdeithasau tai
  • datblygu, cefnogi a lledaenu arfer da
  • annog a galluogi aelodau i ddarparu cartrefi hygyrch mewn cymunedau cynaliadwy ledled Cymru
  • gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff allweddol yng Nghymru

Yr ydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi:

  • egwyddorion perchnogaeth aelodau o agenda’r Ffederasiwn
  • partneriaeth gyda thenantiaid a’u sefydliadau
  • egwyddorion amlrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb ein gwaith
  • ein cyfrifoldebau fel sefydliad Cymru-gyfan

I gael manylion pellach ar weithgareddau cymdeithasau tai yng Nghymru, cysyllter â Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Cymru ar 02920 303150. Mae’r cysylltiadau allweddol yn cynnwys:

Howard John, Cyfarwyddydd Llinell uniongyrchol 02920 303168

David Hedges, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Llinell uniongyrchol 02920 303165

Neu gweler ein gwefan yn www.welshhousing.org.uk

Atodiad 3

Pwyllgor Rhanbarth Y Gogledd NWR(2)-02-03 (p2)

Dyddiad: Dydd Gwener 3 Hydref 2003
Amser: 10.00am tan 12.30pm
Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli

Y Sefydliad Tai Siartredig Cymru

Papur cefndir

Tai Fforddiadwy a Chynaladwyedd yng Nghefn Gwlad Cymru

1.0 Cefndir

1.1 Mae’r Sefydliad Tai Siartredig (CIH) Cymru yn ddiolchgar am y cyfle i gyfleu ei safbwynt i’r Pwyllgor ar y mater hynod bwysig a chymhleth hwn. Y CIH yw’r unig fudiad sy’n cynrychioli’r rheiny sy’n gweithio yn y sector tai a’i ddiben yw cynyddu gymaint ag a ellir y cyfraniad y mae tai yn ei wneud i les cymunedau.

1.2 Mae gan y CIH dros 17,000 o aelodau unigol yn gweithio i awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, y Gwasanaeth Rhent, sefydliadau addysgol a’r sector preifat. Mae dros 700 o’r aelodau hyn yn gweithio yng Nghymru ac mae’r papur hwn yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd ganddynt hwy, a chan gyd-fudiadau yn ogystal â mewnbwn gan dîm polisïau’r DU.

1.3 Hoffai CIH Cymru gydnabod y cyfraniad a wnaed gan y gweithwyr canlynol yn y sector tai wrth baratoi’r adroddiad hwn:

Gwynne Jones - Cymdeithas Tai Clwyd

David Humphreys - Cyngor Gwynedd

David Thomlinson - Cyngor Sir Powys

2.0 Cyflwyniad

2.1 Mae nifer o ffactorau sydd, ar y cyd, yn ei gwneud yn fwyfwy anodd sicrhau cyflenwad digonol o dai fforddiadwy i’w rhentu a’u prynu mewn sawl rhan o gefn gwlad Cymru. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod pob anheddiad yn wahanol - tra gall cymudo fod yn ffactor pwysig i’r ardaloedd hynny sy’n agos at yr M4 a’r A55 er enghraifft, gall patrymau ymddeol roi mwy o bwysau ar y cyflenwad tai mewn ardaloedd arfordirol deniadol. Felly ni fydd un asesiad neu un ymateb yn gweddu i bob achos ac er mwyn ymateb yn effeithiol mae’n rhaid ymgymryd â dadansoddiad o’r pwysau ar lefel leol iawn a bydd angen ystod o fesurau i ddiwallu anghenion penodol pob cymuned.

2.2 Amcana’r papur hwn fynd i’r afael â rhai materion sylfaenol sy’n gysylltiedig â thai fforddiadwy a chynaliadwy yn yr adrannau canlynol:

Adran 3 sy’n rhoi Golwg Gyffredinol ar y Materion Allweddol

Adran 4 sy’n ystyried rôl tai wrth Greu Cymunedau Cytbwys a Chynaliadwy

Adran 5 sy’n argymell rhai Meysydd Gweithredu i sicrhau digon o dai fforddiadwy a chynaliadwy yn y dyfodol.

3.0 Golwg Gyffredinol ar y Materion Allweddol

3.1 Mae nifer o ffactorau’n effeithio ar gyflenwad tai fforddiadwy yng nghefn gwlad Cymru. Gellir eu dosbarthu fel a ganlyn:

3.2 Materion demograffig megis:

  • Mewnfudiad, yn enwedig cymudwyr a phobl sy’n symud i ardaloedd gwledig ar ôl ymddeol;
  • allfudo, yn enwedig pobl ifanc; a
  • newidiadau yn y boblogaeth sy’n rhoi’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymraeg dan fygythiad mewn rhai aneddiadau.

3.3 Materion yn ymwneud â thai gan gynnwys:

  • lefelau uchel o ran gwerthiannau Hawl i Brynu (RTB);
  • dim llawer o datblygiad Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL);
  • cyflenwad tai gwael, yn enwedig tai fforddiadwy a thai cymdeithasol ar rent;
  • prisiau tai yn codi’n gyflym;
  • y gwarth sy’n gysylltiedig â thai cymdeithasol; a
  • gwrthwynebiad mewn rhai aneddiadau i ddatblygiad pellach tai cymdeithasol.

3.4 Materion yn ymwneud â Chynllunio a Thir gan gynnwys:

  • diffyg safleoedd addas ar gyfer eu datblygu; a
  • phrisiau uchel ar dir.

3.5 Materion economaidd megis:

  • mae rhai aneddiadau’n dirywio ac, yn groes i’r pwysau cyffredinol sydd ar y diwydiant tai, gall tai cymdeithasol fod yn anodd i’w gosod;
  • anghydbwysedd rhwng economïau lleol a chanddynt incwm isel a gwerth tai sy’n gymharol uchel; a
  • chostau datblygu uchel yn sgîl gallu cynhyrchu isel y diwydiant adeiladu.

4.0 Creu Cymunedau Cytbwys a Chynaliadwy

4.1 Mae sicrhau cyflenwad digonol o dai fforddiadwy i’w rhentu yn allweddol i greu cymunedau cynaliadwy yng nghefn gwlad a hynny am nifer o resymau:

  • mae cyflogau economi cefn gwlad yn aml yn annigonol i dalu am forgais;
  • mae cyflogaeth yng nghefn gwlad yn aml yn dymhorol neu dros dro;
  • ni all aelwydydd incwm-isel ac aelwydydd sy’n dibynnu ar fudd-daliadau gael na thalu am forgais; ac
  • nid all y sector rhentu preifat lanw bylchau yn y ddarpariaeth. Mae safonau anaddasrwydd yn uwch yng nghefn gwlad Cymru ym mhob categori deiliadaeth gyda 23.2% o’r sector rhentu preifat wedi’u cael yn anaddas gan Arolwg o Gyflwr Tai 1998.

4.2 Mae’n amlwg felly bod gan dai cymdeithasol ar rent rôl allweddol i’w chwarae wrth ddiwallu anghenion cymunedau yng nghefn gwlad ac o’r herwydd mae hefyd yn hanfodol i sicrhau cynaladwyedd. Mae allfudo ymhlith pobl ifanc yn nodwedd ar nifer o gymunedau yng nghefn gwlad. Yn aml bydd pobl ifanc yn symud ymaith am resymau sy’n ymwneud â ffordd o fyw, ond pan fydd newidiadau cylchred bywyd yn digwydd, byddai teuluoedd ifanc yn aml yn hoffi dychwelyd i’w pentref brodorol pe gallent gael swyddi a allai dalu am gartref. Gyda phrisiau uchel a diffyg tai ac ansawdd isel yn y sector rhentu preifat, a chyda pherchentyaeth yn ddewis na ellir ei ystyried o gwbl mewn ardaloedd y mae galw uchel ynddynt, mae hyn yn mynd yn fwyfwy anodd i’w wneud.

4.3 Mae’n hawdd i gymunedau ddod yn anghytbwys gyda niferoedd anghymesur o bobl hyn yn yr un lle. Daw hyn â goblygiadau sylweddol yn ei sgîl o safbwynt cynnal gwasanaethau a mwynderau lleol megis siopau a swyddfeydd post, ysgolion a chludiant cyhoeddus, a gall hefyd roi pwysau ar ddarpariaeth iechyd leol. Felly, trwy sicrhau cyflenwad tai fforddiadwy i’w rhentu, gellir rhoi cymorth i gadw cymunedau y mae ffactorau eraill yn pwyso arnynt yn gytbwys a chynaliadwy.

4.4 Yr Hawl i Brynu (RTB). Mae nifer o dai yng nghefn gwlad, yn enwedig mewn ardaloedd poblogaidd a deniadol, wedi cael eu tynnu o’r farchnad tai fforddiadwy i’w rhentu drwy’r cynllun RTB. Unwaith y cânt eu gwerthu, mae’r adeiladau hyn allan o gyrraedd y rheiny sy’n derbyn cyflogau lleol ac sy’n dymuno prynu ty ar y farchnad agored. Er enghraifft

  • Yn ôl cyfrifon Cyngor Sir Bro Morgannwg, os bydd nifer y tai a gollir

drwy RTB yn parhau yn ôl y gyfradd bresennol, ni fydd tai cyngor ar ôl o gwbl yn yr awdurdod o fewn deng mlynedd.

  • Mae Cyngor Sir Gwynedd wedi colli 120 o dai y flwyddyn ar gyfartaledd er 1996 oherwydd gwerthiannau RTB gyda chynnydd sylweddol yn hyn o beth yn ddiweddar (mae gwerthiannau chwarterol ar gyfartaledd wedi cynyddu o 33 ym mis Rhagfyr 2000 i 60 ym mis Rhagfyr 2002). Mae RTB wedi gweddnewid cydbwysedd cymunedau ac wedi tynnu rhai ystadau o’r sector tai cymdeithasol yn gyfan gwbl. Gyda phrisiau tai’n amrywio o £70 mil i dros £100 mil, maent nid yn unig wedi cael eu tynnu o’r sector ond maent yn mynd yn fwyfwy anfforddiadwy i bobl leol.
  • Gwerthodd Cyngor Sir Powys 179 eiddo drwy RTB yn 2002. Roedd cyfanswm y gwerthiannau rhwng mis Ebrill a mis Awst 2003 yn 126 gan arwain at werthiant blynyddol amcanol o dros 300 am y flwyddyn bresennol.

4.5 Grant Tai Cymdeithasol (SHG).Mae tystiolaeth gynyddol i awgrymu bod lefel y grant tai cymdeithasol yn annigonol er mwyn ateb y galw cynyddol. Er y gallai hyn ymddangos yn anghyson o ystyried y tanwariant yn y gyllideb SHG, golyga ffactorau megis anawsterau wrth gael tir am gost ddichonol a sicrhau caniatâd cynllunio ei bod fwy neu lai yn amhosib gwario’r arian a ddyrannwyd. Pan gaiff y rhwystrau hyn eu goresgyn, mae tystiolaeth o ardaloedd megis Powys a Gwynedd yn awgrymu, yn sgîl y galw cynyddol am dai arbenigol a thai â chymorth, nad oes ond ychydig yn weddill i ddarparu llety fforddiadwy i’w rhentu er mwyn diwallu anghenion cyffredinol.

4.6 Mae hyn wedi golygu er enghraifft:

  • Yng Ngwynedd, dyrannwyd £2.5 miliwn SHG eleni ond nid yw’r awdurdod ond wedi gallu gwario £1.3 miliwn ac fe neilltuwyd y rhan fwyaf o hwn ar gyfer y cynllun Homebuy. Serch hynny, mae anawsterau megis dod o hyd i dai o fewn y terfynau costau ac achosion pan fo darpar brynwyr yn cael eu dal mewn cadwynau prynu tai yn cyfyngu ar yr hyn y gall y cynllun ei gyflawni. Er 2000 mae cyfartaledd y prisiau am dai a brynir drwy’r cynllun Homebuy wedi codi o £45,496 i £57,163 yn 2002-2003. Mae’r cyfartaledd o safbwynt lefel y cymorth hefyd wedi codi o £20,923 yn 2002-2003 i ffigwr amcanol o £24,533 yn 2003-2004. Ym marn Cymdeithas Tai Eryri, sy’n gweinyddu’r cynllun Homebuy yng Ngwynedd, os bydd prisiau tai yn parhau i godi fel ag y maent ar hyn o bryd mewn rhai ardaloedd yng Ngwynedd, hyd yn oed gyda chymorth o 50% gyda phrisiau prynu mae lefelau cyflogau yn annigonol o fewn yr ardal i allu talu am y morgais sy’n angenrheidiol.
  • Ym Mhowys, cafodd rhan helaeth o’r gyllideb SHG yn 2002 ei defnyddio ar gyfer darparu tai â chymorth. Mae’n amlwg, tra bod cyflenwad tai cymdeithasol ar rent yn cael ei leihau drwy RTB ac o ystyried ffactorau eraill megis y pris uchel sydd ar dir, bod SHG yn methu â gwneud iawn.
  • Mae Ynys Môn wedi colli 686 uned o’i stoc tai cymdeithasol ar rent drwy RTB er mis Ebrill 1997. O’i gyferbynnu, er 1996, nid yw SHG wedi darparu ond 133 o gartrefi i’w rhentu a 80 drwy Homebuy.

4.7 Y Gwarth sy’n gysylltiedig â Thai Cymdeithasol. Mae gwarth yn gysylltiedig â thai cymdeithasol ar rent ac o ganlyniad mae ar gymunedau lleol ofn cynyddu’r ddarpariaeth. Tra bod mynd ar drywydd perchentyaeth i bawb yn cael y dylanwad mwyaf ar bolisïau a barn y cyhoedd, bydd darparu tai fforddiadwy ar rent yn parhau i ddioddef gwrthwynebiad, a bydd y cyfle i dai cymdeithasol ar rent gyfrannu at greu cymunedau sefydlog, cynaliadwy a chytbwys yn mynd i golli.

4.8 Costau Datblygu Mae’r rhain yn effeithio ar dai i’w rhentu a’u prynu fel ei gilydd ond mae’n arbennig o anodd brwydro yn eu herbyn wrth geisio darparu llety fforddiadwy ar rent. Er enghraifft, ym Mangor rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddiweddar ar gyfer deg ty, ond roedd cost uchel y tir ynghyd â chostau gweithwyr uchel oherwydd bod y galw yn y sector adeiladu’n llawer mwy na’r cyflenwad, yn golygu y byddai angen gwerthu’r tai am £300,000 yr un i wneud y prosiect yn un dichonadwy. O ganlyniad mae cyfran gynyddol o’r adeiladu yr ymgymerir ag ef mewn ardaloedd yng nghefn gwlad wedi’i fwriadu ar gyfer y rhan o’r farchnad sy’n eiddo i bobol mewn swyddi gweithredol, sydd yn ei dro’n tanseilio’r ymgais i ddatblygu cymunedau cytbwys a chynaliadwy.

5.0 Meysydd Gweithredu

5.1 Argymhellion Cyffredinol. Cyn mynd i’r afael â materion penodol, hoffai CIH Cymru wneud yr argymhellion canlynol:

  • Fe ddylai holl ddeddfwriaeth a chanllawiau’r Cynulliad fod yn destun Archwiliad o Safbwynt Cefn Gwlad i weld a oes materion penodol yn ymwneud ag ardaloedd yng nghefn gwlad y mae angen eu hamlygu.
  • Fe ddylai Cymru ystyried creu swydd Galluogwr Tai yng Nghefn Gwlad ym mhob awdurdod lleol yng nghefn gwlad yn seiliedig ar gynlluniau tebyg yn Lloegr a chan weithredu yn unol â’r gwersi a ddysgwyd o’r arbrawf ym Mhowys.
  • Fe ddylai’r Cynulliad ystyried sefydlu corff tebyg i’r Asiantaeth Cefn Gwlad (Countryside Agency) yn Lloegr sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau bod tai fforddiadwy yn chwarae rôl lawn i gynnal cymunedau yng nghefn gwlad.

5.2 Hawl i Brynu. Mae dadl gref o blaid cyfyngiadau pellach ar RTB mewn

ardaloedd y mae galw mawr am lety ar rent ynddynt, er enghraifft drwy leihau’r gostyngiad sydd ar gael a chaniatáu cynghorau i fuddsoddi derbyniadau mewn cartrefi newydd i’w gosod ar rent a chynyddu lefelau SHG.

5.3 Grant Tai Cymdeithasol. Mae’r Cynulliad wedi bod yn ceisio mynd i’r afael â phroblemau dyrannu SHG am gryn amser ac mae ymchwil i ganfod y ffordd orau o ddyrannu arian yn debygol o ddechrau yn ddiweddarach eleni. Beth bynnag fydd y canlyniad, mae’n bwysig bod y dyraniad SHG yn seiliedig ar asesiad trylwyr o anghenion tai ar lefel leol.

5.4 Hyrwyddo Tai Cymdeithasol ar Rent. Mae angen i’r Cynulliad a’i gyd-fudiadau wneud mwy i frwydro yn erbyn y gwarth sy’n gysylltiedig â thai cymdeithasol ar rent a’r diwylliant o fod ag obsesiwn am berchentyaeth. Mae angen argyhoeddi cymunedau lleol o’r cyfraniad allweddol y gall tai fforddiadwy i’w rhentu ei wneud i gynaladwyedd eu hardal. Er enghraifft, defnyddiwyd pwerau cynllunio yn Ne Swydd Amwythig i ddarparu tai fforddiadwy ac mae’r awdurdod lleol wedi gweithredu nifer o fesurau i sicrhau y caiff tir ei ddarparu am gost fforddiadwy drwy ddynodi safleoedd posib naill ai ar gyfer datblygiad fforddiadwy neu ar gyfer datblygiad yn ôl pris y farchnad. Yn benodol mae hyn wedi golygu er enghraifft, mewn lleoedd y mae galw uchel ynddynt, bod yn rhaid darparu dau eiddo fforddiadwy am bob dau i bedwar eiddo a godir ac y bwriedir eu gwerthu am bris y farchnad.

5.5 Galluogwr Tai yng Nghefn Gwlad. Fe ddylai’r Cynulliad ystyried creu swydd Galluogwr Tai yng Nghefn Gwlad (RHE) ar gyfer pob awdurdod lleol yng nghefn gwlad a hynny’n seiliedig ar gynlluniau tebyg yn Lloegr a chan weithredu yn unol â’r gwersi a ddysgwyd o’r arbrawf ym Mhowys. Bydd RHE yn gweithredu’n annibynnol, gan fabwysiadu rôl 'cyfryngwr gonest rhwng cymunedau lleol, y diwydiant tai ac awdurdodau cynllunio a mudiadau tai er mwyn:

  • adnabod anghenion tai
  • canfod safleoedd
  • dewis a darparu cymorth ar gyfer dulliau eraill
  • trefnu i ddatblygu safleoedd

5.6 Mae profiadau yn Lloegr yn awgrymu bod mater annibyniaeth RHE yn hanfodol i’w llwyddiant. Mae’n hanfodol bwysig na chaniateir i flaenoriaethau mewnol awdurdodau lleol neu gymdeithasau tai fod yn ddylanwad pennaf. Byddai creu RHE cwbl annibynnol o gymorth er mwyn lliniaru gofidiau trigolion lleol bod landlordiaid yn ceisio cwrdd â’u hamcanion eu hunain yn hytrach na rhai’r gymuned. Goresgyn Rhwystrau. Mae mesurau penodol a fyddai o gymorth er mwyn goresgyn rhwystrau i ddarparu tai fforddiadwy a chynaliadwy yng nghefn gwlad yn cynnwys:

  • Cysylltu cyflenwad tai fforddiadwy â hyfforddiant a chreu swyddi yn y diwydiant adeiladu ac mewn meysydd cysylltiedig. Awgrymwn fod y Cynulliad yn hyrwyddo ac yn cefnogi cynlluniau o’r fath.
  • Fe ddylai’r Cynulliad ystyried cefnogi cynlluniau sy’n defnyddio pwerau cynllunio

i sicrhau bod tir yn cael ei ddarparu am gost fforddiadwy drwy ddynodi safleoedd na ellir eu datblygu ond ar gyfer tai fforddiadwy.

  • Fe ddylai’r Cynulliad annog awdurdodau lleol i sicrhau bod tir y maent yn berchen arno ar gael am lai na phris llawn y farchnad, efallai drwy roi iawndal.
  • Gallai cynlluniau hunan-adeiladu drwy Homebuy ddarparu cymorth i rai aelwydydd, ond mae angen gwneud y canllawiau presennol yn fwy hyblyg.
  • Fe ddylai’r Cynulliad, drwy ei Strategaeth Tai Gwag, sydd ar fin cael ei chyhoeddi, annog pobl i ailddefnyddio adeiladau gwag a segur er mwyn cynyddu’r cyflenwad tai fforddiadwy yng nghefn gwlad.