Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwyllgor Rhanbarth Y Gogledd

Adroddiad I Gynulliad Cenedlaethol Cymru 2006-2007

Cyflwyniad

1. Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd yw un o bum Pwyllgor Rhanbarth y Cynulliad a sefydlwyd o dan adran 61 Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a Rheol Sefydlog 10. Mae'r Pwyllgor yn cynnwys Alun a Glannau Dyfrdwy, Caernarfon, Clwyd, Conwy, Delyn, Wrecsam ac Ynys Môn.

2. Yn ôl Rheol Sefydlog 10.2

"Rhaid i'r Pwyllgorau Rhanbarth gynghori'r Cynulliad ynglyn â materion sy'n effeithio ar eu rhanbarthau, effaith polisïau'r Cynulliad yn y rhanbarthau hynny a gwaith cyrff cyhoeddus yno. Rhaid i bob Pwyllgor gyfarfod yn ei ranbarth o leiaf ddwywaith bob blwyddyn."

3. Mae gan y Pwyllgor 13 o Aelodau:

Eleanor Burnham Gogledd Cymru Y Democratiaid Rhyddfrydol
Mark Isherwood Gogledd Cymru Ceidwadwyr
Alun Ffred Jones Caernarfon Plaid Cymru
Ann Jones Dyffryn Clwyd Llafur
Denise Idris Jones Conwy Llafur
Ieuan Wyn Jones Ynys Môn Plaid Cymru
John Marek Wrecsam Cymru Ymlaen
Sandy Mewies Delyn Llafur
Alun Pugh Gorllewin Clwyd Llafur
Janet Ryder Gogledd Cymru Plaid Cymru
Carl Sergeant Alun a Glannau Dyfrdwy Llafur
Karen Sinclair De Clwyd Llafur
Brynle Williams Gogledd Cymru Ceidwadwyr

4. Etholwyd Brynle Williams yn Gadeirydd o fis Mai 2006.

Cyfarfodydd

5. Cyfarfu’r Pwyllgor chwe gwaith rhwng Mai 2006 a Mawrth 2007. Gweler y manylion yn Atodiad 1.

Dull o weithio

6. Rôl y pwyllgorau rhanbarth, fel y'i diffinnir yn Rheol Sefydlog 10.2, yw rhoi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol am faterion sy'n effeithio ar eu rhanbarthau, effaith polisïau'r Cynulliad arnynt a gwaith y cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau hynny.

7. Yn gyffredinol, canolbwyntiodd y Pwyllgor ar drefnu cyfarfodydd ar thema arbennig gyda phwyslais cryf ar y cyhoedd yn cymryd rhan drwy'r cyfarfod cyfan. Ar ôl pob cyfarfod, cynhyrchwyd adroddiad gan y Pwyllgor yn crynhoi'r sylwadau a fynegwyd gan bobl y Gogledd a chyflwynwyd y rhain i'r Gweinidog priodol i roi sylwadau arnynt.

Lleoliadau’r cyfarfodydd

8. Mae'r Pwyllgor wedi parhau'n ymrwymedig i ddull cynhwysol o weithio. Cynhaliodd y Pwyllgor gyfarfodydd yn Llandudno, Llaneurgain, Amlwch, Cei Connah, Llangollen a Chaernarfon.

Y Materion dan Sylw

9. Mae'r Pwyllgor wedi mynd i'r afael â gwahanol faterion sy'n ymwneud â phob agwedd ar gyfrifoldebau'r Cynulliad.

Darpariaeth Gwasanaeth Tân yng Ngogledd Cymru

10. Trafododd y Pwyllgor y ddarpariaeth Gwasanaeth Tân yng Ngogledd Cymru yn ei gyfarfod ar 19eg Mai. Rhoddodd y cyfarfod gyfle i sefydliadau lleol preifat a chyhoeddus, myfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd i leisio eu barn wrth y Pwyllgor, a throsglwyddwyd y safbwyntiau hefyd i’r Gweinidog Cyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Sue Essex AC.

Atal Troseddau ac Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol

11. Ym mis Gorffennaf, trafododd y Pwyllgor Atal Troseddau ac Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol. Clywodd y Pwyllgor oddi wrth Heddlu Gogledd Cymru a sefydliadau gwirfoddol lleol. Cafodd y safbwyntiau a gyflwynwyd eu trosglwyddo i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Edwina Hart AC.

Ynni Adnewyddadwy a Defnyddio Ynni’n Effeithlon

12. Trafododd y Pwyllgor Ynni Adnewyddadwy a Defnyddio Ynni’n Effeithlon yn ei gyfarfod mis Hydref. Rhoddwyd cyflwyniadau gan Gyngor Sir Gwynedd a darparwyr ynni lleol. Cafodd y farn a gyflwynwyd yn y cyfarfod ei throsglwyddo i’r Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau, Andrew Davies AC a’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad Carwyn Jones AC.

Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc

13. Trafododd y Pwyllgor Ddigartrefedd Ymhlith Pobl ifanc yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd. Clywodd y Pwyllgor gyflwyniadau gan Gyngor Sir Ddinbych a sefydliadau eraill yng Ngogledd Cymru sy’n delio gyda’r mater hwn. Cafodd y safbwyntiau a fynegwyd gan yr aelodau, y cyflwynwyr a’r cyhoedd eu cyfleu wrth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Edwina Hart AC a Chadeirydd y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Janice Gregory AC.

Twristiaeth

13. Yn ei gyfarfod ym mis Chwefror, bu’r Pwyllgor yn trafod Twristiaeth. Daeth cynrychiolwyr o gwmnïau a sefydliadau sy’n delio gyda Thwristiaeth yng Ngogledd Cymru i roi eu barn yn y cyfarfod. Cafodd y farn a fynegwyd ei throsglwyddo i’r Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau, Andrew Davies AC.

Iechyd Meddwl

14. Yn ei gyfarfod ym mis Mawrth, edrychodd y Pwyllgor ar Iechyd Meddwl. Cafwyd amrywiaeth eang o safbwyntiau, gan y cyflwynwyr a’r cyhoedd, a throsglwyddwyd y cyfan i’r Gweinidog dros Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Dr Brian Gibbons AC.

Casgliad

15. Rhoddodd Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd gyfle i aelodau’r Cynulliad ymgysylltu’n ffurfiol mewn dialog gyda ac i gyfleu barn pobl y rhanbarth a wnaethpwyd yn llwyddiannus yn ystod y cyfnod dan sylw.

Brynle Williams

Cadeirydd y Pwyllgor

ATODIAD 1

PWYLLGOR RHANBARTH Y GOGLEDD

AMSERLEN Y CYFARFODYDD

Mai 2006 hyd Fawrth 2007

Dyddiad

Lleoliad

Agenda

19 Mai 2006

Canolfan Gymuned Craig-y-Don, Llandudno

Darpariaeth Gwasanaeth Tân yng Ngogledd Cymru

·1 Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru

·2 Undeb y Frigâd Dân

·3 Cyngor sir Ddinbych

·4 Age Concern Canol Gogledd Cymru

7 Gorffennaf

2006

Coleg Garddwriaeth Cymru, Ffordd Treffynnon,

Yr Wyddgrug,

Sir y Fflint

Atal Troseddu ac Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol

·1 Heddlu Gogledd Cymru

·2 Cymdeithas Gwarchod Cymdogaeth Sir y Fflint

·3 Cyswllt yr Henoed Cymru

·4 NACRO

6 Hydref 2006

Neuadd Goffa Amlwch, Stryd y Farchnad, Amlwch, Ynys Môn, LL68 9ET

 

Ynni Adnewyddadwy a Defnyddio Ynni’n Effeithlon

·1 Canolfan Gynghori ar Ddefnyddio Ynni’n Effeithlon Gogledd Cymru (EEAC)

·2 Ymddiriedolaeth Carbon Cymru

·3 Cyngor Sir Gwynedd

·4 Prifysgol Cymru, Bangor

17 Tachwedd 2006

Y Neuadd Ddinesig, Cyngor Tref Cei Connah, Swyddfeydd y Cyngor Tref, Greenacre 14 Wepre Drive, Cei Connah,

Sir y Fflint, CH5 4HB

Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc

·1 Cyngor Sir Ddinbych

·2 Wrexham Foyer (Cymdeithas Tai Clwyd Alun)

·3 Shelter Cymru

·4 Cymdeithas Tai Hafan

9 Chwefror 2007

Y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol,

Ffordd yr Abaty,

Llangollen,

LL20 8SW

Twristiaeth

·1 Yr Adran Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau

·2 Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru

·3 Cymdeithas Lletygarwch Prydain

·4 Y Clwb Carafannwyr

23 Mawrth 2007

Stiwdio Barcud Derwen, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2BD

Iechyd Meddwl

·1 Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Sir Gwynedd

·2 Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru

·3 Adran Meddygaeth Seicolegol, Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd

·4 MIND Aberconwy