Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd

NWRC(2) 01-06

Meicroffon Agored: Cwestiynau i'r Prif Weinidog

1. Cyflwyniad

Roedd Rhodri Morgan AC, y Prif Weinidog, yn bresennol a chymerodd ran mewn sesiwn Meicroffon Agored, gan ateb cwestiynau gan aelodau o'r cyhoedd ar faterion sy'n arbennig o berthnasol i'r Gogledd, a chwestiynau'n ymwneud â'r Cynulliad Cenedlaethol.

2. Meicroffon Agored: Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Croesawodd y Cadeirydd Rhodri Morgan AC, y Prif Weinidog, i'r Pwyllgor ac awgrymodd y dylid symud ymlaen yn syth i'r cwestiynau.

Nododd Vicki Williams o'r Wyddgrug nad yw'r ddeddfwriaeth i wahardd hela a gyflwynwyd gan y llywodraeth yn ymarferol a gofynnodd a yw hyn yn awgrymu nad yw'r Llywodraeth Lafur yn deall problemau ardaloedd gwledig.

Atebodd y Prif Weinidog er ei fod yn deall fod gan bobl deimladau cryf ar y mater, ei fod yn bwysig deall nad oes gan eraill sy'n anghytuno lai o gydymdeimlad o ran problemau ardaloedd gwledig a'r mwynhad y gellir ei gael yno. Nododd fod y gwaharddiad yn gyfraith gwlad erbyn hyn. Ychwanegodd ei fod yn cefnogi mathau penodol o hela gyda gwn fel y dull o godi anifeiliaid, i amddiffyn wyn rhag llwynogod, ond nododd ei fod yn gwrthwynebu hela gyda chwn er pleser.

Gofynnodd Jonathan Davies beth oedd barn y Prif Weinidog o ran dyfodol amaethyddiaeth os bydd y polisi bwyd rhad presennol yn parhau a bod cynllun y taliad sengl yn dirywio.

Atebodd y Prif Weinidog fod yna ddwy agwedd:

- cynhyrchu bwyd drutach gyda gwerth ychwanegol ar gyfer marchnadoedd arbenigol sy'n gwerthu cynnyrch premiwm (cynnyrch organig a gynhyrchir yn lleol yn aml) a

- gofalu am y tir yn well a datblygu taliadau am yr hyn nad yw o bosibl y math mwyaf cynhyrchiol o ran amaeth nac o ran gofalu am y tir, sy'n cynnwys ffermio llai dwys yn hytrach na ffermio dwys er mwyn cadw mathau penodol o gynefinoedd a sicrhau bod yr amgylchedd mor atyniadol â phosibl.

Gofynnodd John Wyn Davies o Ysgol Maes Garmon pwy fydd yn cadw trefn ar y bobl sy'n cerdded ar dir preifat nad yw wedi'i gynnwys fel tir nad oes gan bobl hawl i grwydro arno - pwy fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y clwydi'n cael eu cau a bod defaid yn cael eu hamddiffyn rhag cwn sydd allan o reolaeth.

Atebodd y Prif Weinidog fod yr arwyddion cynnar yn awgrymu bod problemau tebyg yn brin o dan y ddeddf cefn gwlad a hawliau tramwy, er bod pryderon ffermwyr yn ddealladwy. Weithiau, bydd pobl yn gadael eu cwn (sydd weithiau heb eu brechu) yn rhydd, a hynny'n annoeth, gan adael clwydi'n agored ac ati. Mae'n bwysig addysgu'r cyhoedd, gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r problemau. Mae'r ddeddf cefn gwlad a hawliau tramwy newydd yn diogelu buddiannau ffermwyr a cherddwyr, a hyd yn hyn mae wedi gweithio'n dda iawn gydag ambell eithriad.

Gofynnodd Val Walker Jones pa gyllid sydd ar gael i'r awdurdodau unedol yng Nghymru i ddarparu llwybrau i'r cyhoedd i gael mynediad hawdd i dir mynediad agored ac a yw hyn yn ddigon.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn ymwybodol fod Eryl Williams wedi sôn am y bartneriaeth yn Sir Ddinbych. Nododd gan nad oedd yn bresennol nad oedd wedi clywed beth a ddywedwyd ynglyn â manylion y cyllid, o ran a oedd yn costio fwy na'r disgwyl. Addawodd y Prif Weinidog y byddai'n rhoi ateb ar ôl iddo gael y wybodaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o ran a yw eu cyllid grant Llywodraeth Leol gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ddigon.

Gofynnodd Mrs. G Lewis o ble fydd y trydan yn dod os nad oes gwynt.

Atebodd y Prif Weinidog mai ffynonellau trydan ysbeidiol yw ffermydd gwynt, a'u diben yw osgoi defnyddio tanwydd ffosil pan fo'r gwynt yn chwythu'n ddigon cryf i'r tyrbinau weithio.

Gofynnodd Maldwyn Williams pryd fyddai'r Cynulliad yn ystyried y polisi o ran argymell pobl i ddefnyddio paneli solar ym mhob adeilad diwydiannol domestig a masnachol newydd gydag arian cyfatebol ar gyfer eiddo sydd eisoes yn bodoli ac a yw'n bosibl defnyddio llawer o afonydd a nentydd yng Nghymru i gynhyrchu ynni trydan dwr. Pwysleisiodd fod y cwestiwn yn arbennig o berthnasol yn ystod adegau pan fydd cyflenwadau nwy naturiol Prydain yn rhedeg allan.

Atebodd y Prif Weinidog mai polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel a geir yn y map llwybr ynni, yw sicrhau cydbwysedd o ran ffynonellau adnewyddadwy i geisio sicrhau y caiff o leiaf deg y cant o'r trydan ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy cyn gynted â phosibl erbyn 2010. Nododd fod technolegau newydd bob amser yn ddrud i ddechrau ond bod y pris yn gostwng wrth i fwy o bobl eu defnyddio. Roedd ffermydd gwynt ar y tir yn ddrud yn y gorffennol, ond erbyn hyn maent yn rhad. Mae ffermydd gwynt ar y môr yn ddrud, ond mae'n bosibl y byddant yn rhad yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae defnyddio paneli solar at ddibenion domestig yn ddrud o hyd.

Nododd yr Athro Counter o Clawdd Newydd nad yw llawer o arbenigwyr erbyn hyn yn credu bod ffermydd gwynt yn lleihau gollyngiadau CO2 na'n ategu cyflenwadau ynni gan fod angen cymorth confensiynol arnynt. Gofynnodd a yw'r Prif Weinidog yn cydnabod y dylid ystyried eu heffaith ar dwristiaeth ac agweddau ar gefn gwlad agored o ddifrif, o gofio nad ydynt yn cyfrannu unrhyw beth i'r economi leol.

Atebodd y Prif Weinidog ei fod yn cytuno mai’r unig ffordd y byddai problem yn codi gydag ysbeidioldeb y cyflenwad o ynni gwynt yw os yw’r wlad yn buddsoddi'n helaeth mewn ynni gwynt. Yng Nghymru, golyga lefel yr ynni gwynt a gynhyrchir y gall y grid ymdopi ag ysbeidioldeb yr ynni a gynhyrchir o ffermydd gwynt. Nid oedd Cymru wedi bwriadu buddsoddi mewn un dechnoleg adnewyddadwy, ond yn hytrach sicrhau cydbwysedd rhwng ynni gwynt ar y môr/ar y tir, ynni llanw yn ogystal â thechnolegau na ellir eu hadnewyddu fel gorsafoedd pwer nwy. Hefyd, mae datblygu technoleg glo glân yn bwysig iawn o ran diogelu'r amgylchedd.

Gofynnodd Philip Edwards os oes yna strategaeth ar gyfer trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig ac i deithio o'r Gogledd i'r De. Nododd ei fod wedi dod i'r casgliad nad oes strategaeth o'r fath yn bodoli ar ôl gwrando ar y drafodaeth yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Awgrymodd y Cadeirydd y dylid trafod y mater hwn ynghyd â'r cwestiwn gan Peter Strong o Gymdeithas Rheilffordd Wrecsam, a ofynnodd a wnaed unrhyw gynnydd o ran gwella neu greu system drafnidiaeth integredig sy'n cysylltu holl drefi neu ddinasoedd mawr Cymru, yn cynnwys sefydlu maes awyr i deithwyr yng Ngogledd Cymru a darparu consesiynau teithio i'r henoed gyda thocynnau mantais ar fysiau ar y cyd.

Dywedodd y Prif Weinidog, ar wahân i'r problemau ar yr M4 a'r A55, cafwyd trafodaeth hefyd ar faint o orsafoedd trenau ychwanegol sydd angen eu hagor, er enghraifft, ar y llinell o Wrecsam i Bidston ac ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Caiff gwasanaeth awyr ei sefydlu o'r Gogledd i'r De yn ystod hydref 2006 gan ddefnyddio adran maes awyr milwrol ar gyfer teithwyr. Mae gwasanaethau trên uniongyrchol ar gael pum gwaith y dydd. O ran cysylltu pob tref fawr yng Nghymru gan wasanaethau trên uniongyrchol, nododd y Prif Weinidog nad oes yna drefi na dinasoedd mawr iawn yng Nghymru. Dim ond dinasoedd canolig eu maint fel Caerdydd ac Abertawe sydd yng Nghymru, a threfi canolig eu maint a setliadau bach. Mae yna wasanaeth rhwng Caergybi a Chaerdydd pum gwaith y dydd, ac mae'n derbyn cymhorthdal gan y Cynulliad Cenedlaethol. Gwasanaeth casglu ydyw sy'n casglu teithwyr o'r trefi mawr a bach ar y ffordd. Dywedodd y Prif Weinidog nad oes unrhyw gynigion i ehangu'r system gonsesiwn i'r henoed a phobl anabl deithio ar fysiau am ddim i'r gwasanaethau trên ar hyn o bryd. Dywedodd y byddai'n rhaid ymchwilio i'r materion hyn, ond mai'r flaenoriaeth yw ehangu gwasanaethau ac adeiladu gorsafoedd newydd.

Dywedodd Laura Smith y cafwyd achos o ladrad yn ei fferm yn ddiweddar, a nododd bod ei hyswiriant premiwm wedi cynyddu gan fod holl adnoddau'r heddlu yn y dinasoedd a'r trefi. Gofynnodd pam nad oedd fwy o blismona mewn ardaloedd gwledig.

Dywedodd y Prif Weinidog nad yw'n ymarferol gosod camerâu teledu cylch cyfyng ym mhob ran o Gymru wledig ond bydd yn rhaid i'r heddlu ystyried y ffordd o ymaddasu i'r sefyllfa newydd, gan fod y sefyllfa o ran lladrad wedi gwella mewn ardaloedd trefol ac mae troseddau wedi symud i ardaloedd gwledig.

Nododd Gwilym Evans, athro hanes a gwleidyddiaeth yn yr Wyddgrug, fod nifer o ddisgyblion yn astudio'r cwrs Gwleidyddiaeth Safon Uwch a rhan o'u gwaith yw astudio gwleidyddiaeth Cymru, Gogledd Iwerddon, yr Alban, system wleidyddol y DU a'r system yn yr Unol Daleithiau. Dywedodd fod ganddo ef a'i ddisgyblion ddiddordeb gwybod a yw’r Prif Weinidog o blaid y penderfyniad i fynd i ryfel yn Irac.

Dywedodd y Prif Weinidog na fu'n rhaid iddo wneud y penderfyniad pwysig hwnnw ac nid oedd yn teimlo ei fod yn briodol iddo gynnig ei farn bersonol.
Roedd cwestiwn arall yn pwysleisio pwysigrwydd cyfarfodydd Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd ar gyfer yr ardal honno, am eu bod yn helpu cynhwysiant cymdeithasol.

Cytunodd y Prif Weinidog mai Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd yw'r mwyaf o ran maint a'r mwyaf poblogaidd o'r Pwyllgorau Rhanbarth a bod achos cryf dros ei gynnal, ond pwysleisiodd mai cyfrifoldeb y Cynulliad yw gwneud y penderfyniad hwnnw.

Diolchodd y Cadeirydd i Rhodri Morgan am fod yn bresennol yn y cyfarfod ac am gymryd rhan yn y drafodaeth. Daeth â'r cyfarfod i ben drwy atgoffa'r Aelodau y cynhelir y cyfarfod nesaf yng Nghricieth.