1. Mae'r nodyn hwn yn darparu cyngor am y materion gwedduster sy'n codi wrth gyflawni swyddogaethau'r Cynulliad o dan y Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref a Deddf Trafnidiaeth a Gwaith 1992 sydd wedi'u dirprwyo i Bwyllgorau Penderfyniadau Cynllunio. Mae Rheol Sefydlog 27 yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau'r Panel Penderfyniadau Cynllunio gytuno i gael eu rhwymo gan y Côd Ymddygiad fel un o amodau gwasanaethu ar Bwyllgor Penderfyniadau Cynllunio. Mae Côd Ymddygiad ar wahân yn gymwys i Aelodau'r Cynulliad ac yn llywodraethu eu perthynas ag aelodau'r Pwyllgorau Penderfyniadau Cynllunio.
2. Yr amcan yw sicrhau gwneud pob penderfyniad yn gywir ac osgoi'r perygl o her gyfreithiol lwyddiannus. Ein nod yw sicrhau ymdrin yn deg, yn gyfiawn ac yn agored â'r partïon sydd â rhan mewn achosion cynllunio; sicrhau ystyried yr holl dystiolaeth yn llawn a seilio penderfyniadau ar ystyriaethau cynllunio perthnasol y mae'r holl bartïon wedi cael mynediad iddynt. Mae'r gyfraith yn amddiffyn yr egwyddorion hyn ac mae modd herio penderfyniadau yn y Llysoedd os na ddilynir mohonynt.
3. Gan hynny, rhaid gwneud penderfyniadau cynllunio yn unol ag egwyddorion cyfiawnder naturiol. Mae hyn yn golygu bod gan yr holl bartïon i achos cynllunio sydd i'w benderfynu gan y Cynulliad hawl i gyflwyno eu hachos iddo, a gweld achosion partïon eraill a gwneud sylwadau arnynt. Rhaid peidio â seilio'r penderfyniad ar unrhyw dystiolaeth arall (gan gynnwys sylwadau preifat), ac eithrio polisïau cyhoeddedig y Cynulliad, y bydd modd cymryd eu bod yn hysbys i'r partïon. Rhaid i Aelodau Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio osgoi rhoi unrhyw reswm dros amau bod y cyfryw sylwadau preifat wedi'u cyflwyno ac wedi'u cymryd i ystyriaeth. Os bydd tystiolaeth newydd, a fyddai'n effeithio ar y modd y gellid gwneud y penderfyniad, yn cael ei gyflwyno wrth i benderfyniad gael ei wneud, rhaid ei rhannu â'r partïon iddynt wneud sylwadau arni os byddant yn dymuno gwneud hynny. Bydd unrhyw wyro oddi wrth yr egwyddorion hyn yn gadael y penderfyniad yn agored i her gyfreithiol.
4. Bydd y Pwyllgorau Penderfyniadau Cynllunio yn penderfynu apelau cynllunio 'adferedig', ceisiadau cynllunio sydd wedi'u 'galw i mewn' i'r Cynulliad eu penderfynu, yn hytrach na'r awdurdod cynllunio lleol, a cheisiadau am Orchmynion o dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith 1992. Y Cynulliad yn ei chyfanrwydd sy'n gyfreithiol gyfrifol am benderfyniadau a wneir ganddo dan Ddeddfau Cynllunio Gwlad a Thref a Deddfau eraill.
5. Rhaid i aelodau Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio wneud y canlynol:
6. Mae'r canlynol yn dilyn o hyn:
7. Dylai aelodau'r Panel Penderfyniadau Cynllunio osgoi gwneud sylwadau ar unrhyw gais cynllunio, neu fater a allai ddod yn destun i gais cynllunio, rhag ofn ystyried eu bod wedi rhagfarnu'r mater petai'n dod gerbron y Cynulliad wedi hynny. Petai hynny'n wir, ni allai'r aelod gymeryd rhan mewn gwneud y penderfyniad. Caiff aelodau gyflwyno sylwadau ar achosion yn eu hetholaethau (gweler paragraff 11) am nad ydynt yn cael cyfranogi yng ngwneud y penderfyniadau hynny.
8. Wrth wneud penderfyniad, rhaid i aelodau'r Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio beidio ag ystyried unrhyw bolisïau heblaw rhai'r Cynulliad neu, lle byddai'n berthnasol eu hystyried, rhai'r Llywodraeth. Os bydd aelodau o'r Panel Penderfyniadau Cynllunio wedi gwneud datganiadau polisi sy'n berthnasol i achos penodol, neu os ydynt yn gysylltiedig â'r cyfryw ddatganiadau, gellid barnu eu bod wedi rhagfarnu'r mater yn hynny o beth ac ni chânt gyfranogi yng ngwneud y penderfyniad.
9. Rhaid i aelodau'r Panel beidio â defnyddio eu haelodaeth o'r Panel i geisio dylanwadu ar benderfyniad Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio nad ydynt yn aelodau ohono.
10. Fel rhan o'u dyletswyddau ehangach yn y Cynulliad, mae'n bosibl y bydd angen i aelodau o'r Panel Penderfyniadau Cynllunio fynychu cyfarfodydd lle disgrifir projectau datblygu ac ymweld â safleoedd datblygu arfaethedig. Gallai hyn arwain at her lwyddiannus petai'r mater yn dod gerbron Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio a bod modd dangos, er enghraifft, fod aelodau wedi rhagfarnu'r materion neu nad oeddent wedi dod atynt â meddwl agored, neu eu bod wedi gweithredu yn drefniadol annheg drwy roi i'r datblygydd gyfle i gyflwyno ei achos a'r cyfle hwnnw heb fod ar gael i'r partïon eraill. Mae maint y perygl yn dibynnu ar y cam y mae project arno.
11. Fel aelodau o'r Cynulliad sydd â chyfrifoldebau etholaethol, mae'n bosibl y bydd aelodau o'r Panel Penderfyniadau Cynllunio am leisio eu barn, neu farn ei hetholwyr, wrth awdurdod cynllunio lleol, neu wrth Arolygydd Cynllunio am achos yn eu hetholaeth.
12. Rhwydd hynt i aelodau gyflwyno sylwadau am gais cynllunio yn eu hetholaethau i'r awdurdod cynllunio lleol sy'n ei ystyried. Yn yr un modd, cânt gyflwyno sylwadau i'r Arolygiaeth Gynllunio lle bydd apêl yn cael ei phenderfynu gan Arolygydd Cynllunio. Yn ogystal â hyn, bydd modd cyflwyno sylwadau i'r Arolygiaeth pan fydd cais wedi cael ei alw i mewn neu apêl wedi cael ei hadfer, i'r Cynulliad ei benderfynu neu ei phenderfynu, ond cyn i'r ymchwiliad a gynhelir gan yr Arolygydd Cynllunio gau. Rhaid gwneud yr holl sylwadau o'r fath yn agored a chan gymryd y trefnir iddynt fod ar gael i'r holl bartïon sydd â buddiant. Rhaid egluro bod yr aelod yn gweithredu ar ran ei etholwyr neu ei hetholwyr, neu mai ei farn neu ei barn bersonol yw'r un a leisir ac nad yw'n cynrychioli barn y Cynulliad o gwbl. Ni chaiff yr aelod gymryd rhan yn y penderfyniad (os penderfyniad i'r Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio ei wneud ydyw, neu os daw'n benderfyniad o'r fath) a rhaid iddo neu iddi egluro na fydd yn gwneud hynny, ac na fydd ganddo neu ganddi ddylanwad arbennig ar y canlyniad.
13. Ar ôl gwneud penderfyniad am apêl gynllunio neu gais cynllunio, bydd y penderfyniad hwnnw'n derfynol ac ni fydd gan y Cynulliad unrhyw awdurdod pellach dros y mater - oni bai fod y penderfyniad yn cael ei wyrdroi yn y llysoedd. Ni ddylai aelodau'r Panel Penderfyniadau Cynllunio wneud sylwadau arno na'i drafod wedyn. Mae'n arbennig o bwysig iddynt beidio â dweud neu wneud dim a allai niweidio safle'r Cynulliad yn y cyfnod hwnnw (chwe wythnos, fel arfer) pryd y gallai'r penderfyniad fod yn agored i her gyfreithiol neu, os caiff her ei chychwyn yn ystod y cyfnod hwnnw, yn ystod y cyfnod ychwanegol cyn dod â'r achos i ben.