Y Comisiwn Cysgodol
Bydd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei sefydlu ym mis Mai 2007 o dan Gymal 27 o Fesur Llywodraeth Cymru. Y Comisiwn fydd y corff corfforaethol a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod gan y Cynulliad Cenedlaethol yr eiddo, y staff a’r gwasanaethau y bydd eu hangen arno.
Sefydlwyd y Comisiwn Cysgodol drwy bleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Mai 2006. Bu’n cynllunio ar gyfer y materion hynny y bydd Comisiwn y Cynulliad yn gyfrifol amdanynt, a pheidiodd â bodoli ar 2 Mai 2007.