Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 

Panel y Cadeiryddion

Fel a nodir yn Rheol Sefydlog 9.2, dewisir Cadeiryddion y Pwyllgorau Pwnc o blith panel o Aelodau a etholir gan y Cynulliad er mwyn sicrhau, cyhyd ag y bo modd, fod aelodaeth y Panel yn adlewyrchu cydbwysedd y pleidiau yn y Cynulliad. Mae nifer yr aelodau ar y Panel yn cyfateb i nifer y Pwyllgorau Pwnc. Nid yw'r Gweinidogion yn gymwys i fod yn aelodau o'r Panel.

Ar ddiwedd yr Ail Gynulliad, roedd Panel y Cadeiryddion yn cynnwys saith Cadeirydd y Pwyllgorau Pwnc, a cyfarfu i ystyried materion a oedd yn ymwneud â gwaith y Pwyllgorau Pwnc. Gwahoddwyd Cadeiryddion y Pwyllgorau Sefydlog ar Archwilio, Cyfle Cyfartal a Materion Ewropeaidd ac Allanol ddod i gyfarfodydd y Panel i arsylwi.

Bu’r Panel yn cyfarfod yn breifat unwaith y mis, o dan gadeiryddiaeth Y Llywydd. Ym mis Tachwedd 2004, cytunodd y Panel y byddai'n cyhoeddi cofnodion ei gyfarfodydd.