Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwyllgor Rhanbarth Y Gogledd (Gorffennaff 2003 - Mawrth 2005)

NWR(2)-03 (r 3)

Trydydd adroddiad: Yr Adolygiad o Gynllun Datblygu Cynaliadwy’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyflwyniad

1.1 Un o bedwar pwyllgor rhanbarth y Cynulliad yw Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd. Mae’n cynnwys Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Ynys Môn, Wrecsam a’r rhan o Wynedd sy’n cynnwys hen ddosbarthau Arfon a Dwyfor.

1.2 Rôl y pwyllgorau rhanbarth, fel y’i diffinnir yn Rheol Sefydlog 10.2, yw cynghori’r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch materion sy’n effeithio ar y rhanbarthau, effaith polisïau’r Cynulliad yn y rhanbarthau hynny a gwaith y cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau.

1.3 Yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd 2003 gofynnodd y Pwyllgor farn y cyhoedd yn y Gogledd ar Dechrau Byw’n Wahanol, yr Adolygiad o Gynllun Datblygu Cynaliadwy’r Cynulliad. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r pwyntiau a godwyd.

Yr Adolygiad o’r Cynllun Datblygu Cynaliadwy

1.4 Mae’n ddyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 1998 i hyrwyddo datblygu cynaliadwy a pharatoi Cynllun yn dweud sut y bydd yn cyflawni’r ddyletswydd honno. Cyhoeddodd y Cynulliad ei Gynllun Datblygu Cynaliadwy Dysgu Byw’n Wahanol ym mis Tachwedd 2000, ac mae bellach yn ymgynghori ar ffyrdd o ddiwygio a datblygu’r cynllun.

1.5 Roedd Gweinidog yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Carwyn Jones AC, sy’n arwain materion yn ymwneud â datblygu cynaliadwy ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn y cyfarfod i gyflwyno’r adolygiad o’r Cynllun ac ateb cwestiynau’r gynulleidfa.

1.6 Dywedodd y Gweinidog bod y byd bellach yn ystyried bod Cymru ar flaen y gad o ran datblygu cynaliadwy, a bod rhaid canolbwyntio bellach ar wireddu’r cysyniad. Byddai hynny’n digwydd drwy sicrhau bod datblygu cynaliadwy’n rhan o brif ffrwd gwaith y Cynulliad, a chymell eraill i ddilyn yr esiampl honno.

Sylwadau’r cyhoedd

1.7 Dyma a ddywedodd aelodau’r cyhoedd:

  • Pwysleisiodd Geraint George o Brifysgol Bangor bod angen rhoi datblygu cynaliadwy ar waith, e.e. drwy brynu cynnyrch lleol ar gyfer prydau bwyd mewn ysgolion, yn unol â’r hyn sy’n digwydd mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Dywedodd Mr Owen, Cyfeillion y Ddaear Sir y Fflint, fod rheolau caffael Ewrop yn cyfyngu ar fasnachu teg. Dywedodd y Gweinidog fod Awdurdod Datblygu Cymru’n helpu busnesau lleol i ennill contractau awdurdodau lleol, e.e. drwy ffurfio cwmnïau cydweithredol.
  • Gofynnodd Eifion Lloyd Jones i ba raddau yr oedd y Gymraeg a diwylliant Cymru’n cael eu hystyried yn rhan o ddatblygu cynaliadwy. Cydnabu’r Gweinidog bod cynaliadwyedd yr iaith yn gysylltiedig â chynaliadwyedd cymunedau, ac roedd yn disgwyl yn eiddgar am adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad ar dai fforddiadwy a chymunedau cynaliadwy;
  • Awgrymodd Owen Prosser y byddai’r rheilffyrdd yn ddull cludiant mwy cynaliadwy. Dywedodd y Gweinidog y byddai’n cyfleu awgrym Mr Prosser i Andrew Davies AC, Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth y Cynulliad;
  • Roedd Arnold Pennant o’r farn y dylai’r Cynllun Datblygu Cynaliadwy fynd i’r afael ag anawsterau’r economi wledig. Dywedodd y Gweinidog fod Ffermio i’r Dyfodol yn rhoi cymorth i’r diwydiant ffermio, ac y byddai adolygu’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn ei gwneud yn haws cynhyrchu’n fwy cynaliadwy;
  • Roedd y Cynghorydd Armstrong-Braun yn amau diffiniad Brundtland o ddatblygu cynaliadwy, a fabwysiadwyd gan y Cynulliad, ac roedd o’r farn ei bod yn bwysig mesur effaith datblygu economaidd ar yr ecosystem. Cytunodd y Gweinidog fod angen rhoi mwy o sylw i ddatblygu economaidd cynaliadwy;
  • Roedd y Cynghorydd Bob Barton o Gyngor Cymuned Llanarmon-yn-Ial o’r farn bod angen cymorth ariannol ar gymunedau lleol i roi datblygu cynaliadwy ar waith. Cyfeiriodd y Gweinidog at y £22 miliwn a roddwyd i awdurdodau lleol Cymru i gyrraedd targedau rheoli gwastraff yn gynaliadwy;
  • Gofynnodd Neil Crumpton, Aelod o’r Fforwm Datblygu Cynaliadwy, a oes angen pwerau ychwanegol ar y Cynulliad er mwyn gwireddu datblygu cynaliadwy. Dywedodd y Gweinidog fod gan y Cynulliad ddigon o bwerau yn y rhan fwyaf o feysydd, ond y byddai’n fuddiol pe gallai ddatblygu polisi mwy cyfannol yn y meysydd hynny nad oedd yr holl bwerau wedi’u datganoli ar eu cyfer, e.e. ynni;
  • Croesawodd Steve Saunders, West Coast Energy, bwyslais y Cynllun ar her newid yn yr hinsawdd, ond roedd am weld targedau cryfach a dangosyddion cliriach, e.e. ar gyfer ynni adnewyddadwy. Dywedodd y Gweinidog nad drwy’r Cynllun y dylid gosod targedau, ond bod yr adolygiad o Nodyn Cyngor Technegol 8 (Ynni Adnewyddadwy) yn mynd i’r afael â’r materion hynny;
  • Cyfeiriodd David Williams, Undeb Credyd ardal Llandudno, at yr anawsterau’n ymwneud â chael caniatâd cynllunio ar gyfer prosiectau datblygu cynaliadwy lleol. Dywedodd y Gweinidog mai mater i’r awdurdodau lleol oedd ceisiadau cynllunio, yn unol â’r polisi cenedlaethol ar gynllunio, oni fyddai’r cais yn cael ei alw i mewn.

Datblygu cynaliadwy ar waith

1.8 Clywodd y Pwyllgor sylwadau gan dri sefydliad yn y Gogledd sy’n arfer tair elfen hanfodol datblygu cynaliadwy’n lleol - y cymdeithasol, yr economaidd a’r amgylcheddol. Mae copïau o’u cyflwyniadau yn Atodiadau 1-3.

  • Antur Waunfawr - cwmni arloesol sy’n cynnig hyfforddiant a gwaith i bobl ag anawsterau dysgu, a menter sydd hefyd yn gwneud cyfraniad allweddol i adfywio’r gymuned leol, yn unol ag egwyddorion Agenda 21 (gweler Atodiad 1);
  • Shotton Paper plc - Cwmni ailgylchu papurau newydd a chylchgronau mwyaf Ewrop, a gafodd grant o £23 miliwn er mwyn cynhyrchu papur wedi’i ailgylchu 100% (gweler Atodiad 2);
  • Ail Wynt - fferm wynt unigryw a ddatblygwyd gan gwmni cydweithredol o ffermwyr lleol, ac sy’n berchen i’r cwmni hwnnw. Enillodd y cwmni Wobr Ashden am ynni cynaliadwy ym mis Mehefin 2003. Maen nhw bellach yn ehangu’r prosiect - dan y teitl 'Ail Wynt’ (gweler Atodiad 3).

1.9 Dyma a ddywedodd aelodau’r cyhoedd:

  • Pwysleisiodd William Richards, Cyngor Conwy, fod angen ystyried cynaliadwyedd diwydiannau, a soniodd am effeithiau cynhyrchu papur wedi’i ailgylchu 100% gan Shotton Paper ar y diwydiant coedwigaeth yng Nghymru. Cydnabu John Sanderson o Shotton Paper fod angen dod o hyd i ffyrdd eraill o ddefnyddio coed;
  • Gofynnodd Elwyn Jones a oedd Shotton Paper wedi ystyried defnyddio’r rheilffyrdd i ddosbarthu ei ddefnyddiau crai. Dywedodd John Sanderson fod y cwmni’n ystyried hynny ond bod problemau o ran mynediad i’r safle ar hyn o bryd;
  • Gofynnodd George Johnson pam nad oedd modd ailgylchu hen lyfrau ffôn. Esboniodd John Sanderson ei bod yn anodd cael gwared ar yr inc o'r llyfrau, yn wahanol i bapurau newydd, lle roedd yr inc yn dal yn wlyb. Soniodd John Foster am natur gemegol ffyrnig y broses o gael gwared ar yr inc, ond esboniodd John Sanderson bod y toddiant yn niwtral ar ddiwedd y broses;
  • Gofynnodd Lynne Ashton o CAB Conwy a oedd perygl y gallai cwmnïau mwy gymryd gweithgareddau ailgylchu cwmnïau cymunedol megis Antur Waunfawr, ac felly beri bod llai o gyfle i bobl ag anableddau dysgu ymwneud â’r gweithgareddau hynny. Roedd Huw Davies, Antur Waunfawr, yn gobeithio y byddai’r awdurdodau lleol a’r Cynulliad yn gwerthfawrogi rhan y cymunedau lleol yn y prosiectau hyn;
  • Cyfeiriodd Catrin Elis-Jones, a oedd yn cynrychioli grwp cymunedol, at yr anawsterau yr oedd grwpiau cymunedol yn eu cael wrth geisio prynu tir;
  • Gofynnodd un o’r gynulleidfa a oedd tyrbinau gwynt yn swnllyd, a chadarnhaodd Geraint Davies o Ail Wynt bod y swn yn is na’r terfynau statudol;
  • Esboniodd Martin Mills o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru sut y mae’r Asiantaeth yn cyfrannu at y Cynllun Datblygu Cynaliadwy wrth arfer ei swyddogaethau. Roedd am weld y Cynllun Gweithredu ategol yn cael statws sylweddol yn y Cynllun diwygiedig, ac roedd hefyd am i’r Cynllun roi sylw i arferion nad ydynt yn gynaliadwy yng Nghymru;
  • Pwysleisiodd Alys Jones, ffermwr lleol, yr anawsterau sy’n wynebu’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru a heriodd ddelwedd y Gweinidog o ffermio. Soniodd am y newidiadau mewn arferion bwyta, yn sgil y dirywiad mewn sgiliau gwyddor ty.

Sylwadau ysgrifenedig

1.10 Cyflwynwyd sylwadau ysgrifenedig yn y cyfarfod ac ar ôl y cyfarfod, ac maent yn yr Atodiadau. Dyma’r prif bwyntiau a godwyd:

  • Dywedodd Peter Caldwell FRICS fod y cyflwynwyr wedi rhoi enghreifftiau rhagorol o ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru, ond bod mwy o ddweud nag o wneud yn gyffredinol o hyd. Roedd angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru arwain y ffordd um hyn o beth;
  • Awgrymodd Mike Bird y dylid ystyried yr holl ffactorau allanol wrth ystyried a allai ffynonellau ynni amgen gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy;
  • Roedd ansawdd y cyflwyniadau a’r trafod wedi gwneud argraff ar y Dr Anna Antonelli, Llanrwst, a gofynnodd sut y mae busnesau arloesol yn cychwyn. Galwodd hefyd am drafodaeth ar ddatblygiadau ym meysydd ynni a gwastraff;
  • Roedd Mrs L.V. Danson M.B.E., yn pryderu am gost casglu gwastraff, ac ategodd bwynt Mrs Jones fod mwy o wastraff pecynnu bwyd bellach yn sgil y dirywiad mewn sgiliau gwyddor ty.

Y camau nesaf

1.11 Bydd yr adroddiad hwn yn cyfrannu at yr adolygiad o Gynllun Datblygu Cynaliadwy’r Cynulliad Cenedlaethol. Cyflwynir copi o’r adroddiad i Weinidog yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad.

Janet Ryder AC
Cadeirydd y Pwyllgor