Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 

Y Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio

Roedd y Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio yn penderfynu ar:

  • Apelau o dan Adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (yn yr achosion hynny lle bydd y Cynulliad wedi adfeddiannu awdurdod ar gyfer penderfynu'r apêl oddi wrth yr Arolygydd penodedig);
  • Ceisiadau am ganiatâd cynllunio sydd wedi'u galw i mewn gan y Cynulliad ar gyfer penderfyniad o dan Adran 77 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
  • Ceisiadau am gadarnhau Gorchymyn a wnaed o dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith 1992.

Côd Ymddygiad ar Gyfer Aelodau'r panel Penderfyniadau Cynllunio

Côd Ymddygiad ar Gyfer Aelodau'r Cynulliad

Ystyried gan Bwyllgor Penderfyniadau Cynllunio*

Roedd y Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio yn cyfarfod yn breifat. Roedd ei aelodau o dan ddyletswydd i gadw cyfrinachedd unrhyw drafodaeth gan y Pwyllgor ac unrhyw ddogfennau a ystyriwyd gan y Pwyllgor, heblaw llythyr penderfyniad Pwyllgor ar ôl iddo gael ei fabwysiadu, ynghyd ag unrhyw ddogfennau y mae’n cyfeirio atynt.

Roedd swyddogaethau’r Pwyllgor yn peidio pan oedd y Cadeirydd yn llofnodi llythyr penderfyniad y penderfynodd y Pwyllgor ei fabwysiadu, neu cyn y dyddiad a bennir yn y cynnig a wnaeth sefydlu’r Pwyllgor.

* Gweler Rheol Sefydlog 17.11 - 17.17 am ragor o wybodaeth am ystyriaeth gan y Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio (Atodlen 1, Atodiad A)

Datgymhwyso

Byddai Aelod o’r Panel yn cael ei ddatgymhwyso rhag bod yn aelod o Bwyllgor Penderfyniadau Cynllunio penodol os fyddai*:

a) yr apêl neu’r cais yn gysylltiedig â safle yn etholaeth neu ranbarth etholiadol yr Aelod hwnnw; neu

b) yr Aelod â buddiant yn nhestun yr apêl neu’r cais; neu

c) amgylchiadau eraill y gellid eu hystyried yn rhywbeth a fyddai’n codi amheuon ynglyn â gallu’r Aelod i ystyried yr apêl neu’r cais yn wrthrychol ac yn ddiduedd.

* Gweler Rheol Sefydlog 17 Atodiad A paragraff 2 am restr gyflawn o’r meini prawf ar gyfer datgymhwyso

Aelodaeth

Roedd y Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio yn cynnwys pedwar aelod, a etholwyd o’r newydd ar gyfer pob apêl neu gais (neu grwp o apelau/ceisiadau). Roedd yr aelodau’n cael eu dethol o’r Panel Penderfyniadau Cynllunio a oedd yn cynnwys aelodau Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad*.

*Gweler Rheol Sefydlog 17 Atodiad A paragraff 1 am fanylion llawn yr amodau ar gyfer aelodaeth o’r Panel Penderfyniadau Cynllunio.